Swyddi ar lein
Rheolwr Adennill a Thwyll
£49,817 - £51,928 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 26-33371
- Teitl swydd:
- Rheolwr Adennill a Thwyll
- Adran:
- Cyllid
- Gwasanaeth:
- Uned Reoli
- Dyddiad cau:
- 02/12/2026 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 37 Awr
- Cyflog:
- £49,817 - £51,928 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- PS5
- Lleoliad(au):
- Gweler Hysbyseb Swydd
Manylion
Hysbyseb Swydd
*DALIER SYLW*
Mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i fod yn gyflogwr cynhwysol ac i wella amrywiaeth ein gweithlu.
Bydd eich ffurflen gais yn cael ei hasesu yn ddienw. Ni fydd eich teitl, enw na chyfeiriad e-bost yn cael ei rannu â’r panel sy’n penodi at bwrpas llunio rhestr fer. Dylech ystyried hyn yn ofalus wrth ysgrifennu amdanoch eich hun yn y rhan gwybodaeth pellach.
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol neu manylion pellach gellir cysylltu â Sian Pugh ar 01766 771000 neu dros ebost; sianpugh@gwynedd.llyw.cymru
Rhagwelir cynnal cyfweliadau 10/12/2026
Ffurflenni cais ar gael gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-Bost: swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 10:00 O’R GLOCH 02/12/2026
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus.
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
Nodweddion Personol:
Hanfodol:
- Hyderus, cydwybodol, gallu i weithio heb oruchwyliaeth a chwblhau gwaith mewn pryd.
- Gallu cyfathrebu yn effeithiol a thrafod gweithgareddau adennill a thwyll gyda swyddogion, y cyhoedd, aelodau etholedig, mewn Llys a hynny mewn ffordd sy’n adlewyrchu statws y swydd.
- Gallu ymdrin ag ystod o faterion cymhleth a chynhennus.
Dymudol:
- Chwilio am gyfleoedd i ddatblygu yn broffesiynol.
- Parodrwydd a dyfalbarhad wrth wireddu hunan ddatblygiad personol.
Cymhwysterau a Hyfforddiant Perthnasol:
Hanfodol:
- Gradd neu gymhwyster cyffelyb.
- Cymhwyster proffesiynol mewn maes perthnasol megis IRRV neu CIPFA.
- Hyfforddiant perthnasol i ofynion y swydd.
Dymunol:
- Tystiolaeth o ddatblygiad personol parhaus yn y maes trethi neu adennill ac mewn sgiliau rheoli ehangach.
Profiad Perthnasol:
Hanfodol:
- Profiad o weithio mewn maes perthnasol i’r swydd.
- Profiad o reoli staff a pherfformiad.
- Profiad o ddelio gyda achosion cymhleth, sensitif a heriol.
Dymunol:
- Profiad o fynychu Llys.
- Profiad o weithio gyda systemau refeniw megis MRI neu gyfatebol a systemau ariannol awdurdodau lleol.
Sgiliau a Gwybodaeth Arbenigol:
Hanfodol:
- Dealltwriaeth am gyfraith, gweithdrefnau a materion sy’n ymwneud â’r swydd.
- Gwybodaeth drylwyr am weithgareddau awdurdodau lleol.
- Gallu cynnal trefniadau rheoli ansawdd o’r radd flaenaf, er mwyn sicrhau ansawdd uchel a chyson i holl weithgareddau’r gwasanaeth.
- Y gallu i gynllunio a chyflawni gwaith o safon uchel gan gynnwys ysgrifennu a chynhyrchu adroddiadau.
Dymunol:
- Dealltwriaeth o egwyddorion rheoli perfformiad a gwella effeithlonrwydd.
Anghenion Ieithyddol:
Hanfodol:
Gwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn. Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol. Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd:
- Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
- Arwain y tîm(au) y mae’n gyfrifol amdano (ynt) i gyflawni yn effeithiol ac effeithlon yr hyn sy’n bwysig i bobl Gwynedd drwy greu a chynnal amgylchedd o barch ac ymddiriedaeth gan rymuso, arfogi ac ysbrydoli’r staff.
- Arwain, rheoli a datblygu swyddogaethau adennill dyledion a thwyll y Cyngor, gan sicrhau casglu incwm sy'n ddyledus i'r Awdurdod yn effeithiol wrth atal, canfod, ymchwilio a lleihau twyll ac afreoleidd-dra ariannol.
- Bydd deiliad y swydd yn darparu arweinyddiaeth strategol a gweithredol i uchafu’r refeniw, diogelu arian cyhoeddus, gwella cynaliadwyedd ariannol, a chynnal hyder y cyhoedd yng ngwasanaethau'r Cyngor.
Cyfrifoldeb am Adnoddau:
- Cyllideb y gwasanaeth
- Staff y gwasanaeth
Prif Ddyletswyddau:
ARWAIN
- Bod yn atebol am y Gwasanaeth a’r defnydd mwyaf effeithiol ac effeithlon o’r adnoddau sydd ar gael.
- Arwain staff y Gwasanaeth drwy annog a chymell i berchnogi egwyddorion Ffordd Gwynedd a bod yn atebol am sicrhau fod hynny’n digwydd.
- Sicrhau amgylchedd o fewn y tîm sy’n hyrwyddo ac annog llesiant staff.
- Cynorthwyo’r tîm i sefydlu egwyddorion gweithredu gan ystyried deddfau perthnasol (e.e. Iechyd a Diogelwch, Deddf Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant) a sicrhau eu bod yn cadw atynt.
- Bod yn ymwybodol o sut y mae systemau’r tîm yn gweithio a hwyluso i’w herio ple bo’r angen.
- Sicrhau fod y tîm yn cyfrannu at amcanion gwasanaethau neu sefydliadau eraill sy’n ceisio cyflawni’r hyn sy’n bwysig i bobl Gwynedd.
- Hyrwyddo’r angen i adnabod a gweithredu ar fygythiadau a chyfleoedd y dyfodol gan gynnwys camau ataliol.
- Sicrhau ymwybyddiaeth o’r hinsawdd gyfreithiol a gwleidyddol sy’n effeithio ar y gwasanaeth gan sicrhau fod aelodau’r tîm yn ymwybodol o’r elfennau angenrheidiol.
- Bod yn fyw i ymarfer da o fewn y maes gwasanaeth a sicrhau fod y tîm yn ystyried priodoldeb yr ymarfer da hwnnw iddynt hwy.
- Arwain newid o fewn y maes gwasanaeth lle mae angen gwneud hynny.
- Ymdrin gyda phryderon a godir gan Aelodau Etholedig ynglŷn â’r Gwasanaeth.
GALLUOGI A GRYMUSO
- Recriwtio a datblygu unigolion a thimau i sicrhau bod ganddynt y sgiliau angenrheidiol i gyflawni’r rolau sydd eu hangen rwan ac i’r dyfodol.
- Arfogi’r tîm i sefydlu beth sy’n bwysig i bobl Gwynedd a thrwy hynny sefydlu pwrpas y tîm a’i gadw’n gyfredol.
- Sicrhau fod penderfyniadau yn cael eu gwneud ar sail tystiolaeth.
- Helpu’r tîm i adolygu a herio ei berfformiad.
- Creu a chynnal awyrgylch sy’n galluogi pob aelod o’r tîm i gyfrannu a chymryd penderfyniadau er mwyn darparu’r gwasanaethau gorau posib.
- Sicrhau awyrgylch o ymddiriedaeth ac atebolrwydd o fewn y tîm gan sicrhau cyfathrebu priodol gyda ac o fewn y tîm.
CYFLAWNI
- Arfogi’r tîm i ystyried pa fesurau sy’n dangos perfformiad yn erbyn y pwrpas ac i berchnogi’r mesurau hynny.
- Annog y tîm i arloesi, mentro a dysgu o brofiad er mwyn gwella perfformiad.
