Swyddi ar lein
Rheolwr Strwythurau
£45,648 - £47,665 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 21-22282
- Teitl swydd:
- Rheolwr Strwythurau
- Adran:
- Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru
- Gwasanaeth:
- Uned Busnes a Statudol
- Dyddiad cau:
- 14/04/2022 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 37 Awr
- Cyflog:
- £45,648 - £47,665 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- PS7
- Lleoliad(au):
- Gweler Hysbyseb Swydd
Manylion
Hysbyseb Swydd
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y [Pecyn Gwybodaeth]
Rheolwr Strwythurau
CYFLOG: PS7 SCP 41-43 £43,662 - £45,591
LLEOLIAD: Halkyn, Bangor, Conwy, Dolgellau, Llandrindod
(Trefn gweithio hybrid o gartref ar gael)
Rheoli tîm o 15 o staff mewnol gyda chadwyn gyflenwi ehangach sy'n cefnogi cyflawni rhaglenni gwaith archwilio, cynnal a chadw a chyfalaf ar holl strwythurau Cefnffyrdd yng ngogledd chanolbarth Cymru. Mae hyn yn cynnwys dros 2000 o strwythurau gyda chyllideb flynyddol o tua £6m.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau penodol am y swydd uchod, cysylltwch, os gwelwch yn dda, gyda Mark McNamara ar 07833 400560 Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg a’r Saesneg yn ddymunol ar gyfer y swyddi hyn
Dyddiad Cau 10.00 yb, DYDD IAU 14 o Ebrill 2022 Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu â chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd |
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
- Gallu arwain timau ac ysgogi staff
- Gallu rheoli gwaith o gydredeg swyddogaethau amlddisgyblaethol
- Gallu arwain a chydlynu darparwyr gwasanaeth
- Gallu trefnu blaenoriaethau gwaith, cynllunio ymlaen llaw a chyflwyno rhaglenni gwaith yn brydlon
- Gallu cydlynu a rheoli’n effeithiol y broses o gyflwyno rhaglenni gwaith drwy ddarparwyr gwasanaeth
- Gallu gweithio dan bwysau
- Yn ymroddgar ac â’r gallu i'w gymell ei hun
DYMUNOL
---
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
- Gradd mewn disgyblaeth sy’n ymwneud â Pheirianneg Sifil / Peirianneg Strwythurol neu gyfwerth
- Wedi cyflawni ac yn mynd i gynnal statws Peiriannydd Sifil / Peiriannydd Strwythurol
DYMUNOL
- Hyfforddiant Iechyd a Diogelwch
- Hyfforddiant Rheolwyr
- Achrediad NHSS 31 (BICS) ar lefel Uwch Arolygwr
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
- Profiad perthnasol mewn rheoli asedau strwythurau priffyrdd o ran eu hasesu, eu harchwilio, eu cynnal a’u cadw, eu dylunio a’u gwella
- Profiad fel rheolwr prosiect ar gyfer cynlluniau strwythurau priffyrdd
- Profiad o reoli rhaglenni archwilio a chynnal a chadw pontydd
- Profiad o reoli tîm amlswyddogaethol ar lefel uwch
DYMUNOL
- Profiad o ddarparu prosiectau strwythurau ar rwydwaith ffyrdd cyflym
- Profiad gyda gofynion geodechnegol prosiectau sy'n ymwneud â phriffyrdd
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
- Sgiliau rhyngbersonol cadarn ynghyd â sgiliau ysgrifennu a chyflwyno da
- Gwybodaeth drylwyr o reoli asedau strwythurau, cynnal a chadw, asesiadau, prosesau a gofynion cryfhau ac adnewyddu
- Gwybodaeth drylwyr o ddeddfwriaeth, safonau a pholisïau eraill yn ymwneud â rheoli asedau strwythurau priffyrdd
- Trwydded Yrru Gyfredol
DYMUNOL
- Gwybodaeth fanwl o systemau rheoli asedau LlC
- Gwybodaeth o beirianneg geodechnegol
GOFYNION IAITH
Gwrando a siarad
Cymraeg yn ddymunol
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd
- Yn gyfrifol am reolaeth gyffredinol Strwythurau Priffyrdd Cefnffyrdd gyda chyfrifoldeb penodol am:
- Archwilio Cyflwr Asedau a;
- Rheoli'r dasg o gyflawni rhaglenni Asesu, Cryfhau, Cynnal a Chadw, Uwchraddio ac Adnewyddu.
