Swyddi ar lein
Swyddog Coedyddiaeth x2
£37,280 - £39,152 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 26-33082
- Teitl swydd:
- Swyddog Coedyddiaeth x2
- Adran:
- Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru
- Gwasanaeth:
- Uned Busnes a Statudol
- Dyddiad cau:
- 02/10/2026 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 37 Awr
- Cyflog:
- £37,280 - £39,152 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- S4
- Lleoliad(au):
- Gweler Hysbyseb Swydd
Manylion
Hysbyseb Swydd
Swyddog Coedyddiaeth
(Ardal Gogledd)
CYFLOG: S4 - £37,280 - £39,152
Oriau - 37 awr
(Gweithio’n Hybrid)
Wedi ei leoli yn un o’r lleoliadau isod: Halkyn, Conwy, Bangor, Llandrindod, Dolgellau, Aberystwyth, Newtown, i gynnwys gweithio hybrid
Bydd y Cydlynydd Coedyddiaeth yn gyfrifol am reoli'r coed, y coetiroedd a'r gwrychoedd ar y rhwydwaith cefnffyrdd yn rhanbarthau Gogledd a Chanolbarth Cymru, yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru, rheoli rhaglen o arolygon diogelwch coed (gan gynnwys archwiliadau coed ynn) ar hyd cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru, yn ogystal a rheoli agwedd gwaith y broses A154 (Deddf Priffyrdd 1980). Cydlynu’r rhaglen plannu a chynnal a chadw coed, gan gynnwys coed stryd, bod yn gyfrifol am weithredu ac adolygu strategaeth diogelwch coed ACGChC a dogfennau polisi’n ymwneud â choed yn y llawlyfr ystâd feddal ac amgylcheddol, yn ogystal a darparu arbenigedd technegol ar gyfer y system rheoli diogelwch coed (Ezytreev ar hyn o bryd).
Gweithredu fel rheolwr llinell tîm o Swyddogion Coedyddiaeth ar draws Gogledd a Chanolbarth Cymru, sefydlu, cydlynu a rheoli rhaglenni gwaith ar gyfer cynnal a chadw coed, coetiroedd, gwrychoedd a stadau meddal cysylltiedig a wneir gan ddarparwyr gwasanaethau, ac rheoli amrywiaeth o brosiectau er enghraifft gweithredu atebion sy’n seiliedig ar natur. Cefnogi Tîm Amgylcheddol ACGChC i reoli ystâd feddal cefnffyrdd Llywodraeth Cymru a darparu cyngor neu hyfforddiant cyffredinol ar goedyddiaeth a rheoli ystâd feddal i staff ACGChC, yn ogystal a chysylltu â thimau gweithrediadau rhwydwaith gyda materion yn ymwneud â choed ar y rhwydwaith.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd uchod, cysylltwch â Hannah Jones 07901 510 657
Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hyn
Dyddiad Cau 10.00 AM, DYDD Gwener, 02/10/26.
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu â chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd
Manylion Person
Nodweddion personol
Hanfodol
Gallu gweithio dan bwysau
Yn ymroddgar ac â’r gallu i'w gymell ei hun
Gallu arwain tîm.
Dymunol
-
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
Cymhwyster yn ymwneud â choedyddiaeth sy'n gyfwerth â chymhwyster Lefel 4, yn ogystal â phrofiad perthnasol neu,
Cymhwyster yn ymwneud â choedyddiaeth sy'n gyfwerth â chymhwyster Lefel 3 ar y lleiaf, cymhwyster gyda phrofiad perthnasol helaeth
Dymunol
Aelodaeth broffesiynol o gorff proffesiynol addas megis Sefydliad y Coedwigwyr Siartredig neu'r Gymdeithas Goedwigaeth.
Hyfforddiant Iechyd a Diogelwch
Tystysgrif Archwiliwr Coed Proffesiynol LANTRA
Profiad perthnasol
Hanfodol
Profiad coedyddiaeth ymarferol, gydag o leiaf tair blynedd o brofiad gwaith ar ôl cymhwyso.
Profiad o weithio gyda Chontractwyr
Dymunol
Profiad o reoli staff / tîm
Profiad o reoli prosiect a rheoli cyllid.