- Cymell a/neu mentora y tîm i adnabod a gweithredu’n amserol er mwyn dileu rhwystrau sy'n atal y gallu i gyflawni yr hyn sy’n bwysig i bobl Gwynedd.
- Datrys unrhyw rwystrau na all y tîm eu datrys.
- Sicrhau fod cwynion yn derbyn sylw priodol a bod y tîm yn ystyried unrhyw wersi sy’n codi er mwyn gwella gwasanaeth.
- Gweithredu mewn ffordd rhagweithiol; bod yn agored i feddwl yn wahanol; yn egnïol ac ymroddedig gydag integriti personol er mwyn cyflawni’r swyddogaethau isod gan sicrhau bod staff yr Adran yn cael eu datblygu i arddangos yr un nodweddion.
HUNAN ADLEWYRCHU – ar gyflawniad personol yr hyn sydd yn y swydd-ddisgrifiad
MEYSYDD PENODOL Y SWYDD
- Cytuno gyda’r Pennaeth Cyllid Cynorthwyol - Cynaliadwyedd a Datblygiadau amcanion a thargedau busnes y gwasanaeth adennill a thwyll.
Adennill Dyledion
- Arwain a rheoli'r tîm Adennill Dyledion i sicrhau bod gwasanaeth casglu dyledion effeithiol yn cael ei ddarparu ar gyfer yr holl ddyledion sydd yn ddyledus i’r Cyngor gan gynnwys treth cyngor, ardrethi annomestig, ardaloedd gwella busnes a dyledion cyffredinol.
- Datblygu a gweithredu prosesau adennill dyledion i ddarparu fframwaith safonol ac unedig o ran adennill dyled, dilyniant achosion, cylchoedd adfer, defnyddio asiantaethau casglu, achosion llys a dileu dyled.
- Sicrhau bod camau adfer yn amserol, yn gymesur, ac yn cydymffurfio â deddfwriaeth a pholisïau'r Cyngor.
- Datblygu gweithdrefnau i wella cyfraddau casglu a lleihau dyled sy'n weddill.
- Rheoli dyledion ac argymell dileu dyledion yn unol â’r Rheoliadau Ariannol a pholisiau’r Cyngor.
- Monitro perfformiad a gweithredu camau cywiro lle bo angen.
- Sicrhau bod cwsmeriaid sy’n agored i niwed yn cael eu nodi a'u cefnogi'n briodol trwy drefniadau ad-dalu cynaliadwy.
- Yn gyfrifol am lunio yr amserlen flynyddol ar gyfer rhyddhau nodiadau atgoffa a gwysion i sicrhau bod y Cyngor yn gallu gwneud cais i’r llys am orchmynion dyled ar y dyddiadau priodol. Bydd angen cydweithio gyda’r Rheolwr Trethi a’r Ymgynghorydd Systemau Refeniw ar hyn.
- Yn gyfrifol am baratoi y rhestr gwysion gan sicrhau bod gwiriadau priodol yn cael eu gwneud a’u bod yn cael eu hanfon yn amserol i’r llys.
- Rheoli'r prosesau ansolfedd o fewn y cyngor, i gynnwys gorchmynion methdaliad a “charging orders” gan sicrhau bod rheolaeth amserol o ddyledion cronnus yn cael ei gynnal. Adolygu achosion unigol a phenderfynu ar gamau i'w cymryd ar ddyledion gan ystyried canlyniadau'r camau hyn a'r effaith ar gyllideb y Cyngor a threthdalwyr Gwynedd.
- Sicrhau bod gweithdrefnau priodol ar waith i symud ymlaen â'r holl ddyledion drwy'r cylchoedd adfer a gosod fframwaith clir fel y gall staff nodi'r dulliau adfer mwyaf addas i uchafu’r incwm.
- Gweithio gyda’r staff rheng-flaen ar drefniadau adennill a’u hyfforddi yn ôl yr angen.
