Pwrpas y Swydd.
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Gweithredu fel Uwch AThrawes ar gyfer y tim sydd wedi ei nodi
• Sicrhau bod plant a phobl ifanc Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
• Sicrhau gwasanaeth arbenigol o safon uchel ar gyfer ysgolion i gefnogi disgyblion sydd ag anawsterau Cyfathrebu a Rhyngweithio.
• Cydweithio gyda’r Rheolwr Timau ADY i sicrhau rheolaeth gadarn i ganolfannau arbennigol i gefnogi disgyblion sydd ag anawsterau Cyfathrebu a Rhyngweithio
• Sicrhau gweithrediad yn y maes Cyfathrebu a Rhyngweithio drwy’r defnydd o weithdrefnau a phrosesau effeithiol ar sail tystiolaeth.
• Cydweithio gyda’r Arweinyddion Tim eraill o fewn y Gwasanaeth er mwyn sicrhau gwasanaeth di-dor
• Byddent yn cyflawni hyn drwy:
o gydlynu gwaith y Canolfannau
o fonitro ar ansawdd o fewn darpariaethau’r Tîm Cyfathrebu a Rhyngweithio.
o rheoli llinell ar gyfer y tîm o Athrawon Arbenigol a Cymorthyddion Arbenigol o fewn y Tîm.
o gydweithio yn agos gyda’r Swyddogion Ansawdd ADYaCh Ardal.
o gydweithio gyda’r Uwch Seicolegydd Addysgol yn natblygiad strategaeth hyfforddiant y tîm.
o sicrhau datblygiad proffesiynol staff y ddarpariaeth ar bob lefel
o gefnogi ysgolion ar ffurf hyfforddiant ac adnoddau parod
• Gweithredu yn unol a chanllawiau diogelu cadarn.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. e.e. staff, cyllid, offer
• Cydlynnu’r adnoddau a gweithrediad dydd i ddydd y Canolfannau Cyfathrebu a Rhyngweithio .
• Rheoli llinell ar gyfer y tîm o Athrawon Arbenigol a Cymorthyddion Arbenigol o fewn y Tîm.
• Cynnal hyfforddiant a chreu adnoddau ar gyfer ysgolion, canolfannau a rhieni
• Cyfrifoldeb am sicrhau argaeledd adnoddau hyfforddiant a chefnogaeth ar gyfer ysgolion, Canolfannau a rhieni drwy’r Llyfrgell Adnoddau.
• Sicrhau argaeledd adnoddau ar gyfer defnydd plant a staff y canolfannau arbenigol.
• Gliniadur a ffôn symudol.
Prif Ddyletswyddau.
Mae'r swydd ddisgrifiad hwn i'w gyflawni yn unol a darpariaethau Dogfen Cyflogau ac Amodau Athrawon ysgol ac o fewn amred dyletswyddau athrawon fel y'u nodir yn y dogfen honno cyn belled ag y bo hynny'n berthnasol i deitl y swydd a graddfa cyflog y sawl sydd yn y swydd. Mae’r swydd hefyd yn ddarostyngedig i Amodau Gwaith Athrawon Ysgol yng Nghymru a Lloegr (Y Llyfr Bwrgwyn) ac i unrhyw amodau perthnasol a gytunwyd yn lleol.
• Fod yn gyfrifol am reoli perfformiad a datblygiad proffesiynol staff o fewn y Tîm Cyfathrebu a Rhyngweithio.
• dreulio cyfnodau ar lawr dosbarth yn arsylwi, modelu a monitro
• Gweithio ar y cyd gyda’r Rheolwr Timau ADY i gydlynu gwaith y Canolfannau.
• Cydlynu gwybodaeth yr Athrawon Arbenigol Cyfathrebu a Rhyngweithio mewn paratoad at y Fforwm Ardal ADYaCh.
• Sicrhau gwasanaeth cefnogi a chynghori ar gyfer ysgolion a sefydliadau addysgol eraill drwy ddarparu arweiniad a chefnogaeth o ansawdd uchel.
• Cyfrannu at gynlluniau strategol ysgolion unigol ym maes Cyfathrebu a Rhyngweithio, ac ADY yn gyffredinol.
• Cyflenwi gwaith proffesiynol drwy weithredu strategaethau a gweithgareddau dysgu ar gyfer disgyblion gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol; yn enwedig anhwylderau cyfathrebu a rhyngweithio ar lefel ysgol ac o fewn y Canolfannau arbenigol.
• Cyfrannu at fonitro cynnydd disgyblion drwy asesu, cofnodi ac adrodd ar lwyddiannau.
• Cydweithio yn strategol gydag ysgolion ar gyfer datblygu'r awyrgylch cyfathrebu gyfeillgar o fewn yr ysgol.
• Cyfrannu at drafodaeth a phenderfyniadau'r Fforwm Ardal ADYaCh.
• Cyfrifoldeb am hunan reoli llwyth gwaith a blaenoriaethu achosion
• Gweithredu ac addasu pecynnau gwaith penodol, i sicrhau adnoddau arbenigol ar gyfer ysgolion , Canolfannau a rhieni yn y maes anghenion Cyfathrebu a Rhyngweithio.
• Cyd ddatblygu rhaglen hyfforddiant penodol arbenigol i gynorthwyo ysgolion, Canolfannau a rhieni i gael gwell dealltwriaeth o anghenion iaith, cyfathrebu, rhyngweithio a Niwroamrywiaeth .
• Monitro a sicrhau ansawdd y Tîm, gan gydweithio gyda’r Uwch Seicolegydd Addysgol i adrodd ar ansawdd ac effeithiolrwydd y tîm.
• Ymgynghori rheolaidd gyda’r Swyddog Ansawdd ADYaCh er mwyn sicrhau fod gwybodaeth gyfredol ynglŷn â chynnydd y disgyblion, ac anghenion yr Ardal o ran ansawdd y ddarpariaeth yn cael ei gyfathrebu.
• Cyd weithio’n agos a'r Uwch Seicolegydd Addysgol Cyfathrebu a Rhyngweithio i weithredu strategaethau cytunedig ar lefel ysgol a chanolfannau arbenigol. Bydd hyn yn cynnwys gweithredu rhaglenni hyfforddiant, strategaethau ar gyfer unigolion o fewn ysgolion ac o fewn ein canolfannau arbennig.
• Sicrhau arweiniad gweithredol clir i staff ysgolion, ac o ddydd i ddydd athrawon a chymorthyddion y Canolfannau.
• Cyd weithio ag athrawon arbenigol eraill o fewn y gwasanaeth ADY.
• Cyfrannu i HMS a datblygiadau staff o fewn y gwasanaeth ac o fewn ein hysgolion.
• Paratoi adroddiadau ar gynnydd yn erbyn meini prawf cytunedig.
• Sicrhau fod y Meini Prawf yn wybyddus i bawb ac yn cael eu gweithredu’n gyson yn ein hysgolion.
• Diweddaru bas data o’r disgyblion sydd yn derbyn cefnogaeth y gwasanaeth.
• Sicrhau gweithrediad yn unol ag argymhellion y Fforwm Ardal ADYaCh.
• Cymryd rhan, yn ôl yr angen, mewn prosesau sy’n adolygu, monitro a datblygu'r Gwasanaeth Cyfathrebu a Rhyngweithio.
Cyffredinol
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin.
Amgylchiadau Arbennig. e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
• -