Profiad o archwilio coed ar Briffyrdd
Profiad o weithio ag ystâd feddal o fewn cyd-destun priffyrdd.
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
Gallu trefnu blaenoriaethau gwaith, cynllunio ymlaen llaw a chyflwyno rhaglenni gwaith yn brydlon.
Sgiliau rhyngbersonol cadarn ynghyd â sgiliau ysgrifennu, cyfathrebu a chyflwyno da.
Gallu addasu i ystod eang o faterion gweithredol.
Gallu derbyn, cydweddu a gwerthuso gwybodaeth o amryfal ffynonellau.
Gallu cydlynu’n effeithiol a rheoli cyflawni rhaglenni gwaith drwy ddarparwyr gwasanaeth.
Gwybodaeth drylwyr o ddeddfwriaeth, safonau a pholisïau eraill sy’n ymwneud â rheolaeth amgylcheddol.
Dealltwriaeth benodol o feddalwedd TG a ddefnyddir i reoli cynnal a chadw coed, e.e. Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) ac offer cronfa ddata.
Trwydded yrru ddilys gyfredol
Dymunol
Sgiliau rheoli cyllideb
Gwybodaeth am Ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch berthnasol
Gwybodaeth am ddeddfwriaeth rheoli traffig ac arfer gorau.
Anghenion ieithyddol
Gwrando a Siarad - Mynediad
Gallu ynganu enwau llefydd a phobl yn gywir.Gallu dilyn cyfarwyddiadau a deall rhediad sgwrs syml drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar faterion cyfarwydd ac ymateb i geisiadau syml am wybodaeth.
Darllen a Deall - Mynediad
Gallu darllen a deall llythyrau byr, syml, negeseuon ebost, taflenni, ac arwyddion syml drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar faterion cyfarwydd bob dydd er mwyn eu trosglwyddo i berson arall.
Ysgrifennu - Mynediad
Gallu ysgrifennu nodyn syml yn gofyn am neu’n rhoi gwybodaeth am faterion cyfarwydd bob dydd yn y gweithle.
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
1.Bod yn gyfrifol am reoli'r coed, coedwigoedd a'r gwrychoedd ar y rhwydwaith cefnffyrdd yn rhanbarthau Gogledd a Chanolbarth Cymru, yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru.
2.Ymgymryd yn uniongyrchol ag arolygon diogelwch coed ac archwiliadau cyflwr coed ar hyd llwybrau cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru.
3.Cydlynu a rheoli rhaglenni gwaith ar gyfer cynnal a chadw coed, coedwigoedd, gwrychoedd ac ystâd feddal gysylltiedig a ymgymerir gan ddarparwyr gwasanaeth.
4.Cynorthwyo Cydlynydd Amgylcheddol ac Ecolegydd ACGCC i reoli ystâd feddal cefnffyrdd Llywodraeth Cymru a, ble bo angen, gwneud arolygon neu archwiliadau o isadeiledd ystâd feddal.
5.Cynorthwyo a rhoi cyngor neu hyfforddiant cyffredinol ar goedyddiaeth a rheolaeth ystâd feddwl i staff ACGCC.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Cynllunio, dyrannu a chomisiynu cyllidebau
•Trefnu a blaenoriaethu amserlenni gwaith i gwrdd â thargedau a dyddiadau cwblhau
•Gweithgareddau Llawlyfr Cynnal Cefnffyrdd Llywodraeth Cymru wedi'u cynllunio a rhai adweithiol a ymgymerir gan ddarparwyr gwasanaeth
•Rheoli Contractwyr (20+)
•Offer archwilio (sbienddrych, dyfais mesur pellter, dyfais tynnu llun digidol)
•Mynediad i gerbyd
Prif ddyletswyddau
Arolygon ac Archwiliadau
a) Arolygon diogelwch coed
Ymgymryd ag archwiliadau coed a gwrychoedd systematig ar hyd y Rhwydwaith Cefnffyrdd yn unol â gofynion Llawlyfr Cynnal a Chadw Cefnffyrdd Llywodraeth Cymru (LlCChCLlC). Mae hyn yn cynnwys bob coeden o fewn pellter disgyn o’r briffordd, y rhai sy'n tyfu yn ystâd feddal Cefnffyrdd Llywodraeth Cymru (LlC) yn ogystal â choed trydydd parti mewn perchnogaeth breifat. Mae hefyd yn cynnwys coed sy'n tyfu yn yr ystâd feddal sydd o fewn pellter disgyn i eiddo trydydd parti. Ac hefyd i rhoi cymorth i timoedd erill yn NMWTRA efo coed sydd yn achosi rhwystr i welededd neu oleuadau
Bydd angen casglu cofnodion arolygon yn y maes gan ddefnyddio dyfeisiau llaw sy’n tynnu lluniau digidol sydd â GPS ynddynt. Cesglir rhestr eiddo coed, data'r cyflwr a gweithrediadau rheoli ar gyfer coed a gwrychoedd.
