Nodweddion personol
Hanfodol
- Y gallu i gydweithio ag ystod eang o bobl. Gallu i ddelio â phobol yn hyderus.
- Trefnu amser yn effeithiol
- Sgiliau cyfathrebu clir
- Gallu i gydweithio fel aelod o dîm.
- Gallu i weithio’n hyblyg.
- Brwdfrydedd.
- Blaengawrwch
- Trwydded yrru llawn a mynediad at drafnidiaeth
- Y gallu i gyflwyno gwaith cywir a thaclus yn rheolaidd.
Dymunol
-
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
- Hyfforddiant perthnasol i faes nam golwg
- Hyfforddiant Technoleg gwybodaeth berthnasol i faes nam golwg.
- Sgiliau rhif/llythrennedd da.
- NVQ Lefel 2 neu uwch
Dymunol
-
Profiad perthnasol
Hanfodol
- Profiad o weithio gyda disgyblion sydd a nam golwg.
- Profiad o ddefnyddio technoleg arbenigol i gefnogi dysgwyr nam golwg.
- Profiad o ddefnyddio braille i gefnogi dysgwyr.
- Profiad o addasu gwaith ar lefel arbenigol.
Dymunol
Cyfrannu a gweithredu Cynlluniau Datblygu Unigol.
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
- Ymwybodol o Strategaeth ADYaCh Gwynedd.
- Dealltwriaeth o’r ddeddfwriaeth ADYaCh a’r Cod Ymarfer.
- Dealltwriaeth o anghenion amrywiol.
- Sgiliau cyfathrebu da a chadarn gyda’r gallu i gyfathrebu yn effeithiol gyda phobl a pharchu’r angen i fod yn gyfrinachol.
- Sgiliau TGaCh gadarn – defnydd effeithlon o TGaCh i gefnogi dysgwyr â nam golwg.
- Y gallu i gyflwyno syniadau a strategaethau i gyd-weithwyr yn hyderus.
- Darparu pecynnau gwaith arbenigol i ddisgyblion yn unol â’u Cynllun Datblygu Unigol/ Cynllun Cyfathrebu Unigol/Cynllun Meddygol os yn berthnasol.
Dymunol
- Dealltwriaeth o Ddulliau Canolbwyntio ar yr Unigolyn.
- Dealltwriaeth o Gynlluniau Datblygu Unigol.
- Dealltwriaeth sylfaenol o ddatblygiad a dysg y plentyn.
ANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOL
Gwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn. Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol. Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith).