Swyddi ar lein
Gofalwr/Gofalwraig Ysgol Cae Top, Bangor
£9,235 - £9,382 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 26-33387
- Teitl swydd:
- Gofalwr/Gofalwraig Ysgol Cae Top, Bangor
- Adran:
- Addysg
- Gwasanaeth:
- Ysgolion
- Dyddiad cau:
- 01/12/2026 12:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 15 Awr
- Cyflog:
- £9,235 - £9,382 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- GS3
- Swydd tymor ysgol:
- 39 Wythnos
- Lleoliad(au):
- Ysgol Cae Top, Bangor
Manylion
Hysbyseb Swydd
ADDYSG
YSGOLION CYNRADD
GOFALWR / GOFALWRAIG YSGOL
YSGOL CAE TOP, BANGOR
(Cynradd 3 – 11 oed: 239 o ddisgyblion)
Ysgol Gynradd Wirfoddol dan Reolaeth yr Eglwys yng Nghymru
Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa GS3 pwyntiau 5 - 6 (sef £9,235 - £9,382 y flwyddyn), yn ôl profiad a chymhwyster.
Yn eisiau: Cyn gynted a phosib
Oriau gwaith: 15 awr yr wythnos fel Gofalwr / Gofalwraig Ysgol (39 wythnos y flwyddyn tymor ysgol gan gynnwys dyddiau Hyfforddiant Mewn Swydd) yn ogystal ag oriau ychwanegol yn ystod gwyliau Ysgol i’w nodi ar daflen amser.
Gwahoddir ceisiadau gan unigolion sydd â phrofiad perthnasol a’r rhinweddau penodol ar gyfer y swydd o Ofalwr / Gofalwraig yr ysgol.
Mae’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd. Mae’r ysgol yn gweithredu’n unol a’i Pholisi Iaith. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Gwahoddir unrhyw rai sydd â diddordeb a/neu sydd angen gwybodaeth ychwanegol i drafod yn anffurfiol gyda’r Pennaeth, Mr Llew Davies. Rhif Ffôn 01248 352325 e-bost: llew.davies@caetop.ysgoliongwynedd.cymru
Dylid cyflwyno cais am y swydd ar-lein. Os nad yw hyn yn bosibl, yna gallwch gysylltu gyda Mair Hughes, Cymhorthydd Cefnogi Ysgol. Rhif ffon 01758 704156 e-bost: mairhughes2@gwynedd.llyw.cymru
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallant gychwyn yn yr ysgol.
DYDDIAD CAU: 12 O’R GLOCH, DYDD MAWRTH, 1 RHAGFYR 2026.
(This is an advertisement for a Caretaker (15 hours) at Ysgol Cae Top, Bangor for which the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential. The Council will require a Disclosure and Barring Service certificate for the successful applicant before they can start at the school).
Mae’r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae’n disgwyl y bydd pob un o’i staff a’i wirfoddolwyr yn rhannu’r ymrwymiad hwn.
This authority is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this commitment.
Manylion Person
Gweler Swydd Ddisgrifiad.
Swydd Ddisgrifiad
Patrwm gwaith: Agor a chloi’r ysgol bob dydd. Trefnir gweddill yr oriau gyda’r Pennaeth; gweler “Patrwm gwaith arferol” isod.
Oriau yn ystod y gwyliau: Trefnir oriau cyfnodau’r gwyliau drwy gytundeb rhwng y Gofalwr a’r Pennaeth, yn unol â gofynion profi, archwilio a chynnal a chadw’r ysgol.
Gwyliau blynyddol: Mae gwyliau blynyddol â thâl yn ychwanegol at yr oriau uchod ac wedi’u cynnwys wrth gyfrifo’r cyflog blynyddol.
Goramser: Telir goramser ar gyfradd fesul awr arferol y Gofalwr. Rhaid cytuno ar bob cyfnod o oramser ymlaen llaw gyda’r Pennaeth.
Pan ddefnyddir yr ysgol gyda’r nos neu ar benwythnos, gall fod gofyn i’r Gofalwr agor yr adeilad, cadw golwg ar ei ddiogelwch a chloi ar y diwedd. Gellir trefnu i aelodau eraill o staff yr ysgol gloi ar rai nosweithiau.
Amodau gwaith: Yn unol ag amodau gwasanaeth cenedlaethol a lleol Cyngor Gwynedd ar gyfer gweithwyr llywodraeth leol.