Trwy defnyddio proses recordio negyddol. Fe fydd diffygion yn cael ei recordio ac derbyn blaenoriaeth ac asesiad risg , a neilltuir gweithrediadau a argymhellwyd. Ble bo angen, efallai bydd angen arolygon ac archwiliadau pellach ar goed unigol. Mewnbynnu a chynnal a chadw data o fewn systemau rheoli asedau (ENVIS) Llywodraeth Cymru a systemau rheoli coed.
Mae archwiliadau monitro yn angenrheidiol er mwyn gwirio bod gwaith wedi'i gwblhau ar namau a adnabuwyd ar goed yn yr arolwg. Adborth a chydweithrediad gyda'r Tîm Busnes er mwyn sicrhau y cedwir systemau rheoli coed yn gyfredol.
b) Coedwigoedd
Cynnal arolygon ac archwiliadau o'r coetiroedd a'r ardaloedd plannu o fewn y tiroedd gwyrdd, gan gydweithio â'r tîm amgylcheddol ehangach i argymell, gweithredu a chofnodi cynlluniau rheoli sy'n seiliedig ar amcanion
ar gyfer y coetiroedd a'r gwrychoedd, gan gynnwys teneuo, tocio, rheoli clefydau coed a gwella bioamrywiaeth, yn unol â'r hyn a gytunwyd gyda chydlynwyr y tîm amgylcheddol a/neu'r ecolegydd.
Nodi plâu a chlefydau coed, a rhywogaethau an-frodorol a allai beri risg i iechyd coed neu fioamrywiaeth
c) Bioamrywiaeth
Adnabod cyfyngiadau a allai effeithio ar reolaeth coed neu wrychoedd megis rhywogaethau, safleoedd neu ddynodiad a warchodir, Gorchymyn Gwarchod Coed, Ardaloedd Cadwraeth, a threfnu arolygon angenrheidiol neu geisiadau caniatâd.
Gwneud archwiliad neu fonitro isadeiledd bioamrywiaeth ac asedau ystâd feddal eraill yn ôl gofyn y Cydlynydd Coedyddiaeth ac Amgylcheddol neu'r Ecolegydd.
Cynnal a chadw
.
Dylunio a gweithredu rhaglenni rheoli ar gyfer gwaith ystad feddal yn unol â chynlluniau rheoli amgylcheddol Llywodraeth Cymru, y Llawlyfr Dylunio ar gyfer Ffyrdd a Phontydd (DMRB), deddfwriaeth a gofynion arfer gorau.
Trefnu a blaenoriaethu amserlenni gwaith ar gyfer cyflawni a rheoli rhaglenni gwaith adfer coed a gwrychoedd.
Trefnu rhaglenni gwaith, llunio briffiau prosiect a chaffael gwaith mewn cydweithrediad â'r timau rheoli llwybrau a staff eraill ACGCC.
Cyfarfod â chontractwyr arbenigol i drafod y gwaith sydd ei angen ac asesu datganiadau dull gwaith, asesiadau risg a dogfennaeth arall a dderbynnir ganddynt. Asesu ansawdd y gwaith a wneir gan gontractwyr a sicrhau bod deddfwriaeth amgylcheddol ac arferion gwaith da yn cael eu cydymffurfio.