- Rheoli pob rhaglen cynnal a chadw strwythurau arferol;
- Gweithredu fel arweinydd technegol yr Asiant ar bob mater yn ymwneud â strwythurau.
- Bod yn gyfrifol am oruchwylio a chydlynu holl brosiectau strwythurau'r Asiant o ran sicrhau y cânt eu cyflawni yn unol â’r gofynion costau, amser ac ansawdd.
- Cynorthwyo i gydlynu a rhaglennu cynlluniau adnewyddu, cynnal a chadw ac uwchraddio strwythurau a chynlluniau diogelwch blynyddol a phob pum mlynedd yr Asiant.
- Rheoli sut caiff y swyddogaethau Archwilio a Rheoli Data eu gweithredu a’u cyflawni gan ddefnyddio Systemau Rheoli Asedau Asiant Cefnffyrdd Llywodraeth Cymru (LlC), a rhoi cyngor ar gyflwr yr asedau a rhaglenni gwaith er mwyn sicrhau y gellir dangos gwerth am arian.
- Rheoli Strwythurau'r Asiant, darparwyr gwasanaeth ac ymgynghorwyr allanol Awdurdodau Partner i gyflwyno comisiynau strwythurau priffyrdd yn unol â gweithdrefnau’r Asiant er mwyn sicrhau y gellir bodloni targedau ansawdd, amser a chostau.
- Adolygu’r gwasanaeth yn barhaus ac adnabod y mannau ble ceir yr ymarfer gorau a chynghori uwch reolwyr ynghylch y mesurau gwella priodol. Rhaglennu a gweithredu cynlluniau gwella y cytunir arnynt.
- Gweithredu fel Noddwr Prosiect a Chleient CDM ar brosiectau fel y cytunwyd.
- Caffael a bod yn rheolwr prosiect ar wasanaethau dylunio ymgynghorol a chontractio yn unol â gweithdrefnau’r Asiant, gan sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion perfformiad.
Cyfrifoldeb am swyddogaethau
- Rheoli'r tîm mewnol sy'n gyfrifol am gyflawni, archwilio a chynnal a chadw prif strwythurau (15 staff)
- Rheoli darparwyr gwasanaethau allanol (darparwyr gwasanaethau LlC, Awdurdodau Partner ac ymgynghorwyr a chontractwyr sector preifat);
- Rheoli'r gwaith o baratoi bidiau a chyllidebau strwythurau cysylltiedig
Prif Ddyletswyddau
Rheoli Strwythurau
- Gweithredu, rheoli ac adolygu polisïau a gweithdrefnau sy’n ymwneud ag archwilio, cryfhau, cynnal a chadw, uwchraddio a rheoli cyflwr strwythurau ac asedau geodechnegol LlC yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru i leihau costau oes gyfan.
- Caffael a rheoli darparwyr gwasanaeth strwythurau, ymgynghorwyr a chontractwyr allanol i gyflawni gofynion cyffredinol strwythurau a gofynion geodechnegol yr Asiant.
- Rheoli'r swyddogaethau allweddol a ganlyn:
- Rheolaeth gyffredinol o’r holl asedau sy’n ymwneud â strwythurau gan gynnwys Pontydd, Twneli, Traphontydd, Cylfatiau, Waliau Cynnal, Pontydd Arwyddion, Strwythurau ITS, Strwythurau Cynnal Daear a Systemau Atal Ffyrdd.
- Rhaglen Asesu a Chryfhau
- Rheolaeth o strwythurau is-safonol
- Rhaglen Uwchraddio Canllawiau
- Asesu / Diogelu Glanfeydd a Phileri
- Rhaglen uwchraddio pontydd (eu gwneud i ddal dŵr, cymalau, berynnau)
- Rheoli rôl Peiriannydd Cyswllt Cynnal a Chadw Geodechnegol (GMLE) dan DMRB HD41 ac ymgymryd â swyddogaethau rheoli geodechnegol dan HD22 gyda chymorth gan ddarparwyr gwasanaeth.
- Cynorthwyo Rheolwr Twnnel Llywodraeth Cymru i gyflawni prosiectau yn ymwneud â Strwythurau'r Twnnel fel y bo'r gofyn gan Reoliadau Diogelwch Twneli Ffyrdd a safonau cenedlaethol perthnasol eraill.
