Swyddi ar lein
Swyddog Amgylcheddol
£38,510 - £40,444 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 26-33171
- Teitl swydd:
- Swyddog Amgylcheddol
- Adran:
- Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru
- Gwasanaeth:
- Uned Busnes a Statudol
- Dyddiad cau:
- 17/10/2026 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 37.5 Awr
- Cyflog:
- £38,510 - £40,444 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- S4
- Lleoliad(au):
- Amrywiol
Manylion
Hysbyseb Swydd
Swyddog Amgylcheddol
CYFLOG: S4 (SCP 26-28) £38,510 - £40,444
Gweithio hybrid – dau ddiwrnod yn gweithio o un o’r swyddfeydd isod
LLEOLIAD: Parc Menai / Conwy / Halkyn / Dolgellau
Pwrpas y swydd hon yw cynorthwyo Tîm yr Amgylchedd i weithredu gofynion deddfwriaethau amgylcheddol a pholisïau Llywodraeth Cymru (LlC).
Mae Swyddogion yr Amgylchedd yn gyfrifol am reoli a gweithredu rhaglen dreigl o arolygiadau ystadau meddal ac arolygon ecolegol ar gyfer y rhwydwaith cefnffyrdd yn unol â Llawlyfr Cynnal a Chadw Cefnffyrdd Llywodraeth Cymru (WGTRMM), Llawlyfr Dylunio Ffyrdd a Phontydd (DMRB) a Deddf Priffyrdd (1980). Adnabod, rheoli a gwella'r rhestr o ystadau meddal a'r rhestr asedau ecolegol gan gynnwys seilwaith bywyd gwyllt yn unol ag ymrwymiadau WGTRMM, DMRB a LlC.
Mae Swyddogion yr Amgylchedd hefyd yn cymryd rhan weithredol yn y gwaith o ddatblygu a gwella'r ffordd y cesglir data am Ystadau Meddal / ENVIS a data amgylcheddol arall, a sut y caiff y data ei ddefnyddio. Rheoli gwaith cynnal a chadw sydd wedi'i raglennu, gwaith arferol, adweithiol a gwaith rheoli amgylcheddol sy'n gysylltiedig â’r ystâd feddal ac asedau ategol (e.e. Rheoli Rhywogaethau Estron Goresgynnol (INNS), plannu coed, gwaith blodau gwyllt, seilwaith bywyd gwyllt ac ati) gan gynnwys goruchwylio gwaith.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd uchod, cysylltwch â Mark Watson-Jones ar 07789653323.
Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon ac Saesneg yn hanfodol.
Dyddiad Cau: 10am, 17eg o Hydref 2026
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu â chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Gallu gweithio mewn amgylchedd tîm.
Ymroddgar ac â’r gallu i gymell ei hun.
Sgiliau rhyngbersonol da.
Gallu gweithio’n ddiogel dan bwysau.
Gallu gweithio gyda dim ond ychydig o oruchwyliaeth.
Sgiliau trefnu da.
Gallu gwneud gwaith arolygu ar y safle, yn aml mewn ardaloedd sydd yn agos at gefnffyrdd cyflym.
Gweithio oriau y tu allan i oriau arferol yn aml, yn ôl y gofyn.
DYMUNOL
Gallu goruchwylio a rheoli contractwyr.
Gallu ysgogi eraill.
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
HNC/HND/NVQ (Lefel 4) mewn pwnc yn ymwneud â’r amgylchedd a phum mlynedd o brofiad yn y diwydiant NEU Radd neu MSc mewn pwnc yn ymwneud â'r amgylchedd.
DYMUNOL
Aelod o gorff proffesiynol perthnasol.
Hyfforddiant Iechyd a Diogelwch.
Hyfforddiant rheoli.
Cynllun 12D(M7) Sector Priffyrdd Cenedlaethol - Rheolaeth Traffig.
Achrediad LISS/CSCS priodol.
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad o archwiliadau ac arolygon amgylcheddol.
DYMUNOL
Profiad o ddefnyddio systemau rheoli asedau.
Profiad o reoli prosiectau a chyllidebau.
Ystod eang o brofiad mewn rheolaeth amgylcheddol.
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Gallu defnyddio Systemau Gwybodaeth Daearyddol (GiS).
Gallu gweithio ar ei liwt ei hun ac fel rhan o dîm.
Sgiliau cyfathrebu datblygedig iawn, ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Sgiliau trefnu da.
Creadigrwydd a sgiliau datrys problemau.
Gallu addasu'n gyflym i sefyllfaoedd sy'n newid.
Gwybodaeth am ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch berthnasol.
Trwydded Yrru ddilys gyfredol.
