Pwrpas y swydd
•Monitro’r Rhaglen Sicrwydd Diogelwch i gwmpasu bygythiadau presennol a chyfredol sy’n esblygu i dechnoleg ar draws y Cyngor.
•Cydlynu a dogfennu effeithiol ar ofynion cydymffurfiaeth Seibr Ddiogelwch, yn unol a pholisïau diogelwch, safonau’r Cyngor a deddfwriaeth lle’n berthnasol, i’r arfer gorau’r diwydiant.
•Cefnogi holl achrediadau Diogelwch TGCh y Cyngor
•Adrodd ar, a dogfennu Risgiau Seibrddiogelwch a Chadernid
•Datblygu cydberthnasau da â staff technegol a staff cymorth i sicrhau bod anghenion systemau a gwybodaeth yn cael eu nodi a’u bodloni
•Rhoi cyngor ac arweiniad yn ystod cyfnodau cynllunio prosiectau i sicrhau yr ystyrir gofynion Seibrddiogelwch a Chadernid yn y fanyleb gyfan.
•Cefnogi, peiriannu a darparu’r sgiliau a’r arbenigedd ail a thrydydd rheng ar gyfer holl galedwedd a meddalwedd sydd yn cynnwys elfennau diogelu rhwydweithiau’r Cyngor
•Cefnogi defnydd o feddalwedd cynnal mynediad diogel i’r we i dros 20000 o ddefnyddwyr ar draws y sectorau Corfforaethol a Chwricwlaidd.
•Rhoi mewnbwn am ddiogelwch a gwytnwch yr isadeiledd a’r gallu i adfer drwy ymateb i ddigwyddiad yn llwyddiannus
•Sicrhau y cefnogir y maes digidol yn unol â pholisïau a gweithdrefnau a fabwysiadwyd gan y Cyngor a/neu y Gwasanaeth Technoleg Gwybodaeth
•Wrth weithio fel rhan o dîm, nodi lle mae modd defnyddio TGCh i greu cyfleon ac arbedion effeithlonrwydd a gwell Gofal Cwsmer
•Bod yn gyfrifol am sicrhau bod offer a sustemau TGCh y Cyngor yn gweithio bob amser.
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
Staff:
•Rhoi arweiniad a chefnogaeth i eraill yn y gwasanaeth ym meysydd diogelwch TGCh.
•Gall fod yn arweinydd technegol ar gyfer ogwydd diogelwch ar brosiectau technegol y Cyngor
•Bod yn adnodd technegol i eraill yn yr adran neu’r Cyngor.
•Monitro gwaith eraill.
Cyllid:
•Yn ymwybodol o strwythurau cyllidebol a chyfyngiadau prosiect/contract cefnogi.
•Archwilio mentrau bychain/canolig
Data/Offer/Meddalwedd:
•Bod â mewnbwn i agweddau Seibr Ddiogelwch holl systemau’r Cyngor a rhoi cefnogaeth technegol i unrhyw brosiectau newydd technegol
•Mewnbwn ar unrhyw galedwedd neu feddalwedd defnyddir er budd diogelu holl systemau a data’r Cyngor
•Bod â mewnbwn i agweddau diogelwch systemau sydd ag effaith ar y Cyngor i gyd ac sy’n cael effaith uniongyrchol ar y cyhoedd (a gwneud penderfyniadau yn eu cylch).
•Bod a chyfrifoldeb am sefydlu a chadw polisïau wal dân y Cyngor.
•Bod a chyfrifoldeb am wasanaeth hidlo defnydd y we.
•Datblygu a chynnal amcanion diogelwch, strategaeth a pholisi diogelwch TGCh.
•Sicrhau bod cynlluniau, polisïau a strategaethau o’r fath yn cael eu cytuno ar draws y Cyngor .
•Sicrhau bod yr holl ddogfennau perthnasol yn cael eu diweddaru pan fydd newidiadau yn cael eu gwneud
•Cysylltu gydag unigolion/cyrff allanol i ddatrys materion cymhleth.