Diogelu: Mae’r penodiad yn amodol ar ddatgeliad manwl boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), geirdaon boddhaol a gwiriadau cyn cyflogi.
Pwrpas y swydd
Bydd y Gofalwr yn sicrhau bod adeilad a thir Ysgol Cae Top yn ddiogel, yn daclus ac mewn cyflwr da, a bod ystafelloedd a gwasanaethau’r ysgol yn barod ar gyfer y disgyblion, y staff a phawb arall sydd â hawl i’w defnyddio.
Patrwm gwaith arferol
Bob dydd: Agor yr ysgol yn y bore a’i chloi ar ddiwedd y dydd.
Gwirio’r llwybrau at yr ysgol a’u clirio yn ôl yr angen.
Delio ag unrhyw fater iechyd a diogelwch, neu roi gwybod i’r Pennaeth amdano.
Unwaith yr wythnos: Bore hwy er mwyn cynnal y profion a’r prosesau statudol, er enghraifft rhedeg y tapiau am ddeng munud, profi’r larwm tân o bwynt galw gwahanol a phrofi’r system chwistrellu dŵr.
Cerdded o amgylch safle’r ysgol i wirio bod popeth fel y dylai fod, a chasglu sbwriel yn ôl yr angen.
Oriau wedi’u cronni: Mae’r boreau byrrach ar y dyddiau eraill yn rhyddhau oriau y gellir eu cronni ar gyfer tasgau hwy, er enghraifft paentio ystafell, trwsio darn o sgerting neu newid sedd toiled.
Goramser: Gellir cwblhau tasgau hwy y mae’r Gofalwr wedi’i hyfforddi’n briodol ar eu cyfer ar ôl ysgol neu ar y penwythnos fel goramser, er enghraifft paentio, torri gwair neu olchi â phwysedd.
Telir goramser ar y gyfradd fesul awr arferol a rhaid ei gytuno ymlaen llaw gyda’r Pennaeth.
Ni ddisgwylir cyflawni pob dyletswydd yn y ddogfen hon o fewn un wythnos; blaenoriaethir y gwaith gyda’r Pennaeth.
Hyfforddiant a chymhwysedd
• Ni ddisgwylir i’r Gofalwr ymgymryd ag unrhyw dasg sy’n cario risg heb dderbyn hyfforddiant priodol ar ei chyfer yn gyntaf.
• Ni chaniateir unrhyw waith trydanol heb gymhwyster cydnabyddedig.
• Bydd yr ysgol yn trefnu’r hyfforddiant angenrheidiol, er enghraifft codi a chario, gweithio ar uchder a defnyddio sylweddau glanhau yn ddiogel.
• Pan fo tasg y tu hwnt i hyfforddiant neu gymhwyster y Gofalwr, rhoddir gwybod i’r Pennaeth er mwyn trefnu contractwr.
Prif ddyletswyddau
Agor, cloi a diogelwch y safle
• Dal allweddi’r ysgol.
• Agor yr ysgol yn y bore a’i chloi ar ddiwedd y dydd, gan sicrhau bod pob drws, ffenestr a giât yn ddiogel a bod y larwm wedi’i osod.
• Agor a chloi’r ysgol y tu allan i’r oriau arferol yn ôl gofyn y Pennaeth.
• Ymateb i alwadau larwm diogelwch yr ysgol yn unol â threfn yr ysgol.
• Rhoi gwybod ar unwaith i’r Pennaeth am unrhyw dresmasu, difrod neu bryder am ddiogelwch y safle.
• Cadw golwg ar y defnydd o’r mannau parcio a’r mynedfeydd, a rhoi gwybod i’r Pennaeth am unrhyw broblem.
• Darparu allweddi i gontractwyr pan fydd gwaith yn digwydd y tu allan i oriau gwaith y Gofalwr, yn unol â chyfarwyddyd y Pennaeth. Ni fydd y Gofalwr yn gyfrifol am ddiogelwch yr adeilad yn ystod y cyfnodau hynny.
• Glanhau lensys y camerâu cylch cyfyng yn ôl y gofyn. Nid oes gan y Gofalwr unrhyw ran yn y gwaith o weld na thrin recordiadau.
Profion diogelwch tân
• Profi’r system larwm tân bob wythnos, gan ddefnyddio pwynt galw gwahanol bob tro.
• Profi’r system chwistrellu dŵr bob wythnos.