- Rheoli'r dasg o gyflawni'r rhaglenni uchod ac ar yr un pryd cael gwerth am arian a sicrhau diogelwch, defnyddioldeb a chynaliadwyedd.
- Cyswllt â budd-ddeiliad allweddol ym mhob mater yn ymwneud â Strwythurau Cefnffyrdd gan gynnwys Uwch Reolwyr LlC, Rheolwyr Pontydd Awdurdodau Lleol, Darparwyr Gwasanaeth, Ymgynghorwyr Sector Preifat, Cyrff Cyhoeddus (Cyfoeth Naturiol Cymru, Ymgymerwyr Statudol, CADW ac ati), Sefydliadau a Chontractwyr Gwaith Uniongyrchol, Gwasanaethau Brys.
- Adolygu Cymeradwyaeth mewn Egwyddor ar gyfer Asesiadau a Dyluniadau i strwythurau newydd neu addasiad strwythurau presennol yn unol â safonau LlC a safonau Technegol a Chenedlaethol.
- Archwiliadau derbyniad a rheoli holl strwythurau newydd ac asedau geodechnegol fel rhan o gofrestr asedau LlC a’u hymgorffori yn y cyfundrefnau rheoli strwythurau presennol.
- Adolygu'r holl adroddiadau ac arolygon technegol megis Prif Adroddiadau Archwilio ac Adroddiadau Archwilio Cyffredinol.
- Rheoli'r tîm archwilio a chynnal a chadw pontydd mewnol wrth gyflawni Prif Raglenni Archwilio a Rhaglenni Archwilio Cyffredinol ac Arbenigol gan sicrhau y darperir gwasanaeth yn unol â gofynion a dangosyddion perfformiad LlC.
- Rheoli sefydliadau llafur uniongyrchol darparwyr gwasanaeth a chontractwyr allanol wrth gyflawni'r Rhaglen Waith Cynnal a Chadw Arferol strwythurau a geodechnegol yn unol â Llawlyfr Cynnal a Chadw Cefnffyrdd LlC.
- Cynghori’r Asiant ynghylch materion yn ymwneud â strwythurau a materion geodechnegol yn y gwaith ar y rhaglenni strwythurau a materion yn ymwneud â rhaglenni gwaith eraill.
- Rheoli perfformiad darparwyr tîm archwilio mewnol wrth gyflawni rhaglen o archwiliadau, asesiadau ac astudiaethau asedau gan gynnwys casglu a choladu data cyflwr yn unol â gofynion LlC.
- Gweithredu cronfeydd data Rheoli Asedau LlC a gweithredu prosesau a systemau i ddiweddaru a chynnal rhestrau stoc a chofnodion sy’n perthyn i asedau LlC.
- Cynorthwyo Llywodraeth Cymru i adnabod a blaenoriaethu rhaglen o gynlluniau adnewyddu ac uwchraddio drwy ddarparu gwybodaeth ynghylch y cyflwr.
- Unrhyw ddyletswyddau eraill sydd eu hangen er mwyn darparu’r gwasanaeth rheoli pontydd sydd gymesur â graddfa’r swydd.
Rheoli Prosiect
- Rheoli caffael gwaith cefnffyrdd a gwasanaethau ymgynghori gan gynnwys adnewyddu prif gontractau cynnal a chadw a chynlluniau uwchraddio / gwella, gan ddefnyddio gweithdrefnau tryloyw ac effeithlon.
- Ymgymryd â rôl oruchwylio a chydlynu ar gyfer holl brosiectau strwythurau a sicrhau y cânt eu cyflawni yn unol â’r gofynion costau, amser ac ansawdd.
- Sicrhau bod egwyddorion Rethinking Construction yn cael eu hyrwyddo gan yr Asiant yn ei weithdrefnau caffael a chyfarwyddo rheolaeth pob contract adeiladu a chontractau eraill a osodir gan yr Asiant.
- Rheoli amryw o raglenni cynlluniau gwella.
- Cysylltu gyda Rheolwyr Asedau a Rheolwyr Rhanbarthol / Llwybrau i adnabod, dylunio a darparu cynlluniau i wella’r rhwydwaith.
- Cyflawni rhaglenni gwaith treigl sydd wedi’u rhaglennu ar gyfer seilwaith asedau strwythurau yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru.
