Nodweddion personol
Hanfodol
• Gallu gweithio heb oruchwyliaeth a chwblhau gwaith ar amser i dargedau
• Gallu ymdrin ag ymholiadau yn effeithiol
• Yn gallu i weithio’n annibynnol a chydweithio fel rhan o dîm.
• Gwneud penderfyniadau rhesymegol.
• Yn fanwl gywir a threfnus wrth drin data.
Dymunol
-
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
• Safon addysg dda hyd at lefel TGAU (gan gynnwys Cymraeg, Saesneg, Mathemateg) neu safon uwch.
Dymunol
• Cymhwyster cyfatebol mewn maes rheoli data neu brofiad ymarferol cyfatebol mewn rheoli data.
Profiad perthnasol
Hanfodol
• Sgiliau cyfathrebu da, llafar ac yn ysgrifenedig.
Dymunol
• Profiad o ddiweddaru system rheoli gwybodaeth.
• Profiad o wirio data, adnabod anghysondebau a chywiro gwallau.
• Profiad o gynhyrchu adroddiadau ac ystadegau.
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
• Profiad o ddefnyddio systemau technoleg gwybodaeth fel Outlook, Excel a Word.
• Gallu adnabod anghysondebau a datrys problemau mewn modd rhesymegol.
• Dealltwriaeth o bwysigrwydd ansawdd a chywirdeb data.
• Meddu ar y sgil o weithio’n ofalus a chywir heb oruchwyliaeth.
• Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig da.
Dymunol
• Gwybodaeth am y Gofrestr Tir ac Eiddo (Local Land and Property Gazetteer) a’r Gofrestr Genedlaethol (National Land and Property Gazetteer).
• Gwybodaeth am feddalwedd rheoli’r Gofrestr Tir ac Eiddo.
Anghenion ieithyddol
Gwrando a Siarad - Canolradd
Gallu cynnal sgwrs rwydd ar nifer o bynciau amrywiol bob dydd, a thrafod achosion sy’n ymwneud â’r maes gwaith.Gallu dilyn trafodaeth yn y Gymraeg, mewn Cymraeg Clir, ar faterion cyfarwydd yn ymwneud â’r swydd. Gallu cyfrannu at y sgwrs ac ateb cwestiynau.
Darllen a Deall - Canolradd
Deall gohebiaeth bob dydd ar faterion cyfarwydd yn y gwaith.Deall adroddiadau hirach mewn Cymraeg Clir a medru codi’r prif bwyntiau. ( Mae’n bosib y bydd angen cymorth gyda geirfa.)
Ysgrifennu - Canolradd
Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwydd i'r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan).