Swyddi ar lein
Gweithiwr Gofal Cymunedol (Nos)
£32,497 - £33,014 y flwyddyn | Dros dro 31/03/2028
- Cyfeirnod personel:
- 26-33261
- Teitl swydd:
- Gweithiwr Gofal Cymunedol (Nos)
- Adran:
- Oedolion, Iechyd a Llesiant
- Gwasanaeth:
- Gwasanaethau Darparu
- Dyddiad cau:
- 30/10/2026 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Dros dro | 31/03/2028
- Cyflog:
- £32,497 - £33,014 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- GS3
- Lleoliad(au):
- Safle Penrhos
Manylion
Hysbyseb Swydd
Cyflog: £32,497.98 - £33,014.47
Oriau: 29.25 un wythnos a 39 yr wythnos wedyn – cyfanswm o 68.25 awr bob pythefnos.
Rydym yn awyddus i adeiladu tîm o staff nos ymroddedig a chefnogol i weithio yn ein safle Tai Gofal Ychwanegol ym Mhenrhos. Dyma gyfle cyffrous i fod yn rhan o wasanaeth sy'n galluogi pobl i gynnal eu hannibyniaeth, tra'n derbyn gofal a chefnogaeth o ansawdd uchel yn eu cartrefi eu hunain. Os oes gennych angerdd am wneud gwahaniaeth ac os ydych yn mwynhau gweithio fel rhan o dîm, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol neu manylion pellach gellir cysylltu â Elliw Haf Thomas ar ElliwHafThomas@gwynedd.llyw.cymru neu 07767498644.
Rhagwelir cynnal cyfweliadau.
Ffurflenni cais ar gael gan, Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 10:00 O’R GLOCH, 30/10/2026
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus.
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
Nodweddion personol
Hanfodol
Cyfathrebu
•Meddu a’r sgiliau rhyngbersonol da.
•Sgiliau cyfathrebu da a gwrando da.
•Dealltwriaeth glir o bwysigrwydd llais yr unigolyn wrth ddarparu gofal.
Datrys Problemau
•Yn gallu delio gyda problemau all godi ar fyr rybudd, neu dynnu ar arbenigedd unigolion eraill i helpu i ddatrys problem.
Gweithio gydag eraill
•Gallu gweithredu yn unigol ac fel aelod o dîm.
•Agwedd broffesiynol gyda’r gallu i adeiladu ymddiriedaeth gyda defnyddwyr gwasanaeth a'u teuluoedd.
•Yn unigolyn sydd yn gallu dangos empathi tuag at anghenion unigolion gwahanol, a pharodrwydd i helpu.
Sgiliau eraill
•Bod yn berson sensitif, ymroddedig, gonest a dibynadwy gyda’r gallu i weithredu mewn modd sy’n parchu hawliau’r unigolyn bob amser.
•Yn gallu gweithio’n hyblyg, ac yn fodlon addasu os oes angen.
•Yn gallu gweithio'n annibynnol heb oruchwyliaeth uniongyrchol.
•Yn gallu rheoli amser ac yn berson dibynadwy.
•Unigolyn prydlon a threfnus.
Dymunol
Technoleg Gwybodaeth
•Yn hyderus yn defnyddio Technoleg Gwybodaeth, ac yn gallu gweithio oddi ar gyfrifiadur / gliniadur neu yn fodlon derbyn hyfforddiant (e.e., er mwyn cofnodi costau teithio, cwblhau hyfforddiant ar lein).
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
•QCF Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol (neu gymhwyster cyfatebol) neu ymrwymiad i gymhwyso o fewn amserlen benodedig.
Dymunol
•Hyfforddiant mewn iechyd a diogelwch e.e. symud a thrin, cymorth cyntaf.
•Hyfforddiant Diogelu
•Hyfforddiant perthnasol yn y maes Gofal Cymdeithasol.
•Dealltwriaeth o gynlluniau a darpariaeth gofal person-ganolog.
Profiad perthnasol
Hanfodol
-
Dymunol
•Profiad o ofalu neu ymwneud ag oedolion bregus.
•Profiad o waith domestig cyffredinol megis cadw tŷ.
•Profiad o weithio mewn tîm proffesiynol.
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
•Dealltwriaeth o egwyddorion darparu gofal.
•Gallu darparu gofal personol gyda pharch, urddas a sensitifrwydd.
•Gallu dilyn cynlluniau gofal, cofnodi gwybodaeth yn gywir, a chynnal cyfrinachedd.
•Gallu defnyddio offer yn ddiogel fel cynorthwywyr symudedd a thechnoleg gynorthwyol (neu yn fodlon derbyn hyfforddiant).
Dymunol
•Dealltwriaeth a gwybodaeth am gyflyrau iechyd penodol.
