Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Ymgysylltu â rhanddeiliad er mwyn cynnal perthnasoedd a chodi proffil yr Uned.
•Cynorthwyo’r Uned gyda holl waith marchnata’r Uned, creu deunydd marchnata a sicrhau bod brand y gwasanaeth yn cael ei gyfathrebu’n glir ac ei gynnal.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
Gliniadur, Ffôn Symudol, Cyfarfpar creu deunydd marchnata
Prif ddyletswyddau
•Cynorthwyo Swyddogion Gwybodaeth i Deuluoedd gyda marchnata holl waith Teulu Gwynedd drwy sicrhau fod brand Teulu Gwynedd yn cael ei adlewyrchu ymhob ymgyrch cyhoeddusrwydd. Bydd angen sicrhau cefnogaeth i sicrhau fod y canlynol wedi’i gyflawni’n gyson:
i.diweddaru rheolaidd i’r tudalennau Gwasnaethau Plant a Teulu Gwynedd ar safle we’r Cyngor gan gynorthwyo’r swyddogion gyda tasgau perthnasol er mwyn cyflawni gofynion cysondeb ar dudalennau Gwasanaethau Plant e.e. Grŵp Tasg
ii.cynorthwyo’r cymhorthyddion gweinyddol i ddilyn canllawiau brandio ar gyfer hyrwyddo gwybodaeth yr Uned ar y cyfryngau cymdeithasol sef Facebook ac Instagram
iii.gwybodaeth ar hysbysfyrddau canolfannau
iv.cynhyrchu defnyddiau cyhoeddusrwydd
v.cadw stoc o ddeunyddiau marchnata
•Cynhyrchu deunydd ymgysylltu a marchnata yn unol â chanllawiau brand yr Uned ar gyfer hyrwyddo ystod eang o wasanaethau a digwyddiadau a chynhaliwyd gan dimoedd yr Uned. Defnyddio meddalwedd Canva a pecyn brandio’r Uned ar gyfer cadw cysondeb ac adeiladu brand yr Uned.
•Creu, golygu a chyhoeddi cynnwys digidol amlgyfrwng, gan gynnwys fideos, reels, straeon a chynnwys gweledol arall ar gyfer cyfryngau cymdeithasol, gwefan y Cyngor a sianeli hyrwyddo perthnasol, gan sicrhau cydymffurfiaeth â chanllawiau yr Uned.
•Cynnal y platfformau hyrwyddo digidol gan sicrhau fod amrywiaeth o’r prosiectau yn cael sylw effeithiol ar gyfryngau cymdeithasol yr Uned a gwefan y Cyngor. Sicrhau cynhaliaeth amserlen pyst cyfryngau cymdeithasol drwy gwblhau adolygiad dadansoddol cyson a gweithio tuag at cael fwy o ddilynwyr a chyrhaeddiad uchel ar gyfryngau cymdeithasol yr Uned.
•Adnabod tueddiadau marchnata gyfredol a mynychu hyfforddiant er mwyn sicrhau defnydd cyson o feddalwedd diweddar.
•Trefnu a chynnal sesiynau estyn allan i godi proffil Teulu Gwynedd ar draws yr awdurdod, a chefnogi /mentora teuluoedd sydd yn chael hi’n anodd i gael mynediad digidol i wybodaeth perthnasol. Cefnogi darparwyr ymyraethau / gwasanaethau o bob sector i sicrhau fod eu gwybodaeth ar gael i deuluoedd y sir (uchafu defnydd o adnoddau megis DEWIS, Gwefan y Cyngor a rhwydweithiau cymdeithasol).
•Sicrhau cefnogaeth i’r Uned gyda ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth o’r ystod eang o gefnogaeth sydd ar gael drwy ein cyfryngau cymdeithasol.
•Cyfrifoldeb dros ymateb neu arall gyfeirio ymholiadau gan deuluoedd a darparwyr gofal plant at swyddogion perthnasol yn ôl yr angen.
•Cynrychioli’r Uned mewn digwyddiadau yn rheolaidd ar gyfer hyrwyddo gwasanaethau’r Uned. Defnydd o gar eich hun yn angenrheidiol.
•Sefydlu a chynnal perthynas waith effeithiol â’r cyhoedd, swyddogion mewnol ar draws yr Awdurdodau Lleol, asiantaethau statudol a gwirfoddol, a sefydliadau y maes plant a theuluoedd.
•Unrhyw ddyletswyddau eraill perthnasol i’r swydd ar gais y rheolwr.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin.
Amgylchiadau arbennig
Oriau Gwaith:37 awr yr wythnos. Yn achlysurol bydd cais i weithio ar rota hyblyg rhwng 8am a 6pm. Hefyd bydd angen gweithio oriau anghymdeithasol o bryd i’w gilydd.