NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Y gallu i weithio a chymysgu yn hawdd â phobl.
Y gallu i adeiladu cysylltiadau a rhwydweithiau gyda phobl a mudiadau amrywiol
Y gallu i weithio o dan bwysau ac fel rhan o dîm.
Person taclus a threfnus sy’n gallu blaenoriaethu gwaith fel bo’r angen ac yn dangos blaengaredd
Parodrwydd i dderbyn cyfrifoldebau
Creadigol a rhagweithiol
DYMUNOL
-
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
NVQ3 mewn cymhwyster perthnasol neu gyfatebol
3 TGAU (gradd A-C yn cynnwys Cymraeg a Saesneg)
Cymhwyster neu hyfforddiant mewn TG, cyfathrebu, cyfryngau cymdeithasol,
gwybodaeth.
Hyfforddiant neu sgiliau ffotograffiaeth, golygu fideos a chreu cynnwys
DYMUNOL
-
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad mewn marchnata, cyfathrebu a / neu rôl gweinyddiaeth gefnogol.
Profiad o gyfathrebu ac ymwneud yn effeithiol gydag unigolion a grwpiau ar lefel eang
Profiad proffesiynol o hyrwyddo gwybodaeth drwy gyfryngau amrywiol e.e newyddlenni, digwyddiadau, cyfarfodydd, cyflwyniadau, platfformau cyfryngau cymdeithasol (Instagram a Facebook yn bennaf).
Profiad o weithio ar feddalwedd dylunio megis Canva ac Adobe Creative Suite.
DYMUNOL
Gweithio mewn cyd-destun cefnogi plant a theuluoedd
Profiad o gynllunio a chwblhau gwaith ymchwil ffurfiol ac anffurfiol
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Sgiliau cyfathrebu da a chadarn, a’r gallu i ymwneud â phobol yn effeithiol gan barchu’r angen am gyfrinachedd.
Dealltwriaeth o egwyddorion marchnata a strategaethau ymgysylltu â’r gynulleidfa darged.
Dealltwriaeth o frandio a pwysigrwydd cysondeb brand.
Sgiliau gofal cwsmer ardderchog
Sgiliau cyflwyno
Sgiliau trefnu da
Defnydd o gar a thrwydded yrru gyfredol lawn.
DYMUNOL
Gwybodaeth am y sector Gofal Plant ac Addysg Blynyddoedd Cynnar
Sgiliau ymchwil a dadansoddi gwybodaeth
ANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOL
Gwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn. Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol. Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Dylid disgrifio'r nodweddion rheiny a ddisgwylir gan ddeilydd y swydd. Defnyddir
rhain fel meini prawf wrth asesu pob ymgeisydd.