- Sicrhau bod gweithdrefnau priodol ar waith i symud dyledion i’r asiantaeth casglu dyledion gan fonitro ac adolygu eu perfformiad gan gynnwys drafftio dogfennau perthnasol fel sydd angen.
- Yn gyfrifol am gyhoeddi pob dogfen adfer yn gywir, gan sicrhau bod yr holl ddogfennau yn cael eu gweithredu'n gyfreithiol ac amserlenni rhagnodedig yn cael eu cadw.
- Bod yn gyfrifol am sicrhau bod yr holl ymholiadau a chwynion yn cael eu cwblhau o fewn yr amserlenni corfforaethol.
- Ateb ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth a chwynion sy’n berthnasol i’r maes a hynny yn unol â’r amserlen a osodwyd.
- Sicrhau bod dyletswyddau statudol y Cyngor mewn perthynas ag adennill dyledion yn cael eu bodloni bob amser a bod arferion gorau CIPFA ac IRRV yn cael ei ddilyn mewn perthynas â chasglu dyledion.
- Cynllunio, datblygu a gweithredu strategaethau effeithiol i gasglu dyledion ac Incwm.
- Rhoi cyngor i'r Aelodau, Prif Weithredwr, y Cyfarwyddwyr, y Pennaeth Adran, Penaethiaid Cynorthwyol a rheolwyr ar draws yr awdurdod ar adennill dyledion yn ôl y gofyn.
- Mynychu cyfarfodydd a phwyllgorau i adrodd ar lefelau dyled ar draws y gwahanol setiau dyledion.
- Arwain ar ddatblygu a gweithredu polisïau adennill dyledion.
- Datblygu a gweithredu arferion er mwyn gwella safonau’r gwasanaeth a chynyddu cyfraddau casglu dyledion.
- Cadw i fyny â'r datblygiadau ym maes adennill dyledion a sicrhau bod y gwasanaeth yn gweithredu yn unol ag arferion da modern.
- Cynrychioli’r Cyngor yn y Llys ar gyfer unrhyw gamau cyfreithiol sy'n cael eu cymryd i fynd ar drywydd dyledion.
- Delio gyda ymholiadau a gwrthwynebiadau gan y cyhoedd cyn ac ar ôl y Llys.
- Rheoli perthnasoedd drwy gynnal cyfarfodydd rheolaidd a chyd-weithio yn agos gyda chwmnïau ac asiantaethau allanol.
- Arwain prosiectau yn ôl yr angen o ran gweithredu systemau, gwasanaethau a gweithdrefnau newydd o fewn y gwasanaeth.
Twyll
- Arwain ar y swyddogaeth Twyll gan gynnwys y Strategaeth a Fframwaith Twyll y Cyngor.
- Datblygu a gweithredu strategaethau atal, canfod ac ymchwilio twyll.
- Goruchwylio ymchwiliadau twyll gan sicrhau bod ymchwiliadau'n cael eu cynnal yn deg ac yn unol â deddfwriaeth a safonau proffesiynol.
- Cydlynu ymarferion twyll rhagweithiol, gweithgareddau paru data, ac adolygiadau sy'n seiliedig ar risg.
- Cysylltu ag archwilio mewnol, asiantaethau a chyrff allanol.
- Hyrwyddo ymwybyddiaeth o dwyll ac hyfforddi staff.
- Rheoli ymchwiliadau twyll cymhleth.
- Paratoi adroddiadau, datganiadau a thystiolaeth ar gyfer achosion cyfreithiol gan fynychu llys, tribiwnlysoedd, gwrandawiadau, a thrafodion disgyblu yn ôl yr angen.
- Cydweithio gyda Archwilio Mewnol mewn achosion lle mae twyll yn cael ei ganfod/amau.
Eraill
- Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
- Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
- Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
- Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
- Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
- Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau Arbennig:
- Gofynnir i ddeilydd y swydd gwblhau prawf DBS llwyddiannus.
- Disgwylir gweithio oriau anghymdeithasol yn achlysurol.