•Meddu ar drwydded yrru ddilys.
Anghenion ieithyddol
Gwrando a Siarad - Canolradd
Gallu cynnal sgwrs rwydd ar nifer o bynciau amrywiol bob dydd, a thrafod achosion sy’n ymwneud â’r maes gwaith.Gallu dilyn trafodaeth yn y Gymraeg, mewn Cymraeg Clir, ar faterion cyfarwydd yn ymwneud â’r swydd. Gallu cyfrannu at y sgwrs ac ateb cwestiynau.
Darllen a Deall - Canolradd
Deall gohebiaeth bob dydd ar faterion cyfarwydd yn y gwaith.Deall adroddiadau hirach mewn Cymraeg Clir a medru codi’r prif bwyntiau. ( Mae’n bosib y bydd angen cymorth gyda geirfa.)
Ysgrifennu - Canolradd
Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwydd i'r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan).
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd.
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Helpu unigolion sydd yn derbyn cefnogaeth i fyw eu bywydau yn eu cartrefi eu hunain fel maent yn dymuno.
• Cefnogi ac annog defnyddwyr gwasanaeth i fod mor annibynnol â phosibl drwy ddilyn cynllun personol yr unigolyn.
• Gwneir hyn drwy gefnogi a chynorthwyo’r unigolyn, eu teuluoedd a’u gofalwyr gyda thasgau nad ydynt yn gallu ymdopi gyda, neu yn ei chael hi’n anodd gwneud ar ben eu hunain.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. e.e. staff, cyllid, offer
• Rhoi gwybod cyn gynted ag sydd bosibl i’ch Rheolwr Llinell neu'r swyddog ar alwad am ddiffyg yn y gwasanaethau (dŵr, trydan, nwy ac ati).
• Parchu a sicrhau defnydd priodol o eiddo ac offer unigolion.
• Gwneud defnydd priodol o offer arbenigol sy’n helpu'r unigolyn fyw eu bywyd yn ôl eu dymuniadau a’u hamcanion personol. Bydd hyn yn cynnwys adrodd ar ddiffygion a dilyn protocolau ymarfer a hyfforddiant arbenigol yn ôl yr angen.
Prif Ddyletswyddau.
• Rhagori mewn adeiladu perthynas â phobl er mwyn deall yn iawn beth fyddai'n gwneud gwahaniaeth iddynt yn eu bywydau a grymuso llais yr unigolyn ar bob cyfle.
• I ddarparu cefnogaeth a chyflawni tasgau penodol yn unol Chynllun Gofal yr unigolyn e.e. gofal personol.
• I fod yn sensitif i'r angen a pharchu hawliau, credoau a dewisiadau'r unigolyn ar bob achlysur.
• Dilyn ethos sydd yn pwysleisio pwysigrwydd gweithio gydag unigolion, gan ganolbwyntio ar ddilyn egwyddorion galluogi a hyrwyddo eu hannibyniaeth.
• Cynnal asesiad manwl wrth gyrraedd pob galwad, gan ystyried iechyd, lles meddyliol a chorfforol unigolion, gan ymateb yn sydyn ac yn briodol i’r sefyllfa. Yn gallu adnabod newidiadau mewn iechyd a llesiant ar sail y gwahaniaethau mewn cyfnodau byr o amser o fewn yr un diwrnod ar brydiau, neu gyfnodau hirach ar adegau eraill.
• Disgwylir gallu cyd-weithio gydag eraill i’w helpu, gan nodi unrhyw rwystrau sydd i gyflawni eu canlyniadau, a defnyddio'r wybodaeth yma i drafod gyda’r tîm ehangach, rhoi newid ar waith, a dysgu o brofiad.
• I fod yn rhan o'r broses o gynllunio, paratoi, gweithredu ac adolygu cynllun y defnyddiwr unigol.
• Cyfrannu at, a dilyn yn fanwl, cynlluniau gofal personol unigryw sy’n cael ei greu mewn partneriaeth â’r unigolyn, gan adnabod cyfleoedd i addasu a gwella’r cynllun gofal yn ôl yr angen. Mewn amgylchiadau addas, yn gallu gweithredu ar yr addasiad yn syth gan ddiweddaru’r Cydlynydd Gofal Cymunedol, neu mewn amgylchiadau eraill yn awgrymu cynnal adolygiad o’r sefyllfa ar y cyd gyda’r proffesiynau perthnasol.
• Yn unol â’r cynllun gofal, defnyddio offer arbenigol os oes angen, trwy ddilyn y cynllun symud a thrin, gan sicrhau'r gofal gorau i’r unigolyn. Cyfrifoldeb dros adrodd yn ôl yn syth am unrhyw broblem, diffygion a rhwystrau.
