Diben y Swydd.
Bydd y Rheolwr Busnes yn darparu arweinyddiaeth strategol, cydlyniant a throsolwg o gefnogaeth busnes, ansawdd, llywodraethu gwybodaeth, rheoli fflyd a chydymffurfiaeth contractau'r Asiant.
Bydd gan y Rheolwr Busnes gyfrifoldeb rheoli cyffredinol ar gyfer y Rheolwr Datblygu a Chefnogi Busnes, y Rheolwr Ansawdd, Llywodraethu Gwybodaeth a Fflyd, a'r Rheolwr Archwilio.
Bydd y Rheolwr Busnes yn atebol i'r Rheolwr Uned Busnes a Gweithrediadau ac yn sicrhau bod pob swyddogaeth yn gweithredu'n gydlynus, effeithlon ac yn unol ag amcanion, safonau ISO a rhwymedigaethau statudol yr Asiant.
Cyfrifoldeb am swyddogaethau e.e. staff, cyllidebau, offer
Bydd y Rheolwr Busnes yn darparu cyfeiriad strategol ac arweinyddiaeth weithredol ar draws y meysydd swyddogaeth a ganlyn:
-Rheolwr Datblygu a Chefnogi Busnes (12nr. staff)
- Rheoli Ansawdd, Llywodraethu Gwybodaeth a Chynaliadwyedd Fflyd (2nr. staff)
- Rheolwr Archwilio (2nr. staff)
Bydd y Rheolwr Busnes yn sicrhau rheolaeth perfformiad, cydymffurfiaeth â deddfwriaeth a safonau, dyraniad adnoddau effeithlon, a gwelliannau parhaus ar draws yr holl swyddogaethau a reolir.
Bydd pob rheolwr swyddogaethol yn adrodd yn uniongyrchol i'r Rheolwr Busnes.
Cyfrifoldeb cyffredinol am yr offer TG (Gliniadur a Ffôn Symudol) a'r cronfeydd data sydd eu hangen i gyflawni'r rôl.
Prif Ddyletswyddau
Cyfrifoldebau'r Rheolwyr Cyffredinol:
- Darparu arweinyddiaeth, cyfeiriad a rheolaeth perfformiad i'r Rheolwr Datblygu a Chefnogi Busnes, y Rheolwr Ansawdd, Llywodraethu Gwybodaeth a Fflyd, a'r Rheolwr Archwilio.
- Sicrhau gweithrediad cyson yr egwyddorion llywodraethu, cydymffurfiaeth, sicrhau ansawdd a gwella busnes, ar draws pob swyddogaeth.
- Cefnogi gyda chyflwyniad Cynllun Busnes yr Asiant a sicrhau ei fod yn cyd-fynd â gofynion Llywodraeth Cymru.
- Dirprwyo i Reolwr yr Uned Fusnes a Gweithrediadau pan fo'r angen.
Swyddogaethau Datblygu a Chefnogi Busnes:
- Goruchwylio rheolaeth a datblygiad systemau, prosesau a swyddogaethau cefnogi busnes ar draws lleoliadau'r Asiant.
- Sicrhau cyflwyniad effeithiol y swyddogaethau gweinyddol AD, prosesau recriwtio, rhaglenni datblygu staff a'r gofynion Buddsoddwyr mewn Pobl.
Prif Ddyletswyddau
- Arwain a goruchwylio cyfathrebiadau, cysylltiadau cyhoeddus, ymgysylltu mewnol a strategaethau cyfathrebu dwyieithog yr Asiant.
- Sicrhau rheolaeth effeithiol o gyllideb hyfforddi'r Asiant, caffael darparwyr hyfforddiant allanol a chyflwyno rhaglenni datblygu staff.
- Darparu arweinyddiaeth i reoli ymholiadau, cwynion, ymholiadau gweinidogol a phrosesau Rheoli Ymholiadau Cyhoeddus IRIS.
- Hyrwyddo gwelliant parhaus, egwyddorion LEAN ac effeithiolrwydd mewn swyddogaethau busnes.
Swyddogaethau Ansawdd, Llywodraethu Gwybodaeth a Fflyd:
- Darparu trosolwg o System Rheoli Ansawdd yr Asiant gan sicrhau cydymffurfiaeth barhaus â'r ISO a datblygu fframweithiau perfformiad ymhellach.
- Goruchwylio cyflwyniad y swyddogaethau Diogelu Data, Diogelwch Gwybodaeth a Rhyddid Gwybodaeth, gan sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth ac arferion gorau.
- Arwain ar brosesau sy'n llywodraethu ymdrin â data, asesiadau effaith, ymateb i dor-amodau, ac adrodd ar lywodraethu gwybodaeth.
- Goruchwylio rheolaeth gweithrediadau fflyd yr Asiant (100+ o gerbydau), systemau tracio cerbydau, cynaliadwyedd perfformiad a monitro effeithiolrwydd adnoddau.
- Sicrhau datblygiad ac adrodd ar Ddangosyddion Perfformiad Allweddol (KPI) yr Asiant, prosesau achredu a gwella perfformiad yn barhaus.
- Hyrwyddo gwelliannau parhaus, egwyddorion LEAN a dull Systems Thinking ar draws holl swyddogaethau'r Asiant.
- Cefnogi'r Rheolwr Busnes drwy sicrhau bod systemau, gwiriadau a phrosesau effeithiol yn eu lle i reoli'r risgiau sefydliadol, cynnal cofrestrau risg a chynlluniau parhad busnes cywir, ac adrodd yn rheolaidd ar reoli risg i uwch reolwyr.
Swyddogaethau Archwilio:
- Rhoi trosolwg o raglenni archwilio, monitro cydymffurfiaeth a gweithgareddau sicrwydd ar draws yr Asiant.
- Sicrhau bod gweinyddiaeth yr asiant yn cyd-fynd ag arferion gorau, gofynion deddfwriaethol a disgwyliadau Llywodraeth Cymru.
- Arwain ar ddatblygiad a gweithrediad rhaglenni archwilio, adrodd ar gydymffurfiaeth, monitro risgiau a phrosesau camau unioni.
- Goruchwylio cronfeydd data cydymffurfio, monitro perfformiad a gweithgareddau cysoni ariannol, yn cynnwys hawliadau DBFO.
- Sicrhau bod diffyg cydymffurfiaeth yn cael sylw drwy gynllunio adferiad wedi'i strwythuro ac adrodd ar gynnydd i uwch reolwyr.
Cyffredinol:
- Mae'n gyfrifoldeb ar bob gweithiwr o fewn Asiant Cefnffyrdd Gogledd Cymru i gydymffurfio â'r Polisïau Iechyd a Diogelwch, Amgylcheddol ac Ansawdd fel maent wedi’u diffinio o fewn System Rheoli Busnes Integredig ACGCC.
- Sicrhau y cedwir yn gaeth at bolisïau a deddfwriaeth amgylcheddol ac Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith.
- Ymgymryd â chyfrifoldeb Iechyd a Diogelwch personol bob amser.
- Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor.
- Sicrhau yr ymdrinnir â gwybodaeth bersonol mewn modd sy’n cydymffurfio â deddfwriaeth Diogelu Data.
- Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
- Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
- Gweithredu oddi mewn i bolisïau a gweithdrefnau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
- Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithio'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
- Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall rhesymol sy’n cyfateb â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
Amgylchiadau Arbennig e.e. yr angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig ac ati
Parodrwydd i weithio y tu allan i oriau gwaith arferol fel bo’r gofyn a chynorthwyo’r Rheolwr Asiant Cefnffyrdd i ymateb i argyfyngau fel bo’r angen.