Sgiliau TG, defnyddio rhaglenni Microsoft Office gan gynnwys Word ac Excel.
DYMUNOL
Profiad o weithio o fewn deddfwriaeth berthnasol.
Gallu adnabod blaenoriaethau o fewn rhaglenni gwaith.
GOFYNION IAITH
Siarad a gwrando
Cymraeg yn ddymunol.
Darllen a deall
Cymraeg yn ddymunol.
Ysgrifennu
Cymraeg yn ddymunol.
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd
- Rheoli a gweithredu rhaglen dreigl o arolygiadau ystadau meddal ac arolygon ecolegol ar gyfer y rhwydwaith cefnffyrdd yn unol â Llawlyfr Cynnal a Chadw Cefnffyrdd Llywodraeth Cymru (WGTRMM), Llawlyfr Dylunio Ffyrdd a Phontydd (DMRB) a Deddf Priffyrdd (1980).
- Adnabod, rheoli a gwella'r rhestr o ystadau meddal a'r rhestr asedau ecolegol gan gynnwys seilwaith bywyd gwyllt yn unol ag ymrwymiadau WGTRMM, DMRB a LlC.
- Cymryd rhan weithredol yn y gwaith o ddatblygu a gwella'r ffordd y cesglir data am Ystadau Meddal / ENVIS a data amgylcheddol arall a sut y caiff y data ei ddefnyddio.
- Rheoli gwaith cynnal a chadw sydd wedi'i raglennu, gwaith arferol, adweithiol a gwaith rheoli amgylcheddol sy'n gysylltiedig â'r ystâd feddal ac asedau ategol (e.e. Rheoli Rhywogaethau Estron Goresgynnol (INNS), plannu coed, gwaith blodau gwyllt, seilwaith bywyd gwyllt ac ati) gan gynnwys goruchwylio gwaith.
- Cynorthwyo Tîm yr Amgylchedd i weithredu gofynion deddfwriaethau amgylcheddol a pholisïau Llywodraeth Cymru (LlC).
Cyfrifoldeb am swyddogaethau e.e. staff, cyllidebau, offer
- Rheoli darparwyr gwasanaethau allanol, partneriaethau a rhanddeiliaid
- Cerbyd
- Camerâu llwybr
- Sbienddrych
- Tabled / gliniadur
- Ffôn symudol
- Cronfeydd data ar gyfer rheoli a chofnodi asedau amgylcheddol Llywodraeth Cymru ac ACGCC (yr Asiant).
Prif Ddyletswyddau
Rheolaeth
- Dirprwyo ar ran y Cydlynydd Amgylcheddol pan fo angen.
- Rheoli darparwyr gwasanaethau allanol (Contractwyr / Gweithlu Awdurdod Partner / Darparwyr gwasanaethau allanol eraill) gan gynnwys darparu cyfarwyddiadau / goruchwyliaeth / archwiliadau gwaith).
- Rheoli perthnasoedd a chysylltiadau â phartneriaid amgylcheddol a rhanddeiliaid gan gynnwys delio gydag ymholiadau.
- Cynorthwyo a chynghori tîm yr Amgylchedd a Llywodraeth Cymru ynghylch gwelliannau i fioamrywiaeth, tirwedd ac/neu reolaeth amgylcheddol.
- Gwneud cais, ac/neu gynorthwyo i wneud cais, am ystod o drwyddedau ecolegol/amgylcheddol, cydsyniadau ac ati.
- Rheoli a chasglu setiau data sy'n gysylltiedig â rhestr asedau, cofnodion biolegol, ac arolygon bywyd gwyllt arbenigol, chwilio am ddata a'i gyflwyno i'r Tîm Amgylchedd ehangach a phartneriaid eraill ac ati.
Swyddogaeth Arolygu a Rhestr Eiddo
- Cynorthwyo gyda'r gwaith o reoli arolygiadau amgylcheddol gan gynnwys y rhestr ystadau meddal a bywyd gwyllt/ecolegol ar y rhwydwaith cefnffyrdd yn unol â gofynion Llawlyfr Cynnal a Chadw Cefnffyrdd Llywodraeth Cymru, Deddf Priffyrdd (1980) a systemau rheoli asedau Llywodraeth Cymru.
- Cynnal arolygiadau ar gyfer creu gwybodaeth am restr ystadau meddal a rhestr ecolegol sy'n manylu ar asedau newydd a phresennol yn unol â WGTRMM gan gynnwys coetiroedd, glaswelltiroedd, cyrff dŵr, ardaloedd amwynderau, asedau bioamrywiaeth (megis blychau ystlumod, twneli moch daear, llochesi gaeafgysgu). Mae data’r arolwg i gael ei gofnodi o fewn systemau rheoli asedau LlC.
- Rhaglennu a chynnal arolygiadau ystadau meddal / amgylcheddol i gydymffurfio â WGTRMM, deddfwriaeth ac ymrwymiadau i bolisïau eraill gan Lywodraeth Cymru.
- Gweithio gyda'r Tîm Amgylcheddol ehangach i ddefnyddio'r canlyniadau hyn i adnabod, asesu a blaenoriaethu'r diffygion a'r cyfleoedd o fewn asedau.
- Rhaglennu a chynnal ymweliadau ac arolygiadau ystadau meddal / gwaith i sicrhau bod yr Awdurdod Partner / contractwr yn cydymffurfio â'r Cytundeb Darparu Gwasanaeth / rhaglenni gwaith, e.e. plannu coed / torri glaswellt / rheoli chwyn ymledol ac ati.
- Datblygu arbenigedd mewn cronfeydd data rheoli a chofnodi asedau amgylcheddol Llywodraeth Cymru a'r Asiant (gan gynnwys defnyddio Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol) a chymryd rhan weithredol yn y gwaith o ddatblygu a gwella'r ffordd o gasglu a defnyddio data Ystadau Meddal / ENVIS a data amgylcheddol arall. I gynnwys cynorthwyo gyda rheoli gwybodaeth am asedau tir a ffiniau priffyrdd.
- Adrodd a chynorthwyo gydag ymchwilio i ddigwyddiadau amgylcheddol ar y rhwydwaith.
- Cynorthwyo gyda neu gynnal arolygiadau ar gyfer mathau eraill o asedau priffyrdd, e.e. ffiniau priffyrdd pan fo angen.
- Hysbysu tîm Amgylchedd, tîm Gweithrediadau a thimau Rheoli Llwybrau yr Asiant cyn gynted ag y bo'n ymarferol am unrhyw ddiffygion Categori 1 a welwyd fel bod modd iddynt gael eu 'gwneud yn ddiogel'.
Swyddogaeth Arolwg Ecolegol ac Amgylcheddol
- Cynnal gwiriadau ar gyfer adar nythu yn unol â gofynion trwydded adar yr Asiant (ar gyfer gwaith na ellir ei wneud y tu allan i'r tymor nythu).
- Cynorthwyo gyda gwaith rheoli arolygon ecolegol ar y rhwydwaith cefnffyrdd yn unol â gofynion Llawlyfr Cynnal a Chadw Cefnffyrdd Llywodraeth Cymru, ymrwymiadau i gynlluniau a chyllidebau.
- Cynnal arolygon manylach o'r ystâd feddal (e.e. asesiadau cyflym o leiniau glaswelltir blodeuog) er mwyn galluogi camau rheoli priodol i gael eu hadnabod a'u caffael mewn modd amserol.
- Cynorthwyo ecolegwyr yr Asiant i reoli cofnodion rhywogaethau o'r rhwydwaith ystadau meddal / cefnffyrdd gan gynnwys cysylltu â chyrff allanol, e.e. www.cofnod.org.uk, prosiect Dyfrgwn Prifysgol Caerdydd ac ati yn ôl yr angen.
- Cynorthwyo timau eraill yr Asiant gydag arolygon ecolegol neu ystyriaethau sy'n ofynnol, e.e. yn deillio o wiriadau TRECs fel rhan o waith cynnal a chadw.
- Cynorthwyo ecolegwyr yr Asiant i drefnu arolygon ecolegol arbenigol yn ôl yr angen, e.e. infertebratau ar ymylon blodau gwyllt, profion eDNA mewn pyllau arafu ac ati.
- Datblygu arbenigedd arolygu amgylcheddol, e.e. gweithio tuag at gael trwydded rhywogaethau.
Swyddogaeth Cynnal a Chadw a Gwella
- Cynorthwyo gyda rheoli'r gwaith o gomisiynu, gweithredu a chydymffurfio â swyddogaethau cynnal a chadw sydd wedi'u rhaglennu, a swyddogaethau arferol ac adweithiol sy'n gysylltiedig â'r ystâd feddal, er enghraifft:
- Rhaglenni blynyddol ar gyfer rheoli rhywogaethau ymledol a chwyn niweidiol (yn unol â'r Ddeddfwriaeth, WGTRMM a pholisïau a chanllawiau Llywodraeth Cymru).
- Rhaglen flynyddol o blannu coed a chynnal a chadw parhaus dilynol hyd nes ei sefydlu.
- Cynnal a chadw a gwella seilwaith/mesurau lliniaru bywyd gwyllt.
- Rheoli gwaith atgyweirio diffygion a swyddogaethau cynnal a chadw arferol o fewn cyfyngiadau amser tymhorol, y cyllidebau sydd ar gael a chyfyngiadau o ran arwynebedd ffyrdd.
- Darparu cymorth i dimau'r Asiant a'r gadwyn gyflenwi i reoli'r risgiau o niweidio neu darfu ar ecosystemau yn unol â deddfwriaeth, polisi a chanllawiau arfer orau.
- Cefnogi Cydlynwyr Amgylcheddol ac Ecolegwyr i gyflawni amcanion bioamrywiaeth a mentrau Gweinidogion Llywodraeth Cymru (e.e. Llwybr Newydd i Natur) a chefnogi pob tîm i fodloni gofynion Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
- Darparu ymateb i geisiadau cynllunio a allai effeithio ar yr Ystâd Feddal / Bioamrywiaeth ac ati yn ôl yr angen.
Cyffredinol
- Goruchwylio a rhoi arweiniad ar waith a wneir gan ddarparwyr gwasanaeth.
- Cyfathrebu’n effeithiol ac yn gwrtais gydag aelodau etholedig, y cyhoedd, aelodau a swyddogion Llywodraeth Cymru yn ogystal â sefydliadau a chyrff allanol eraill.
- Delio gyda chwynion ac ymholiadau yn gwrtais a phroffesiynol, allan ar safle neu yn y swyddfa.
- Cydweithredu a chysylltu â staff o Adrannau eraill yr Asiant, ac Awdurdodau Partner er mwyn hyrwyddo rheolaeth effeithiol o'r Asiant.
- Bod yn gyfrifol am hunanddatblygiad.
- Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau perthnasol a rhesymol eraill sy’n gymesur â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd ar gais y rheolwr llinell.
- Gweithredu o fewn polisi a gweithdrefnau'r Asiant a Chyngor Gwynedd mewn perthynas â chyfle cyfartal a chydraddoldeb.
Iechyd a Diogelwch ac Amgylcheddol
- Cydymffurfio ag agweddau iechyd a diogelwch y tîm archwilio, yn cynnwys rheoli risg drwy gydymffurfio â systemau gwaith diogel sydd wedi’u sefydlu ac asesiadau risg gweithredol er enghraifft.
- Sicrhau yr ystyrir prosesau asesu risg iechyd, diogelwch ac amgylcheddol yn llawn ym mhob agwedd ar waith y gwasanaeth amgylcheddol megis rheoli traffig.
- Mae'n gyfrifoldeb ar bob gweithiwr yn yr Asiant i gydymffurfio â'r polisïau Iechyd a Diogelwch, amgylcheddol ac ansawdd fel y cânt eu diffinio yn System Rheoli Busnes Integredig yr Asiant.
- Sicrhau y cedwir yn gaeth at bolisïau a deddfwriaeth amgylcheddol ac Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith.
- Cymryd cyfrifoldeb am Iechyd a Diogelwch personol bob amser.
- Disgwylir i ddeiliad y swydd fod yn ymwybodol o'r gofynion, e.e. y ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch a chydweithredu â Rheolwr Iechyd a Diogelwch Cyngor Gwynedd a’r Asiant i sicrhau cydymffurfiaeth â'r gofynion perthnasol.
- Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
- Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch yr Asiant a Chyngor Gwynedd.
- Gweithredu o fewn polisïau'r Asiant a Chyngor Gwynedd mewn perthynas â chyfle cyfartal a chydraddoldeb.
- Yn gyfrifol am reoli gwybodaeth yn unol â chanllawiau'r Asiant a Chyngor Gwynedd ar reoli gwybodaeth.
- Sicrhau yr ymdrinnir â gwybodaeth bersonol mewn modd sy’n cydymffurfio â deddfwriaeth Diogelu Data.
- Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon yr Asiant yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon, ac annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon yr Asiant.
Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall resymol sy’n cyfateb â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
Amgylchiadau Arbennig e.e. yr angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig ac ati
- Y gofyn i weithio oriau y tu allan i oriau gwaith arferol (rhwng 07:00 a 18:00 yn unol â'r cynllun oriau hyblyg) yn ôl y gofyn, er enghraifft archwiliadau/arolygon gyda’r nos ac/neu ar benwythnosau o fewn y swyddogaeth rheoli traffig.
- Gofynnir i ddeilydd y swydd ymgymryd â hyfforddiant yn ôl yr angen. Gweithio tuag at gael trwyddedau rhywogaethau a warchodir, os oes angen.
- Mynd i gyfarfodydd achlysurol mewn mannau eraill yn y DU (e.e. Llandrindod, Caerdydd).