Cynorthwyo gyda gweithredu prosesau coed peryglus a niwsans trydydd parti o dan adran 154 o Ddeddf Priffyrdd 1980. Gall hyn gynnwys ymweliadau â safleoedd i gyfarfod a thrafod materion sy'n ymwneud â choed gyda thirfeddianwyr trydydd parti.
Ymgymryd â rhaglen waith a'i gweithredu i gynnal neu ddisodli asedau seilwaith bioamrywiaeth ar y cyd â'r Cydlynwyr Coedyddiaeth ac Amgylcheddol a/neu'r Ecolegydd.
Cefnogi timau Rheoli Llwybrau NMWTRA gyda materion rheoli amgylcheddol yn ystod argyfyngau gan gynnwys digwyddiadau achlysurol y tu allan i oriau gwaith.
Darparu cefnogaeth i'r tîm Amgylchedd yn ôl yr angen o ran materion amgylcheddol ar yr holl gefnffyrdd (sengl a deuol) gan gynnwys Dylunio, Adeiladu, Cyllido a Gweithredu (DBFO)
Gwelliannau Cyfalaf
Darparu cymorth i'r Cydlynwyr Coedyddiaeth ac Amgylcheddol a'r Ecolegydd wrth nodi cyfleoedd ar gyfer gwaith lliniaru risg a gwella a chysylltu â gwaith amgylcheddol ar yr un pryd â rhaglenni gwaith rheoli asedau eraill.
Darparu cefnogaeth a chymorth i'r Uned Cyflenwi ac Arolygu a darparwyr gwasanaethau wrth ddylunio a gweithredu prosiectau gwella cyfalaf a gynlluniwyd gan gynnwys rhaglenni gwaith ar gyfer goleuadau stryd, strwythurau, draenio a gwaith geodechnegol a sicrhau bod coed yn cael eu hystyried yn ddigonol a bod gwreiddiau ac ati yn cael eu diogelu'n briodol.
Cysylltu â darparwyr gwasanaethau a goruchwylwyr sy'n ymwneud ag adeiladu gwaith gwella bioamrywiaeth pan fo'n gysylltiedig â choed, a'u goruchwylio. Neu i gefnogi'r tîm amgylcheddol ehangach.
Gofynion Eraill
Cynorthwyo ACGCC gyda rheoli cyllidebau i ddyraniadau amgylcheddol.
Rhoi cefnogaeth dechnegol i ACGCC a Llywodraeth Cymru ac ymateb i ymholiadau gan aelodau o'r cyhoedd.
Cynorthwyo i baratoi adroddiadau i uwch reolwyr yr Asiantaeth a Llywodraeth Cymru.
Adnabod eich anghenion hyfforddiant eich hun a chymryd rhan yn darparu a derbyn hyfforddiant yn ôl y gofyn.
Cysylltu ag ACDC, Highways England, UK Highways Ltd, Coed Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), a Prif Ddylunwyr a Phrif Gontractwyr (e.e. datblygwyr, perchnogion tir, gwasanaethau a Network Rail) o ran materion cynllunio neu weithredu ar neu wrth y rhwydwaith.
Rhoi cyngor technegol i Lywodraeth Cymru i'w alluogi i ryddhau ei ddyletswyddau statudol yng nghyswllt materion amgylcheddol ac, yn benodol, prif brosiectau isadeiledd LlC.
Cyffredinol
Cynorthwyo ACGCC a Darparwyr Gwasanaethau i sicrhau cydymffurfiaeth â:
•Gweithdrefnau Iechyd a diogelwch ACGCC;
•Rheoliadau Adeiladu (Dylunio a Rheoli);
•Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith.
Ymdrin â chwynion ac ymholiadau yn gwrtais a phroffesiynol.
Meithrin diwylliant o arloesedd a gwelliant parhaus. Yn y cyd-destun hwn, monitro datblygiadau technolegol a datblygiadau eraill yn y diwydiant gan gynnwys dulliau newydd gyda’r bwriad o fabwysiadu’r arfer gorau pan fo hynny’n briodol.
Cefnogi a chynorthwyo’r Ecolegydd i gyflawni ei ddyletswyddau a’i gyfrifoldebau.