- Rheoli gweithredu gwaith drwy weithdrefnau caffael priodol.
- Defnyddio egwyddorion system rheoli prosiect PRINCE2.
- Cysylltu gyda darparwyr yr Awdurdodau Partner a'r sector preifat ynghylch prosiectau, gan gynnwys darparu Dangosyddion Perfformiad Allweddol.
- Cysylltu gyda’r Uned Cyflawni ac Archwilio yng nghyswllt rheoli perfformiad prosiectau
Sicrhau bod y gwaith o weinyddu contractau ar gyfer prosiectau ar y rhwydwaith yn cydymffurfio â gofynion LlC.
Gweithredu fel Noddwr Prosiect ar brosiectau fel y cytunwyd. I’r perwyl hwn, ymgymryd â’r swyddogaethau isod:-
- adnabod anghenion prosiect, sicrhau cyllid prosiect a pharatoi brîff prosiect;
- sicrhau y caiff pob comisiwn ei ddyrannu yn unol â Phrotocol Gwasanaeth Ymgynghorol yr Awdurdod Partner.
- cytuno ar raglen a briff y prosiect
- cymeradwyo ffioedd ymgynghori a chynigion y tîm cyflawni
- cysylltu â staff perthnasol LlC;
- bod yn gyfrifol am gyflawni’r prosiect yn ei gyfanrwydd a rheoli’r gyllideb.
- cytuno ar iawndal a'i gymeradwyo;
- adolygu a chytuno ar gyflwyno taliadau’n fisol
- derbyn, adolygu, addasu a chymeradwyo Dangosyddion Perfformiad Allweddol y prosiect.
- cychwyn prosesau diffyg perfformiad.
- adrodd ar y gwariant hyd yma, a phroffil gwariant y dyfodol i Uned Fusnes yr Asiant.
- trefnu a chadeirio cyfarfodydd cynnydd prosiect.
- adolygu a chadarnhau cyflwyniadau sy’n gysylltiedig â'r prosiect cyn eu cyflwyno i LC.
- sicrhau y caiff prosiectau eu terfynu'n briodol ac yn unol â gweithdrefnau diffiniedig.
Gweithredu fel Cleient CDM ar brosiectau fel y cytunwyd. Cynghori a chynorthwyo Noddwyr Prosiect ar rôl y Cleient CDM.
Gweithredu mewn swyddogaeth uwch wrth ymdrin â materion cytundebol sylweddol gan gynnwys datrys anghydfod, digwyddiadau o iawndal a gaiff eu herio, a’r broses gyflafareddu.
Rheoli’r holl gyllidebau prosiect priffyrdd perthnasol sy’n gysylltiedig â’r uchod.
Rheoli Rhaglenni
Cynorthwyo i gydlynu’r broses o adnabod, hyrwyddo a blaenoriaethu rhaglenni blynyddol a rhaglenni pum mlynedd yr Asiant o gynlluniau adnewyddu strwythurau, cynlluniau cynnal a chadw, uwchraddio a chynlluniau diogelwch.
Cefnogi'r Uned Cyflawni ac Archwilio i ddatblygu a chyflawni rhaglen gyffredinol o brosiectau strwythurau refeniw a chyfalaf ar draws y rhwydwaith Cefnffyrdd yng ngogledd Cymru yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru (LlC).
Galluogi cyflawni’r rhaglenni o brosiectau drwy gaffael gwasanaethau ymgynghorol cefnffyrdd a gwaith adeiladu yn unol â gweithdrefnau’r Asiant.
Dyletswyddau Technegol Eraill
Cynorthwyo yng nghyswllt agweddau technegol a chytundebol y sefydliad, monitro ac adnewyddu contractau fframwaith yr Asiant.
Cynorthwyo i ddatblygu a gweithredu polisi a gweithdrefnau caffael prosiectau, gan gynnwys datblygu a gweithredu system rheoli prosiectau SharePoint a’r gronfa ddata gysylltiedig. Bydd hyn yn cynnwys materion hyfforddi a datblygu staff o fewn yr Asiant a gyda darparwyr gwasanaeth.
Datblygu ac adolygu prosesau fel rhan o raglen wella barhaus i sicrhau bod dyraniadau cyllidebol yn cael eu defnyddio’n effeithiol ac yn effeithlon, ac y cwblheir gwaith ar amser ac yn unol â gofynion costau ac ansawdd, heb ymateb diangen gan y cyhoedd neu’r cyfryngau.
