Swyddi ar lein
Arweinydd Tîm - Gweithwyr Cefnogol Dementia
£32,578 - £34,811 y flwyddyn | Dros dro 31/03/2027
- Cyfeirnod personel:
- 26-33259
- Teitl swydd:
- Arweinydd Tîm - Gweithwyr Cefnogol Dementia
- Adran:
- Oedolion, Iechyd a Llesiant
- Gwasanaeth:
- Gwasanaethau Darparu
- Dyddiad cau:
- 02/11/2026 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Dros dro | 31/03/2027 | 37 Awr
- Cyflog:
- £32,578 - £34,811 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- S2
- Lleoliad(au):
- Amrywiol
Manylion
Hysbyseb Swydd
*DALIER SYLW*
Mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i fod yn gyflogwr cynhwysol ac i wella amrywiaeth ein gweithlu.
Bydd eich ffurflen gais yn cael ei hasesu yn ddienw. Ni fydd eich teitl, enw na chyfeiriad e-bost yn cael ei rannu â’r panel sy’n penodi at bwrpas llunio rhestr fer. Dylech ystyried hyn yn ofalus wrth ysgrifennu amdanoch eich hun yn y rhan gwybodaeth pellach.
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol neu manylion pellach gellir cysylltu â Elliw Haf Thomas ar ElliwHafThomas@gwynedd.llyw.cymru neu 07767498644.
Rhagwelir cynnal cyfweliadau.
Ffurflenni cais ar gael gan, Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 10:00 O’R GLOCH, 02/11/2026
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus.
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Cyfathrebu
Meddu ar sgiliau rhyngbersonol da.
Sgiliau cyfathrebu a gwrando da.
Dealltwriaeth glir o bwysigrwydd llais yr unigolyn wrth ddarparu gofal.
Gallu darparu arweiniad a chefnogaeth i aelodau eraill o'r tîm.
Datrys Problemau
Yn gallu delio gyda problemau cymhleth a all godi ar fyr rybudd, neu dynnu ar arbenigedd unigolion eraill i helpu i ddatrys problem.
Gallu defnyddio barn broffesiynol i asesu sefyllfaoedd, datrys problemau ac uwchgyfeirio materion yn briodol.
Gallu blaenoriaethu gwaith y tîm a dyrannu adnoddau yn effeithiol.
Gallu cefnogi staff i ddatrys problemau ac ymdrin â sefyllfaoedd heriol.
Gweithio gydag eraill
Gallu gweithredu yn unigol ac fel aelod o dîm.
Agwedd broffesiynol gyda’r gallu i adeiladu ymddiriedaeth gyda defnyddwyr gwasanaeth a'u teuluoedd.
Gallu ysgogi, cefnogi a goruchwylio aelodau'r tîm.
Yn unigolyn sy'n gallu dangos empathi tuag at anghenion unigolion ac aelodau staff.
Gallu cydweithio'n effeithiol gyda gweithwyr iechyd, gweithwyr gofal cymdeithasol a phartneriaid amlasiantaethol.
Sgiliau eraill
Bod yn berson sensitif, ymroddedig, gonest a dibynadwy gyda’r gallu i weithredu mewn modd sy’n parchu hawliau’r unigolyn bob amser.
Yn gallu gweithio’n hyblyg, ac ymateb i anghenion y Gwasanaeth.
Yn gallu gweithio'n annibynnol a gwneud penderfyniadau o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
Yn gallu rheoli amser ac yn berson dibynadwy.
Yn gallu monitro a chynnal safonau ansawdd uchel.
DYMUNOL
Technoleg Gwybodaeth
Yn hyderus yn defnyddio systemau TG ar gyfer cofnodi gwybodaeth, monitro perfformiad, cynhyrchu adroddiadau a chyfathrebu.
Profiad o ddefnyddio systemau cofnodi gofal electronig neu systemau monitro perfformiad.
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
QCF Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol (neu gymhwyster cyfatebol) neu ymrwymiad i gymhwyso o fewn amserlen benodedig.
QCF Lefel 3 (Arwain a Rheoli) neu ymrwymiad i gymhwyso o fewn amserlen benodedig.
DYMUNOL
Parodrwydd i ddatblygu gwybodaeth am ddementia a dulliau cefnogi unigolion sy'n byw gyda dementia.