Cynorthwyo aelodau staff eraill yr Asiantaeth i gyflawni eu dyletswyddau technegol, ariannol a gweinyddol.
Cyfathrebu’n effeithiol ac yn gwrtais gydag aelodau etholedig, y cyhoedd, aelodau a swyddogion Llywodraeth Cymru yn ogystal â sefydliadau a chyrff allanol eraill.
Cydlynu a chysylltu â staff o Adrannau eraill o fewn y Cyngor, ac Awdurdodau sy’n Bartneriaid er mwyn hyrwyddo rheoli’r Asiantaeth yn effeithiol.
Goruchwylio a rhoi arweiniad ar waith a ymgymerir gan staff yr ydych yn eu rheoli.
Canfod a chadw’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch safonau proffesiynol, gofynion statudol, datblygiadau technegol a rhaglenni cyfrifiadurol.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Wrth gyflawni’r dyletswyddau uchod, cysylltu, fel y bo’n briodol, â swyddogion Llywodraeth Cymru, Awdurdodau sy'n Bartneriaiad a chyrff perthnasol eraill.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu oddi mewn i bolisïau a gweithdrefnau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau yr ymdrinnir â gwybodaeth bersonol mewn modd sy’n cydymffurfio â deddfwriaeth Diogelu Data.
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithio'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall rhesymol sy’n cyfateb â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
Rhestr enghreifftiol yn unig yw hon. Disgwylir i ddeilydd y swydd fod â swyddogaeth yn y broses o reoli a monitro perfformiad yn unol â gofynion y swydd ac ysgwyddo cyfrifoldebau eraill perthnasol i natur ac i raddfa’r swydd ar gais gan yr Ecolegydd.
Iechyd a Diogelwch ac Amgylcheddol
•Cydymffurfio ag agweddau iechyd a diogelwch y tîm Amgylcheddol, gan gynnwys gweithredu rheoli risg trwy gydymffurfio â systemau gwaith diogel sefydledig ac asesiadau risg gweithredol, er enghraifft.
•Sicrhau bod prosesau asesu risg iechyd, diogelwch ac amgylcheddol yn cael eu hystyried yn llawn ym mhob agwedd ar waith y gwasanaeth amgylcheddol, megis rheoli traffig.Cyfrifoldeb pob gweithiwr o fewn yr Asiantaeth yw cydymffurfio â’r polisïau Iechyd a Diogelwch, amgylcheddol ac ansawdd fel y’u diffinnir o fewn System Rheoli Busnes Integredig yr Asiantaeth.
•Sicrhau bod deddfwriaeth a pholisïau Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith ac amgylcheddol yn cael eu dilyn yn llym.
•Ysgwyddo cyfrifoldeb personol dros Iechyd a Diogelwch bob amser.
•Disgwylir i ddeiliad y swydd fod yn ymwybodol o’r gofynion, e.e. deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch, a chydweithredu â NMWTRA a Rheolwr Iechyd a Diogelwch Cyngor Gwynedd i sicrhau cydymffurfiaeth â’r gofynion perthnasol.
•Cyfrifoldeb am hunan-ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch NMWTRA a Chyngor Gwynedd.
•Gweithredu o fewn polisïau NMWTRA a Chyngor Gwynedd mewn perthynas â chyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifol am reoli gwybodaeth yn unol â chanllawiau rheoli gwybodaeth NMWTRA a Chyngor Gwynedd. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin yn unol â deddfwriaeth Diogelu Data.
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon NMWTRA yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon, ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau Ôl-troed Carbon NMWTRA.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd resymol arall sy’n cyfateb i lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
Amgylchiadau arbennig
•Yr angen i weithio tu allan i oriau gwaith arferol (0700 i 18:00 yn unol â'r cynllun oriau hyblyg ) i fodloni gofynion y Gwasanaeth;
•Gall rheoli digwyddiadau a sefyllfaoedd argyfwng ddigwydd tu allan i oriau gwaith arferol.
•Mynychu cyfarfodydd mewn mannau eraill o'r DU (e.e. Llandrindod, Caerdydd).