• Profi’r goleuadau argyfwng bob mis.
• Sicrhau bod y diffoddwyr tân yn eu mannau priodol a rhoi gwybod i’r Pennaeth os oes un ar goll, wedi’i ddefnyddio neu wedi’i ddifrodi.
• Ailosod y gwydr ym mhwyntiau galw’r larwm tân yn ôl yr angen.
• Cofnodi pob prawf yn llyfr log yr ysgol.
Gwres, dŵr a gwasanaethau
• Yn ystod y tymor gwresogi, sicrhau bod y system wresogi’n gweithio’n effeithiol ac yn unol â’r tywydd.
• Rhoi gwybod i’r Pennaeth am unrhyw broblem gyda’r gwres, y dŵr neu’r gwasanaethau.
• Cadw ystafell y boeler yn daclus ac yn glir o unrhyw ddeunydd a allai losgi.
• Darllen y mesuryddion dŵr, trydan a nwy yn rheolaidd.
• Newid bylbiau a thiwbiau golau lle mae’n ddiogel gwneud hynny.
• Mân waith plymio, er enghraifft newid wasieri a phlygiau sinc a chlirio trapiau a phibellau gwastraff.
• Glanhau gorchuddion y ffaniau echdynnu.
• Pan fydd pibellau wedi rhewi neu’n gollwng, troi’r dŵr i ffwrdd a rhoi gwybod i’r Pennaeth ar unwaith.
• Rhedeg y tapiau am ddeng munud bob wythnos fel rhan o wiriadau hylendid dŵr yr ysgol, a chofnodi hynny.
Y tir a thu allan yr adeilad
• Bob dydd, gwirio’r llwybrau at yr ysgol a’u clirio yn ôl yr angen.
• Bob wythnos, cerdded o amgylch y safle i wirio bod popeth fel y dylai fod, a chasglu sbwriel yn ôl yr angen.
• Cadw’r iardiau, y mannau parcio a’r llwybrau yn glir o chwyn, cerrig rhydd a sbwriel.
• Clirio eira a gwasgaru halen yn ôl y gofyn.
• Torri’r gwair.
• Golchi iardiau a llwybrau â phwysedd yn ôl yr angen.
• Palu a chwynnu’r gwelyau blodau a chynorthwyo i ofalu am erddi’r ysgol.
• Gwagio’r biniau allanol a rhoi’r gwastraff a’r deunydd ailgylchu allan i’w casglu.
• Cadw’r draeniau, y cwteri a’r pibellau dŵr glaw yn glir ac yn llifo, lle gellir gwneud hynny’n ddiogel.
• Glanhau tu allan y ffenestri y gellir eu cyrraedd yn ddiogel o’r ddaear.
• Mân waith cynnal ar arwyddion, giatiau, ffensys ac arwynebau’r iardiau, a rhoi gwybod i’r Pennaeth am waith mwy.
Cynnal a chadw’r adeilad
• Cadw golwg ar gyflwr yr adeilad a’r dodrefn a rhoi adroddiad rheolaidd i’r Pennaeth.
• Rhoi gwybod i’r Pennaeth am unrhyw ddifrod i eiddo’r ysgol ac am unrhyw broblem na all y Gofalwr ddelio â hi.
• Mân atgyweirio dodrefn, offer, drysau a ffenestri, er enghraifft trwsio sgerting neu newid sedd toiled.
• Ailosod teils nenfwd a mân atgyweirio plastr.
• Paratoi a phaentio waliau, gwaith coed a dodrefn mewnol.
• Mân atgyweirio gorchuddion lloriau a grisiau.
• Pan fydd gwydr wedi torri, gwneud y man yn ddiogel, byrddio’r ffenestr dros dro a rhoi gwybod i’r Pennaeth er mwyn trefnu atgyweiriad.
Symud a chludo
• Sicrhau bod digon o dywelion papur, papur toiled a sebon yn y mannau priodol.
• Cludo post a pharseli yn ôl y gofyn.
• Symud dodrefn ac offer o ystafell i ystafell.
• Paratoi’r neuadd ar gyfer gwasanaethau, cyngherddau, perfformiadau a gweithgareddau eraill.
Contractwyr a chofnodion
• Sicrhau bod contractwyr yn llofnodi i mewn ac allan ac yn dilyn trefniadau diogelu’r ysgol tra byddant ar y safle.
