Pwrpas y Swydd
• Sicrhau bod llais y disgybl a'i deulu yn ganolog i bob agwedd o'r ddarpariaeth gefnogi.
• Gweithio mewn partneriaeth â rhieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol er mwyn hyrwyddo llesiant, presenoldeb, ymgysylltiad a chynnydd disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol.
• Darparu cefnogaeth, cyngor ac arweiniad ymarferol i deuluoedd er mwyn eu galluogi i ddeall a chefnogi anghenion addysgol, cymdeithasol, emosiynol a datblygiadol eu plentyn.
• Cryfhau'r berthynas rhwng y cartref a'r ysgol, gan sicrhau bod teuluoedd yn cael mynediad at wybodaeth, gwasanaethau a chymorth perthnasol.
• Cydlynu a hwyluso ymyraethau, gweithdai a rhaglenni cefnogi teuluoedd sy'n gwella canlyniadau i ddisgyblion ac yn cynyddu gallu teuluoedd i gefnogi eu plant.
• Gweithio'n effeithiol fel aelod o dîm amlasiantaethol yr ysgol er mwyn sicrhau dull cyfannol a chydgysylltiedig o gefnogi disgyblion a'u teuluoedd.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
• Offer cyrsiau
• Offer TG a ffôn symudol.
• Mynediad at ffeiliau Plant cyfrinachol.
• Cyllideb bach ar gyfer cyrsiau a gweithgareddau rhiantu.ee. llogi cyfleusterau, adnoddau, gofal plant, trafnidiaeth a.y.b.
Prif Ddyletswyddau.
Datblygu a chynnal perthnasoedd cadarnhaol, cefnogol a phroffesiynol gyda rhieni, gofalwyr a theuluoedd disgyblion.
Bod yn bwynt cyswllt allweddol i deuluoedd, gan ddarparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ynghylch darpariaeth yr ysgol, gwasanaethau cymorth a chyfleoedd yn y gymuned.
Gweithio gyda theuluoedd i adnabod anghenion, cryfderau a rhwystrau sy'n effeithio ar lesiant, presenoldeb, ymddygiad neu gynnydd y disgybl.
Cynnal asesiadau ac adolygiadau cefnogi teuluol pan fo angen, a llunio cynlluniau gweithredu priodol mewn partneriaeth â theuluoedd a staff yr ysgol.
Cefnogi teuluoedd i gyfranogi'n llawn mewn cyfarfodydd adolygu CDU, cynllunio pontio, cyfarfodydd amlasiantaethol a phrosesau ysgol perthnasol.
Darparu cefnogaeth ymarferol ac emosiynol i deuluoedd sy'n wynebu heriau sy'n ymwneud ag ADY, iechyd, ymddygiad, llesiant, presenoldeb neu amgylchiadau teuluol cymhleth.
Trefnu a hwyluso gweithdai, sesiynau gwybodaeth a grwpiau cefnogi i rieni a gofalwyr ar themâu sy'n berthnasol i anghenion disgyblion yr ysgol.
Cefnogi teuluoedd i gael mynediad at wasanaethau statudol a gwirfoddol perthnasol, gan gynnwys iechyd, gofal cymdeithasol, gwasanaethau therapi a sefydliadau cymunedol.
Gweithio'n agos gyda staff addysgu, y tîm llesiant, therapyddion, seicolegwyr ac asiantaethau allanol i sicrhau dull cydgysylltiedig o gefnogi disgyblion.
Monitro ac adrodd ar effaith ymyraethau a chymorth teuluol gan ddefnyddio systemau cofnodi a gwerthuso'r ysgol.
Cynnal cofnodion cywir, amserol a chyfrinachol yn unol â gofynion diogelu data a pholisïau'r ysgol.
Cyfrannu at strategaethau gwella presenoldeb ac ymgysylltiad teuluol drwy ymweliadau cartref, cysylltiadau rheolaidd a mentrau cefnogi penodol. Dyletswyddau Diogelu.
Bod yn effro bob amser i arwyddion posibl o gamdriniaeth, esgeulustod, ecsbloetio neu unrhyw bryderon sy'n ymwneud â llesiant disgyblion a'u teuluoedd.
Cofnodi unrhyw bryderon diogelu yn gywir, yn wrthrychol ac yn amserol, gan ddilyn gweithdrefnau a systemau cofnodi'r ysgol.
Rhannu pob pryder diogelu yn ddi-oed gyda'r Person Diogelu Dynodedig (PDD) neu'r Dirprwy BDD yn unol â pholisïau a gweithdrefnau'r ysgol.
Gweithio'n agos gyda staff yr ysgol, gwasanaethau cymdeithasol, gweithwyr iechyd proffesiynol ac asiantaethau perthnasol eraill i sicrhau bod disgyblion a theuluoedd yn derbyn cefnogaeth briodol ac amserol.
Mynychu cyfarfodydd amlasiantaethol, cynadleddau amddiffyn plant a chyfarfodydd cynllunio neu adolygu pan fo hynny'n briodol i'r rôl, gan gyfrannu gwybodaeth berthnasol am y teulu a'r disgybl.
Cynnal cyfrinachedd proffesiynol bob amser, gan rannu gwybodaeth yn unig yn unol â gofynion diogelu a deddfwriaeth diogelu data.
Cyfrifoldeb i adrodd ar unwaith unrhyw bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn dioddef neu mewn perygl o ddioddef niwed, yn unol â gweithdrefnau diogelu'r ysgol a'r awdurdod lleol.
Sicrhau bod diogelu a hyrwyddo llesiant plant a phobl ifanc yn ganolog i bob agwedd o'r gwaith gyda disgyblion, teuluoedd a phartneriaid allanol.
Cefnogi disgyblion a'u teuluoedd yn ystod cyfnodau pontio allweddol, gan gynnwys mynediad i'r ysgol, newid dosbarth a pharatoi ar gyfer ôl-16.
Cyfrannu at ethos cynhwysol yr ysgol drwy hyrwyddo cydraddoldeb, parch, urddas a hawliau plant a phobl ifanc.
Mynychu cyfarfodydd, hyfforddiant a datblygiad proffesiynol perthnasol i gynnal ac ehangu gwybodaeth a sgiliau'r rôl.
Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill sy'n briodol i raddfa a chyfrifoldebau'r swydd.
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
Yn achlysurol bydd angen i’r swyddog weithio oriau anghymdeithasol.
Amlinelliad yn unig o ddyletswyddau’r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o’r lefel cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw’r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau’r swydd newid o bryd i’w gilydd heb newid ei natur sylfaenol na’r lefel cyfrifoldeb.