Cynorthwyo gyda rheoli, casglu, paratoi a chyflwyno amcangyfrifon cost a rhaglennu i LlC yn unol â'r prosesau comisiynu a gytunwyd.
Sicrhau cydymffurfiaeth â’r holl ofynion deddfwriaethol sy’n berthnasol i’r swydd.
Sicrhau bod darparwyr gwasanaeth Awdurdodau Partner yr Asiant a’r Fframwaith yn cydymffurfio â pholisïau a safonau'r DU / LlC, yn cynnwys:
- Canllaw Dylunio ar gyfer Ffyrdd a Phontydd
- Manyleb ar gyfer Gwaith ar Briffyrdd
- Dull Mesur Gwaith ar Briffyrdd
- Pennod 8, Canllaw Arwyddion Traffig
- Canllaw Cynnal a Chadw Cefnffyrdd LlC
- Contractau NEC
- Rheolau Sefydlog Cyngor Gwynedd
- Dogfennau perthnasol eraill y cyfeirir atynt yn y cytundeb WAGMAA
Rheoli Perfformiad
Cynorthwyo’r Rheolwr Busnes ac Ansawdd a staff perthnasol i ddatblygu systemau a gweithdrefnau ar gyfer System Rheoli Busnes yr Asiant.
Sicrhau y gweithredir systemau a gweithdrefnau er mwyn archwilio, monitro a rheoli perfformiad y gadwyn gyflenwi wrth gyflawni’r prosiectau.
Gweithredu dulliau o arolygu perfformiad a gweithio mewn partneriaeth er mwyn darparu gwelliant parhaus.
Mynd i’r afael â meysydd lle ceir diffyg perfformiad ar ran y darparwr gwasanaeth.
Iechyd a Diogelwch a’r Amgylchedd
- Mae holl staff yr Asiant yn gyfrifol am gydymffurfio â’r polisïau Iechyd a Diogelwch, amgylcheddol ac ansawdd fel y cânt eu diffinio yn System Rheoli Busnes Integredig yr Asiant.
- Sicrhau y cedwir yn gaeth at bolisïau a deddfwriaethau amgylcheddol ac Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith.
Cymryd cyfrifoldeb am Iechyd a Diogelwch personol bob amser.
Cyffredinol
Cyd-gysylltu, fel bo’n briodol, â swyddogion yr Asiant, Swyddogion LlC, Awdurdodau Partner a chyrff perthnasol eraill.
Meithrin diwylliant o arloesedd a gwelliant parhaus. Yn y cyd-destun hwn, monitro datblygiadau technolegol, cytundebol a datblygiadau eraill yn y diwydiant, gan gynnwys dulliau newydd, gyda’r nod o fabwysiadu’r arfer gorau pan fo hynny’n briodol.
Cynorthwyo a chefnogi’r Tîm Cyflawni ac Archwilio. Darparu cefnogaeth i swyddogion eraill yr Asiant wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau.
Cynrychioli buddiannau’r Asiant yn gyffredinol mewn cyfarfodydd gyda rhanddeiliaid.
Dyletswyddau rheolaethol, gweinyddol, technegol a phroffesiynol sy’n gymesur ag awdurdod y swydd.
Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
Sicrhau cydymffurfiaeth â rheoliadau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
Gweithredu yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau y cedwir gwybodaeth bersonol yn unol â deddfwriaeth Diogelu Data.
Amlinelliad yn unig yw’r rhestr uchod o ddyletswyddau. Disgwylir i ddeiliad y swydd ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill sy’n berthnasol i natur a graddfa’r swydd, yn unol â cheisiadau rhesymol gan y Rheolwr Llinell.
Amgylchiadau Arbennig
- Bydd gofyn gweithio tu allan i oriau swyddfa arferol am gyfnodau yn y swydd hon gan gynnwys bod yn bresennol pan gaeir twnelau’r A55 yn ystod y nos, bod yn bresennol mewn gweithgareddau cynnal a chadw adweithiol / arferol ac yn ystod prosiectau gwaith cyfalaf yn ystod y nos.
- Ymweld â safleoedd adeiladu.
- Mynychu cyfarfodydd mewn mannau eraill o'r DU (e.e. Llandrindod, Caerdydd).