Swyddi ar lein
Swyddog Cymorth Busnes
£28,598 - £31,022 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 26-33043
- Teitl swydd:
- Swyddog Cymorth Busnes
- Adran:
- Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru
- Gwasanaeth:
- Uned Busnes a Statudol
- Dyddiad cau:
- 17/09/2026 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 37 Awr
- Cyflog:
- £28,598 - £31,022 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- S1
- Lleoliad(au):
- Ddole Road Ystad Ddiwydiannol Llandrindod
Manylion
Hysbyseb Swydd
Swyddog Cefnogi Busnes (Ardal Canolbarth)
CYFLOG: S1 - £28,598 - £31,022
Oriau - 37 hours (Gweithio’n Hybrid)
Lleolir y swydd yn un o’r swyddfeydd isod:
Aberystwyth/Llandrindod
Mae’r swydd cyffrous yma yn rhoi y cyfle i chi weithio dau ddiwrnod o’r swyddfa a tri diwrnod yr wythnos o’ch cartref.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno ag Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (NMWTRA), i ddarparu cefnogaeth busnes effeithiol i’r holl staff yr Asiant ac yn cydweithio yn agos gyda amryw o Rheolwyr a Unedau cyffrous.
Byddwch yn chwarae rhan allweddol i ddarparu cymorth busnes mewn amrediad o gyfarfodydd technegol a rheolaethol yn cynnwys trefnu cyfarfodydd, gwahodd cynrychiolwyr, llogi lleoliadau a chymryd cofnodion i lefel uchel o hyfedredd. Rheoli’r blychau, busnes, prynu, hyfforddiant a swyddi gwag: rheoli e-byst sydd wedi'u derbyn ym mhob mewnflwch i sicrhau yr ymdrinnir â'r e-byst a dderbynnir yn brydlon ac yn effeithiol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd uchod, cysylltwch â Lynda Humphreys ar LyndaHumphreys@nmwtra.org.uk neu 01286 685186.
Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hyn.
Dyddiad Cau: 10.00 AM, DYDD IAU, 17/9/26.
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu â chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
Nodweddion personol
Hanfodol
Sgiliau cyfathrebu da yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Arddangos mentergarwch personol a'r gallu i ymdrin â phobl ar bob lefel yn gwrtais, yn sensitif a phroffesiynol.
Gallu gweithio dan bwysau a chwrdd â therfynau amser. Gallu rheoli eich amser eich hun, gan roi ystyriaeth i flaenoriaethau gwaith.
Y gallu i weithio fel rhan o dîm ac ar ben eich hun.
Gallu ymateb yn bwyllog ac yn rhesymegol mewn sefyllfa o wrthdaro.
Sgiliau trefnu da.
Dymunol
Gallu blaenoriaethu a gweithio dan bwysau a gallu delio â therfynau amser gwaith tynn.
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
5 TGAU, NVQ Lefel 2 mewn pwnc perthnasol neu gyfwerth.
Dymunol
NVQ3 mewn pwnc perthnasol neu gymhwyster gyfwerth.
Profiad perthnasol
Hanfodol
Profiad o gymryd cofnodion.
Profiad o reoli fflyd.
Profiad o weithio mewn amgylchedd sydd yn gweithredu ar gyflymder.
Profiad o ymdrin ag ymholiadau a chwynion gan aelodau o'r cyhoedd, contractwyr ac aelodau etholedig mewn modd sensitif a diplomatig.
Dymunol
Profiad mewn trefnu digwyddiadau, Prosesau'r Llywodraeth.
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
Cyfarwydd gyda phecynnau cyfrifiadurol e.e. Microsoft ac ati.
Gallu ymgymryd â llawer o dasgau ar unwaith mewn amgylchedd sydd yn gweithredu ar gyflymder.
Sgiliau trefnu ardderchog.
Cyfarwydd â systemau rheoli cronfa data.
Gweithio i ddyddiadau cau.
Trwydded Yrru DU cyfredol
Dymunol
Dealltwriaeth o brosesau a systemau busnes.
Anghenion ieithyddol
Cymraeg yn ddymunol, Saesneg yn hanfodol
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
- Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth rydym yn ei wneud.
- Darparu cefnogaeth busnes effeithiol i'r asiant.