• Yn gallu ymgymryd â thasgau iechyd syml, megis gweinyddu drops llygid a chlustiau, a newid bagiau catheter a stoma, gan adrodd i Dîm Gofal Iechyd Cymunedol os oes unrhyw bryder neu os oes angen arweiniad pellach.
• Gallu delio gyda’r amrywiaeth o faterion allai godi trwy natur y swydd, gan weithredu fel rhan o dîm sy’n datrys problemau ymysg ei gilydd.
• Gallu cymryd cyfrifoldeb i ffonio am gyngor meddygol drwy ddeialu 999 neu feddyg allan o oriau mewn sefyllfa o argyfwng.
• Ymateb yn briodol ac yn sydyn i sefyllfaoedd o argyfwng allai godi trwy wneud defnydd o unrhyw ganllawiau perthnasol.
• I gyfathrebu yn effeithiol gyda’r defnyddwyr gwasanaeth, teuluoedd, staff ac asiantaethau eraill wrth barchu cyfrinachedd bob amser.
• I ymgymryd â dyletswyddau glanhau a londri.
• Cynnal gwaith gweinyddol cywir sy’n berthnasol i’r rôl e.e. cofnodi a rhoi gwybodaeth mewn dogfennau yn ffeiliau’r defnyddiwr gwasanaeth yn ddyddiol.
• I ymddwyn yn broffesiynol ar bob achlysur yn ogystal â chydymffurfio gyda’r cod gwisg briodol.
• I fynychu cyfarfodydd yn unol a cais Rheolwr Llinell.
• I weithredu, os yn berthnasol, fel gweithiwr allweddol ar gyfer nifer penodedig o ddefnyddwyr y gwasanaeth a mynychu cyfarfodydd adolygu a chynadleddau achos y defnyddwyr hynny gan gyfrannu adroddiadau ysgrifenedig a llafar.
• Bod yn barod i gynorthwyo staff newydd yn eu datblygiad gan ddefnyddio eu gwybodaeth, sgiliau a phrofiad i’w cefnogi yn effeithiol.
HYFFORDDIANT A GORUCHWYLIAETH
• Cyfrifoldeb dros fynychu hyfforddiant mandadol, ac unrhyw hyfforddiant arall perthnasol sydd wedi ei adnabod gan y gwasanaeth.
• Cyfrifoldeb dros gwblhau cymhwyster QCF Lefel 2.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad a datblygiad proffesiynol parhaus.
• Bod â meddylfryd sy’n agored i ddysgu’n barhaus ac awydd i ddatblygu yn broffesiynol oddi fewn y maes iechyd a gofal.
• Mynychu a chyfrannu tuag at weithgareddau adeiladol megis goruchwyliaeth, a chyfarfodydd tîm sy’n cefnogi’r meddylfryd o wella a datblygu'r gwasanaeth a llesiant staff.
• Cyfrifoldeb dros gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru, gan gymryd perchnogaeth dros sicrhau fod y nifer angenrheidiol o oriau hyfforddiant wedi eu cyflawni yn llwyddiannus yn flynyddol, a sicrhau eich bod yn ymddwyn mewn modd sy’n egwyddorol yn unol â’r côd ymarfer proffesiynol ar gyfer gofal cymdeithasol.
LLEOLIAD GWAITH
• Disgwylir i ddeilydd y swydd weithio ar draws sefydliad Tai Gofal Ychwanegol safle Penrhos.
• Disgwyliad i weithio ar draws safleoedd eraill y gwasanaeth fel bydd yr angen yn codi e.e., Hafod y Gest, Awel y Coleg, neu gartrefi preswyl y Cyngor.
DIOGELU
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth fod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.
• Sicrhau fod yr unigolion a’r adeilad yn saff ac yn ddiogel yn ystod y nos, gan adrodd ar unrhyw broblemau neu bryderon yn syth i’r Rheolwr Llinell.
POLISÏAU
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth a pharchu cyfrinachedd yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Dylid sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei drin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cydymffurfio'n llawn â pholisïau a chanllawiau’r Gwasanaeth.
• Yn ddibynnol ar leoliad y gwaith, disgwylir i’r unigolyn gydymffurfio yn llawn gyda Pholisi Meddyginiaeth Cyngor Gwynedd.
ARALL
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd, gan gynnwys dyletswyddau gall eich Rheolwr Llinell eu dirprwyo i chi.
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
• Yn achlysurol bydd disgwyliad i weithio un shifft dydd ar gais eich rheolwr llinell.
• Angen gweithio oriau anghymdeithasol dros saith diwrnod ar sail rota. Gall hyn gynnwys gŵyl y banc a phenwythnosau yn ôl yr angen.
• Bydd angen mynd trwy brosesau'r Gwasanaeth Datgelu ac Eithrio.