• Dangos i gontractwyr ble mae’r gwaith a rhoi gwybod i’r Pennaeth pan fydd wedi’i gwblhau.
• Cwblhau taflenni amser, llyfr log yr ysgol ac unrhyw waith papur arall sy’n ymwneud â’r swydd.
Argyfyngau
• Sicrhau mynediad diogel i’r ysgol ar adegau o eira, llifogydd neu argyfwng arall.
• Dilyn trefn yr ysgol pan fydd llifogydd, torri i mewn, damwain neu ddifrod.
• Gwybod ble mae’r offer cymorth cyntaf a phrif dapiau a falfiau’r dŵr, y nwy a’r trydan.
• Cysylltu â’r Pennaeth, neu â gwasanaeth eiddo Cyngor Gwynedd pan nad yw’r Pennaeth ar gael, os bydd argyfwng gyda’r adeilad.
Diogelu, iechyd a diogelwch
• Dilyn polisi diogelu’r ysgol a rhoi gwybod ar unwaith i’r Person Diogelu Dynodedig am unrhyw bryder ynghylch plentyn.
• Rhoi gwybod i’r Pennaeth am unrhyw bryder ynghylch ymddygiad neu ddiogelwch disgyblion ar dir yr ysgol.
• Cydymffurfio â pholisi iechyd a diogelwch yr ysgol a’r asesiadau risg perthnasol.
• Storio a defnyddio sylweddau glanhau a chemegau yn ddiogel.
• Bod yn ymwybodol o gofrestr asbestos yr ysgol cyn dechrau unrhyw waith ar adeiladwaith yr adeilad.
Cyffredinol
• Gwneud pob gwaith gan darfu cyn lleied â phosibl ar y dysgu a’r addysgu.
• Ymgymryd ag unrhyw dasg resymol arall ar gais y Pennaeth neu gynrychiolydd y Pennaeth.
Manyleb person
Diogelu
Hanfodol:
• Datgeliad manwl boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
• Ymrwymiad i ddiogelu a lles plant.
Profiad
Hanfodol:
• Gallu ymarferol i wneud mân waith cynnal a chadw.
Dymunol:
• Hanes o weithio mewn crefft, er enghraifft gwaith saer, plymio, adeiladu neu baentio.
• Profiad o ofalu am adeilad neu safle.
Cymwysterau a hyfforddiant
Hanfodol:
• Parodrwydd i ddilyn yr hyfforddiant y mae’r swydd yn gofyn amdano.
Dymunol:
• Cymhwyster crefft cydnabyddedig.
• Hyfforddiant iechyd a diogelwch diweddar, er enghraifft codi a chario neu weithio ar uchder.
Iaith • Y gallu i gyfathrebu yn Gymraeg.
Rhinweddau personol
Hanfodol:
• Dibynadwy a phrydlon, yn enwedig wrth agor a chloi’r ysgol.
• Gallu gweithio’n annibynnol a blaenoriaethu gwaith.
• Hyblygrwydd o ran patrwm oriau.
• Gallu cyflawni gofynion corfforol y swydd, gydag addasiadau rhesymol lle bo’n briodol.
Dymunol:
• Byw o fewn cyrraedd rhesymol i’r ysgol er mwyn ymateb i alwadau larwm.
Sylwer
• Er bod pob ymdrech wedi’i gwneud i egluro prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau’r swydd, efallai nad yw pob tasg unigol wedi’i nodi.
• Nid yw’r swydd ddisgrifiad hon yn ffurfio rhan o’r contract cyflogaeth.
• Disgwylir i ddeilydd y swydd gydymffurfio ag unrhyw gais rhesymol gan y Pennaeth i ymgymryd â gwaith o lefel debyg nad yw wedi’i nodi yn y swydd ddisgrifiad hon.
• Bydd yr ysgol yn gwneud pob ymdrech i wneud addasiadau rhesymol i’r swydd a’r amgylchedd gwaith er mwyn galluogi ymgeiswyr anabl i gael mynediad at gyfleoedd cyflogaeth, neu er mwyn i gyflogai sy’n datblygu cyflwr sy’n anablu allu parhau yn y swydd.
• Mae’r swydd ddisgrifiad hon yn gyfredol ar y dyddiad a nodir isod. Yn dilyn ymgynghori â deilydd y swydd, gellir ei newid er mwyn adlewyrchu neu ragweld newidiadau yn y swydd sy’n gymesur â’r cyflog a theitl y swydd.