Hyfforddiant mewn goruchwylio staff, arweinyddiaeth neu reoli perfformiad.
Hyfforddiant mewn iechyd a diogelwch e.e. symud a thrin, cymorth cyntaf.
Hyfforddiant Diogelu Oedolion
Dealltwriaeth o gynlluniau a darpariaeth gofal person-ganolog.
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Dealltwriaeth sylfaenol o ddementia a'i effaith ar unigolion, teuluoedd a gofalwyr, neu barodrwydd i ddatblygu'r wybodaeth hon.
Profiad o gefnogi oedolion bregus neu unigolion sy'n byw gyda dementia.
Profiad o weithio mewn gwasanaeth iechyd neu ofal cymdeithasol.
Profiad o gydweithio gyda theuluoedd a gofalwyr.
DYMUNOL
Profiad o oruchwylio, mentora neu gefnogi staff.
Profiad o gyfrannu at gynlluniau gofal a chofnodion proffesiynol.
Profiad o gydlynu gwaith tîm neu drefniadau gwasanaeth o ddydd i ddydd.
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Dealltwriaeth o egwyddorion darparu gofal.
Gallu dilyn cynlluniau gofal, cofnodi gwybodaeth yn gywir, a chynnal cyfrinachedd.
Gallu hyrwyddo arferion person-ganolog a chefnogi staff eraill i wneud yr un fath.
Gallu ymateb yn briodol i faterion diogelu, iechyd a diogelwch a rheoli risg.
Gallu hyrwyddo datblygiad, llesiant a pherfformiad staff.
Gallu addasu dulliau cyfathrebu i ddiwallu anghenion unigolion sy'n byw gyda dementia.
DYMUNOL
Dealltwriaeth a gwybodaeth am gyflyrau iechyd penodol.
Profiad o reoli newid a chefnogi datblygiadau gwasanaeth.
Meddu ar drwydded yrru ddilys.
ANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOL
Gwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn. Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol. Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith).
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd.
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Hyrwyddo ethos gofal person canolog (person-centred care) drwy ddilyn safonau ymarfer proffesiynol sy’n cwrdd ag anghenion corfforol, emosiynol, deallusol, cymdeithasol ac ysbrydol y rhai sy’n defnyddio’r gwasanaeth.
• Cefnogi unigolion, eu teuluoedd a'u gofalwyr i gynnal annibyniaeth, lles a chysylltiadau o fewn eu cymunedau.
• Arwain a rheoli gwaith dydd i ddydd y Gweithwyr Cefnogol Dementia, gan sicrhau bod gwasanaethau o ansawdd uchel yn cael eu darparu'n gyson ar draws y sir.
• Bod yn gyfrifol am reolaeth llinell y Gweithwyr Cefnogol Dementia, gan sicrhau goruchwyliaeth effeithiol, datblygiad proffesiynol a pherfformiad uchel.
• Dirprwyo dros y Rheolwr Ardal pan fo angen a gweithredu fel y prif gyswllt gweithredol ar gyfer y gwasanaeth.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. e.e. staff, cyllid, offer
• Rheolwr llinell ar gyfer hyd at 10 o Weithwyr Cefnogol Dementia ar draws y Sir.
• Sicrhau bod Gwasanaeth Cefnogol Dementia Gwynedd yn darparu gwasanaeth o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.
• Darparu arweinyddiaeth ymarferol o ddydd i ddydd i'r Gweithwyr Cefnogol Dementia, gan hyrwyddo ymarfer da, monitro ansawdd gwaith a cynorthwyo gyda datblygiad y gwasanaeth.
• Sicrhau defnydd priodol o eiddo unigolion.
• Gwneud defnydd priodol o offer arbenigol sy’n helpu'r unigolion i fyw eu bywydau yn ôl eu dymuniadau a’u hamcanion personol. Bydd hyn yn cynnwys adrodd ar broblemau gyda’r offer a dilyn protocol ymarfer a hyfforddiant arbenigol yn ôl yr angen.
• Sicrhau bod eiddo defnyddwyr gwasanaeth yn cael ei reoli’n briodol e.e. meddyginiaeth ac arian parod.
Prif Ddyletswyddau.
