ADDYSG
YSGOLION CYNRADD/UWCHRADD
YSGOL BRO IDRIS, DOLGELLAU
(Cyfun 3 - 16: 535 o ddisgyblion)
Dyddiad dechrau: 1af o Chwefror 2027
Pennaeth Maes Dysgu a Phrofiad Dyniaethau
(Dros dro – Cyfnod Mamolaeth)
Mae’r Llywodraethwyr yn dymuno penodi Pennaeth Maes Dysgu a Phrofiad Dyniaethau i Ysgol Bro Idris, Dolgellau. Mi fydd yr ysgol yn anelu at gyflwyno addysg o’r ansawdd gorau ac i ragori ymhob agwedd o’i gweithgareddau. Hyrwyddir rhaglen addysg ddwyieithog ac mae ethos a gweinyddiad yr ysgol yn adlewyrchu hynny.
Disgwylir i'r ymgeisydd ar gyfer y swydd hon fod:
- yn meddu ar ddealltwriaeth drylwyr o holl ofynion y cwricwlwm Cynradd a/neu Uwchradd ac yn barod i arloesi yn y maes addysgu a dysgu 3 – 16 oed.
- yn gwbl ymrwymedig i addysg ddwyieithog gyflawn.
Ystyrir ceisiadau hefyd gan:
- ymgeiswyr sy’n athrawon Cynradd a/neu Uwchradd da ond heb arbenigedd lefel uchel yn y maes.
- Darperir hyfforddiant.
Telir cyflog yn unol â Graddfa Gyflog (£33,731 - £51,942) y flwyddyn ynghyd â lwfans Cyfrifoldebau Addysgu a Dysgu (CAD 2) o £3,590 y flwyddyn yn ôl profiad a chymhwyster.
Mae’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd. Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).
Gwahoddir unrhyw rai sydd â diddordeb a/neu sydd angen gwybodaeth ychwanegol i drafod yn anffurfiol gyda’r Pennaeth Strategol, Mrs Jano Owen rhif ffôn 01341 424949, e-bost:- pennaeth@broidris.ysgoliongwynedd.cymru
PWYSIG:- Pecyn cais i’w gael ar wefan Cyngor Gwynedd a gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i’w gael gan Miss Eirian R Hoyle, Rheolwr Busnes a Chyllid, Ysgol Bro Idris, Dolgellau, Gwynedd, LL40 1HY (Rhif ffôn: 01341 424949) os y dymunir gelir dychwelyd y cais drwy’r post neu gallwch ebostio’r cais i e-bost y Rheolwr Busnes:- sg@broidris.ysgoliongwynedd.cymru. dylid ei ddychwelyd i’r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.
DYDDIAD CAU HANNER DYDD, DYDD GWENER 6ed o Tachwedd 2026.
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeiswyr llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn yr Ysgol.
Mae’r ysgol yn gweithredu’n unol a’i Bolisi Iaith. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi yn y Manylion Person
Mae ffurflen gais am y swydd yma ar gael i’w lawr lwytho ar dudalen Swyddi Dysgu ar wefan Cyngor Gwynedd (www.gwynedd.llyw.cymru)
Mae’r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae’n disgwyl y bydd pob un o’i staff a’i wirfoddolwr yn rhannu’r ymrwymiad hwn.