NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Yn frwdfrydig am yr amgylchedd a chefn gwlad
Yn barod i ysgwyddo cyfrifoldebau a chyfrannu syniadau
Gonest, hyderus a hyblyg
Yn hapus i weithio fel rhan o dîm
Yn mwynhau bod allan yn yr awyr agored
DYMUNOL
Diddordeb mewn materion amgylcheddol
Diddordeb mewn natur a bywyd gwyllt
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
Safon dda o addysg i lefel A neu gyfwerth
Trwydded yrru lawn
DYMUNOL
Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn disgyblaeth berthnasol e.e. Daearyddiaeth, Rheoli Cefn Gwlad, Amaeth
Tystysgrifau ar gyfer defnyddio offer fel strimmer, lli gadwyn, chwistrellwr.
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad o weithio yn y sector Cefn Gwlad neu reoli tir
Wedi gweithio fel rhan o dîm ac yn annibynnol
DYMUNOL
Profiad o drefnu digwyddiadau
Profiad o drefnu a goruchwylio gwaith gyda gwirfoddolwyr
Profiad o ysgrifennu adroddiadau/ erthyglau ayb
Profiad o hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Sgiliau trefnu da
Sgiliau cyfathrebu da
Wedi arfer defnyddio meddalwedd cyffredin fel Microsoft Office
DYMUNOL
Yn gyfarwydd â Phenrhyn Llŷn.
Dealltwriaeth o'r brif ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â'r Tirwedd Cenedlaethol/ AHNE, mynediad cyhoeddus a bywyd gwyllt.
Sgiliau cefn gwlad ymarferol
ANGHENION IEITHYDDOL
Gwrando a Siarad
Yn gallu cyflwyno pob agwedd ar y swydd ar lafar, gyda'r un rhuglder yn y Gymraeg a'r Saesneg
Darllen a Deall
Yn gallu defnyddio a dehongli unrhyw wybodaeth o amrywiol ffynonellau yn gywir er mwyn cyflawni pob agwedd ar y swydd.
Ysgrifennu
Yn gallu cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig mewn modd cwbl hyderus gan ddefnyddio'r arddull a'r iaith sydd fwyaf priodol ar gyfer y pwnc a'r gynulleidfa.