• Rhagori (excel) mewn adeiladu perthnasau cadarnhaol â phobl er mwyn deall yn iawn beth fyddai'n gwneud gwahaniaeth iddynt yn eu bywydau a grymuso (empower) llais yr unigolion ar bob cyfle.
• Sicrhau a pharchu urddas ac annibyniaeth unigolion gan ddangos empathi.
• Canolbwyntio ar gefnogi drwy ddulliau person canolog gan gadw at bolisïau a gweithdrefnau’r Cyngor a’r Gwasanaeth.
CEFNOGI GWEITHWYR CEFNOGOL DEMENTIA
• Ymgymryd a dyletswyddau Rheolwr Llinell dros y Gweithwyr Cefnogol Dementia (gan gynnwys rheoli salwch, gwyliau, perfformiad ac ati).
• Cefnogi’r Gweithwyr Cefnogol Dementia o ddydd i ddydd, a gweithredu fel prif bwynt cyswllt ar gyfer y tîm, gan eu cynorthwyo i ddatrys problemau a goresgyn heriau. Bydd angen adrodd yn ôl yn rheolaidd i’r Rheolwr Ardal.
• Cynnal goruchwyliaeth ffurfiol rheolaidd gyda'r Gweithwyr Cefnogol Dementia, ac arwain a chynnal cyfarfodydd tîm yn chwarterol.
• Cefnogi aelodau'r tîm i ddatblygu eu sgiliau, eu gwybodaeth a'u hyder wrth weithio gyda phobl sy'n byw gyda dementia.
• Cofnodi anghenion hyfforddiant, gan gefnogi datblygiad staff newydd a phresennol, a chydweithio gyda’r tîm hyfforddi o fewn y Cyngor i gyfarch yr angen.
• Cyfathrebu diweddariadau gwasanaeth a sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei rannu’n gyson gyda’r tîm (e.e hyfforddiant).
• Arwain ar y broses recriwtio er mwyn penodi unigolion newydd i’r tîm.
• Trefnu rhaglen cyfnod croeso i gefnogi gweithwyr newydd, a sicrhau eu bod yn cwblhau eu cyfnod prawf yn llwyddiannus.
CYFATHREBU
• Cynrychioli’r Tîm mewn unrhyw gyfarfodydd perthnasol (e.e grŵp tasg, dementia actif) ac ymgymryd â unrhyw weithred sydd yn gysylltiedig a’r Gwasanaeth.
• Trefnu a datblygu grwpiau cefnogi yn ôl yr angen, er mwyn ehangu cysylltiadau a rhwydweithiau yn ymwneud gyda darparu cefnogaeth dementia yn y gymuned.
• Gweithio mewn partneriaeth gyda aelodau timau adnoddau cymunedol ar draws Gwynedd (e.e gweithwyr cymdeithasol, nyrsys cymunedol).
CYSYLLTIADAU CYMUNEDOL
• Cyfrannu at y broses o gynllunio a chynnal gweithgareddau yn unol ag anghenion yr unigolyn, er mwyn eu hannog i fyw bywyd mor llawn â phosib, a chreu cysylltiadau gyda’u cymunedau.
• Cymryd cyfrifoldeb am wybod beth sy’n digwydd mewn cymunedau a chwilio am ddatrysiadau i allu helpu pobl. Annog unigolion i fyw eu bywyd mor llawn â phosibl trwy wneud defnydd o unrhyw adnoddau a gweithgareddau sydd ar gael yn eu cymuned.
• Rhoi cefnogaeth ymarferol, cyngor a mynediad at adnoddau, gweithgareddau, grwpiau a rhaglenni cymunedol eraill i bobl sy’n byw gyda dementia, eu teuluoedd a’u gofalwyr. Caiff hyn ei wneud er mwyn cynnal eu hannibyniaeth, eu ffordd o fyw a’u perthnasoedd presennol mor hir â sy’n bosib.
• Gweithio mewn partneriaeth gyda’r trydydd sector a chymunedau i’w hannog i agor eu gwasanaethau i bobl sy’n byw efo Dementia.
• Mynychu cyfarfodydd yn rheolaidd gyda Arweinyddion Timau Adnoddau Cymunedol er mwyn monitro ansawdd y gwasanaeth sydd yn cael ei gynnig, deall y galw, a monitro’r rhestrau aros yn yr ardaloedd.