•Sicrhau bod yr holl ddogfennau sy’n berthnasol i weinyddwyr yn cael eu diweddaru i’r safon uchaf pan fo newidiadau’n cael eu gwneud i bob elfen sy’n gysylltiedig â’r cyfarpar TG
Prif ddyletswyddau
Gwneud penderfyniadau, trefnu ac arloesi:
•Adolygu’n rhagweithiol cydymffurfiad i safonau Seibrddiogelwch
•Ymateb i ddigwyddiad(au) diogelwch TG, gan ymchwilio a dadansoddi, dogfennu ac adrodd, gan gynnwys argymhellion gwelliant.
•Monitro am dôr-diogelwch, ymosodiadau neu weithgareddau anarferol, gan gynnwys adnabod camddefnydd hawliau ayyb
•Nodi syniadau newydd ac arbedion effeithlonrwydd ynghylch sut y gall TGCh greu gwelliannau effeithlonrwydd, gwella gofal cwsmer neu greu cyfleon newydd o fewn ei swyddogaeth ei hun ac o fewn i brosiectau cyfredol ac ar draws y cyngor yn ei gyfanrwydd.
•Mewnbwn i’r broses gwneud penderfyniadau o ran dethol cyflenwyr a chynnyrch.
•Rheoli ei (l)lwyth gwaith hynod gymhleth a thechnegol ei hun er mwyn cyrraedd targedau.
•Medru gwneud sawl tasg yr un pryd.
•Medru sicrhau cydbwysedd rhwng gofynion cyflawni gwaith prosiect a gwaith cefnogi pwysau mawr ac adhoc er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod ar gael i sustemau TGCh y Cyngor.
•Arwain ar bolisïau a gweithdrefnau, y bydd gofyn iddo/iddi eu dogfennu.
•Mewnbwn i’r broses cynllunio busnes.
•Cyfrannu tuag at sicrhau bod targedau perfformiad a mesuriadau gwella yn cael eu cyflawni, neu ragori arnynt.
Cyfathrebu:
•Sgiliau cyfathrebu ardderchog er mwyn cyfathrebu â defnyddwyr ledled y Cyngor
•Ysgrifennu adroddiadau i Bwyllgorau a/neu fforymau o fewn y Cyngor, ac adrodd ar berfformiad Seibr Ddiogelwch
•Paratoi cyflwyniadau a’u cyflwyno i gynulleidfa niferus, gan gynnwys Prif Swyddogion, Aelodau a cyrff allanol
•Gweithio’n rhagweithiol gydag Uwch Swyddogion, Penaethiaid Adran ac eraill, swyddogion TGCh, swyddogion Diogelu/Llywodraethu Gwybodaeth, a rhanddeiliaid perthnasol eraill ar draws yr awdurdod ac endidau/cwmnïau allanol i sicrhau bod gofynion Seibrddiogelwch yn cael eu diffinio’n gywir a sicrhau cydymffurfiad
•Dogfennu gofynion defnyddwyr yn glir trwy gysylltu â defnyddwyr mewn cyfarfodydd a gweithdai.
•Datblygu ac adolygu manylebau cysyniadol a thechnegol.
•Paratoi a chyflwyno hyfforddiant i’r defnyddwyr.
•Cynrychioli’r adran TGCh yn allanol ac mewn cyfarfodydd ar draws y Cyngor.
•Rhoi cyngor ac arweiniad i ddefnyddwyr ac uwch reolwyr.
Arall:
•Medru datrys problemau ar sawl lefel.
•Gwneud awgrymiadau i ddatrys materion cymhleth a thechnegol.
•Gweithio ar sawl tasg yr un pryd.
•Yn gyfrifol am adnabod risgiau yn unol â fframwaith rheoli risgiau TGCh a sicrhau y cymerir cyfrifoldeb amdanynt.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
Gan fod swyddogaeth gyfrifiadurol y Cyngor yn gweithredu ar sail 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos, bydd angen gweithio oriau anghymdeithasol ac ar benwythnosau o dro i dro a fydd yn gymwys am daliad yn unol ag Amodau a thelerau cyflogaeth y Cyngor. Bydd galwadau brys yn destun i drafodaeth benodol.