Pwrpas y Swydd.
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Cynorthwyo Adrannau’r Cyngor gyda chynlluniau datblygu eiddo o bob math.
• Asesu opsiynau, llunio briff a chomisiynu timau technegol, lle bo’r angen, i redeg prosiectau adeiladu.
• Llunio rhaglenni I’r cleient a rheoli cyllidebau prosiectau.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. e.e. staff, cyllid, offer
• Offer diogelwch personol
• Offer mesur Disto
• Gliniadur
• Ffôn symudol (Cyfanswm gwerth dros £500)
Prif Ddyletswyddau.
• Y swyddog client yw’r pwynt cyswllt cyntaf ar unrhyw brosiectau ar ran y cleient
• Gweithredu ar ran y Gwasanaethau fel Cleient ar brosiectau megis:
o Adeiladau newydd, estyniadau neu waith adnewyddu
o Cynlluniau arbed Ynni ac Ynni Adnewyddol
o Cynlluniau peirianneg sifil syml
o Cynlluniau amgylcheddol Datblygu Economaidd
• Ymgymryd â dyletswyddau Swyddog Cynnal a Chadw (Rôl 2) ar gyfer adeiladau newydd neu rhai wedi’i adfer yn sylweddol.
• Cyfarfod y cleient a’u cynrychiolydd i lunio briff dylunio am waith adeiladwaith cyfalaf (estyniad i Ysgol ayyb) fel y cam gyntaf o’r prosiect adeiladu
• Llunio briff cynhwysfawr ar gyfer prosiectau yn seiliedig ar ofynion y cleient , polisïau’r Cyngor a’r Llywodraeth.
• Sicrhau fod prosiectau adeiladu yn cyd-fynd a phob deddfwriaeth technegol a iechyd a diogelwch gan gynnwys materion yn ymwneud a chynllunio a rheoliadau adeiladu
• Ymgynghori’n eang gyda defnyddwyr adeiladau ar bob lefel er mwyn llunio briff cynhwysfawr
• Gweithredu fel rheolwr prosiect ar gynlluniau cyfalaf gan sicrhau fod pecynnau gwaith timau technegol yn rhedeg yn esmwyth ac yn unol ag amserlen y prosiectau
• Gweithredu fel Uwch Gyflenwr ar brosiectau cyfalaf mawr gan gadeirio grwpiau Uwch Gyflenwyr
• Trefnu, mynychu, a chadeirio, paneli defnyddwyr pan yn ymgynghori.
• Cwblhau taflenni Gwybodaeth asedau ar ddiwedd unrhyw waith ar adeilad.
• Penodi ymgynghorwyr ac aelodau timau technegol ar sail gwerth gorau i’r Cyngor.
• Defnyddio fframweithiau contractwyr ac ymgynghorwyr
• Rhedeg proses PQQ ar gynlluniau sylweddol
• Bod yn bwynt cyswllt rhwng y cleiant ar ymgynghorwyr o gychwyn y prosiect
• Datblygu rhaglen ag amserlen o bob cam o’r project o wneud y briff i waith adeiladu, fel bod y cleient yn ymwybodol o’r drefn y prosiect.
• Cyfathrebu’n effeithlon gyda’r cleient gydol y prosiect. Adrodd I’r Bwrdd Prosiect yn rheolaidd a diweddaru’r holl defnyddwyr yn gyson ac mewn modd sy’n ddealladwy iddynt.
• Darparu dogfennau a briffiau a’u hanfon allan am brisiau cystadleuol gan ymgynghorwyr allanol , Penseiri, peirianwyr, syrfewyr meintiau ac yn y blaen
• Llunio ceisiadau grant a bidiau cyfalaf ar gyfer cynlluniau cyfalaf, gan gynnwys ymgynghori a llunio briff cynhwysfawr i dderbyn prisiau cystadleuol gan benseiri/ymgynghorwyr mewnol ag allanol ar gyfer trefnu cynllunio gwaith.
• Cyfrannu at y broses o gyflwyno ceisiadau am gymorthdaliadau i wireddu prosiectau ym maes adeiladau ac eiddo.
• Cynghori a datrys problemau mynediad a defnydd adeilad / adnodd ar gyfer defnyddwyr ac anawsterau hygyrchedd a Sicrhau cydymffurfiaeth a gofynion Deddf Cydraddoldeb 2010 yng nghyswllt mynediad i adeiladau
• Proffilio gwariant cyfalaf yn chwarterol dros y flwyddyn ariannol gan reoli’r gyllideb o fewn y proffiliau hyn.
• Ymgymryd a dyletswyddau’r Cleient o dan reolau CDM 2015 ar bob prosiect.
• Sicrhau fod datblygiadau yn cydymffurfio a gofynion BREEAM pan yn berthnasol, ac yn cydymffurfio ac amodau cyllido
• Cyd-weithredu ac ymgynghori gyda Swyddog Iechyd a Diogelwch y Gyfadran a Corfforaethol yng nghyswllt adnabod materion a sefyllfaoedd o risg gan weithredu fel ag y bo’n briodol
• Gweithio o fewn a sicrhau fod y rheolwyr safle/penaethiaid yn gweithredu gyda gofynion HSE a pholisïau'r Cyngor
• Gweithio o fewn canllawiau flwyddyn ariannol
• Monitro gwariant cynlluniau cyfalaf gan ymgymryd â’r cyfrifoldeb o gyd-gordio'r drefn adrodd ar gynnydd y rhaglen honno.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin.
Amgylchiadau Arbennig. e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
• Bydd disgwyl i deilydd y swydd gymryd rhan yn y cynllun darparu gwasanaeth tu allan o oriau neu pan fo argyfwng ac achosion penodol yn codi sydd angen ymateb brys.