RHEOLI GWYBODAETH
• Cyfrifoldeb dros sicrhau fod dogfennaeth yn cael eu diweddaru a’u ffeilio yn gywir ar system iGwynedd.
• Cynnal archwiliadau rheolaidd o ffeiliau defnyddwyr gwasanaeth a monitro ansawdd cofnodion er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â safonau'r gwasanaeth.
• Monitro fod asesiadau risg unigryw i’r unigolyn yn cael eu datblygu, gweithredu ac adolygu ar draws y Sir.
ADRODD AR GYNYDD
• Cyfrifoldeb dros lunio adroddiadau RIF ar y cyd gyda’r gweithwyr cefnogol dementia i adrodd ar gynnydd y prosiect i gronfa grant y Cynllun, gan ddatblygu astudiaethau achos fel tystiolaeth o’r gwaith sydd yn digwydd yn lleol.
• Cydweithio gyda rheolwr y gyllideb er mwyn sicrhau parhad gwasanaeth, ac adnabod unrhyw gyfleoedd datblygol i ehangu’r gefnogaeth yn Sirol.
CYFATHREBU A PHERTHNASAU
• Hyrwyddo cyfathrebu gonest, cadarnhaol ac agored ar bob lefel ac ar bob achlysur.
• Gweithio mewn partneriaeth ag eraill yn y maes iechyd a gofal, e.e. gweithwyr cymdeithasol, nyrsys cymunedol, therapyddion galwedigaethol, ffisiotherapi, meddygon teulu a phartneriaid trydydd sector.
• Gweithredu ar gyfleoedd i adeiladu bywydau sy’n gysylltiedig â rhwydweithiau teuluol a chymunedol a bod yn glir ynghylch yr hyn maen nhw’n gallu helpu’r unigolion i’w gyflawni.
HYFFORDDIANT A GORUCHWYLIAETH
• Ymrwymo i ddilyn rhaglen hyfforddi yn unol â’r gofynion cenedlaethol, a derbyn cyfrifoldeb am eich datblygiad proffesiynol.
• Mynychu hyfforddiant mandadol, ac unrhyw hyfforddiant arall perthnasol sydd wedi ei adnabod gan y gwasanaeth.
• Ymrwymiad i gwblhau cymhwyster QCF Lefel 2 (Iechyd a Gofal), a Lefel 3 (Rheolaeth ac Arweinyddiaeth)
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad a datblygiad proffesiynol parhaus.
• Bod yn agored i ddysgu’n barhaus ac i ddatblygu yn broffesiynol yn y maes iechyd a gofal.
• Mynychu a chyfrannu tuag at weithgareddau adeiladol fel goruchwyliaeth a chyfarfodydd tîm sy’n cefnogi’r meddylfryd o wella a datblygu'r gwasanaeth a llesiant staff.
• Cofrestru gyda Chyngor Gofal Cymru a sicrhau bod y nifer angenrheidiol o oriau hyfforddiant wedi eu cwblhau yn llwyddiannus bob blwyddyn. Sicrhau eich bod yn ymddwyn yn egwyddorol ac yn unol â’r cod ymarfer proffesiynol ar gyfer gofal cymdeithasol.
DIOGELU
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth fod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.
POLISÏAU
• Cydymffurfio yn llawn gyda Chod Meddyginiaeth Cyngor Gwynedd.
• Ymddwyn yn broffesiynol bob amser.
• Rheoli gwybodaeth a pharchu cyfrinachedd yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â’r ddeddfwriaeth Diogelu Data.
• Cydymffurfio â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Dilyn polisïau cyfle cyfartal a chydraddoldeb y Cyngor.
• Cydymffurfio'n llawn â pholisïau a chanllawiau’r Gwasanaeth.
ARALL
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon. Annog eraill i weithio tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
Amgylchiadau Arbennig. e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
• Bydd angen mynd trwy brosesau’r Gwasanaeth Datgelu ac Eithrio.
• Delio gydag arian unigolion sydd yn derbyn gwasanaeth yn unol â chynllun gofal a/neu ddilyn canllawiau trafodion ariannol Cyngor Gwynedd, os oes angen.
• Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill sy’n cael eu dirprwyo i chi gan eich rheolwr llinell.
