NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Gallu cyflwyno ei hun yn hyderus gan hefyd ddangos chwrteisi ar pob achlysur
Agwedd hyblyg
Gallu i weithio ar eich pen eich hun
DYMUNOL
-
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
TGAU neu gyfatebol yn y Gymraeg neu Saesneg a Mathamateg.
Hyfforddiant hyd at safon derbyniol mewn gweinyddiaeth a sustemau cyfrifiaduron.
DYMUNOL
Cymwysterau ar gyfer defnyddio Basdata a Thaenlennau.
NVQ Lefel 3 Neu Tystysgrif Gweinyddu Busnes.
ECDL.
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad o ddefnyddio Word, Excel ac Access a chronfeydd data.
Cofnodi mewn cyfarfodydd
Cynnal sustemau gweinyddol a monitro mewn swyddfa.
DYMUNOL
-
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Gallu cyfathrebu yn effeithiol gyda phobl ac yn gallu parchu’r angen i fod yn gyfrinachol .
Gallu cyflwyno gwaith cywir a thaclus yn rheolaidd
Bod yn drefnus a blaenoriaethu gwaith fel bo’r angen
Sgiliau Prosesu Geiriau
Defnydd o Excel a Cronfeydd data
DYMUNOL
-
ANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOL
Gwrando a Siarad - Lefel Canolradd
Gallu cynnal sgwrs rwydd ar nifer o bynciau amrywiol bob dydd, a thrafod achosion sy’n ymwneud â’r maes gwaith. Gallu dilyn trafodaeth yn y Gymraeg, mewn Cymraeg Clir, ar faterion cyfarwydd yn ymwneud â’r swydd. Gallu cyfrannu at y sgwrs ac ateb cwestiynau.
Darllen a Deall - Lefel Canolradd
Deall gohebiaeth bob dydd ar faterion cyfarwydd yn y gwaith. Deall adroddiadau hirach mewn Cymraeg Clir a medru codi’r prif bwyntiau. ( Mae’n bosib y bydd angen cymorth gyda geirfa.)
Ysgrifennu - Lefel Canolradd
Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwydd i'r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan).
Dylid disgrifio'r nodweddion rheiny a ddisgwylir gan ddeilydd y swydd. Defnyddir
rhain fel meini prawf wrth asesu pob ymgeisydd.