- Darparu cefnogaeth ar gyfer yr uned ac uwch reolwyr
- Bod yn bwynt cyswllt cyntaf gyda Llywodraeth Cymru a'r cyhoedd o ran unrhyw ymholiadau, gohebiaeth a chwynion ac i reoli a hwyluso ymatebion effeithlon ac effeithiol a rheoli'r system IRIS i sicrhau bod ymholiadau yn cael eu hateb o fewn y dyddiadau targed.
- Cynorthwyo ar ran LlC/ACGCC, y delweddau TCC.
- Rota ar alwad - Rheoli'r rota ar alwad.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
- Cynnal rhestr o gyflenwadau swyddfa.
- Rheoli OGP (Offer Gwarchod Personol) a ddarparwyd i staff yn y swyddfa ble lleolir y swydd.
- Berchen ar liniadur a gliniadur gwytnwch sbâr
- Cefnogi'r rheolaeth o gerdyn credyd yr asiant
- Cyfrifol am gefnogi cronfeydd data'r Asiant e.e. SharePoint yn cynnwys bas data Rheoli Fflyd yr Asiant, Cofnodi Amser TENSOR a Bas Data Hyfforddi MODs.
Prif ddyletswyddau
Darparu cymorth i uwch reolwyr a darparu swyddogaeth rheoli busnes effeithiol a chefnogaeth i'r ardal ble lleolir y swydd neu mewn swyddfeydd Asiant eraill.
Darparu cymorth Busnes i Reolwyr a staff drwy:
- Ddarparu gwasanaethau cymorth busnes cyfarfodydd ar gyfer amrediad o gyfarfodydd technegol a rheolaethol yn cynnwys trefnu cyfarfodydd, gwahodd cynrychiolwyr, llogi lleoliadau a chymryd cofnodion i lefel uchel o hyfedredd.
- Darparu cymorth swyddfa i'r asiant.
- Bod yn bwynt cyswllt cyntaf gyda Llywodraeth Cymru a'r cyhoedd o ran unrhyw ymholiadau, a gohebiaeth ac i reoli a hwyluso ymatebion effeithlon ac effeithiol o fewn amserlenni penodol.
- Darparu cymorth busnes i archebu ystafelloedd cyfarfod ac archebu cerbydau.
- Ymdrin â chwynion ac ymholiadau yn gwrtais a darparu anwythiadau safle i staff ac ymwelwyr.
- Darparu cardiau adnabod i bob aelod o staff.
- Rheoli blwch post ymholiadau ACGCC a chofnodi'r holl ymholiadau/ymatebion o fewn cronfa ddata Rheoli Ymholiadau'r Cyhoedd Llywodraeth Cymru.
- Rheoli'r gweinyddu, prynu, hyfforddiant a blychau post swyddi gwag: rheoli e-byst sydd wedi'u derbyn ym mhob mewnflwch i sicrhau yr ymdrinnir â'r e-byst a dderbynnir yn brydlon ac yn effeithiol.
- Sicrhau yr ymdrinnir ag unrhyw ymholiadau sydd angen eu cwblhau wrth lynu at y broses gyfredol. Cyd-gysylltu gyda'r staff o ddarparu ymatebion i'r cyhoedd a Llywodraeth Cymru o fewn yr amserlen a roddwyd.
- Rheoli nwyddau swyddfa a'r cyllidebau sydd wedi'u dyrannu ar gyfer deunydd ysgrifennu swyddfa.
- Creu Archebion Prynu a'u hanfon ymlaen i bartïon perthnasol.
- Cefnogi'r rheolaeth o gerdyn credyd yr asiant, h.y. mynd ar ôl anfonebau TAW, sicrhau bod yr holl bryniadau cerdyn credyd wedi'u nodi ar Sharepoint, a monitro'r gwariant ar sail wythnosol.
- Cynorthwyo ag anfonebau ACGCC a monitro'r blwch post a'u prosesu tra’n glynu at weithdrefnau.
- Cyflwyno'r rhaglen waith ar-ddyletswydd wythnosol i'r holl bartïon perthnasol.
- Trefnu ac archebu llety ar gyfer staff yn defnyddio'r broses cerdyn credyd perthnasol.
- Creu a chyhoeddi thaflenni Canva ACGCC, Cyhoeddiadau Staff a chyhoeddiadau Tîm ar gyfer yr asiant.
- Rheoli mewnflwch Rheolaeth Datblygu, uwchlwytho'r dogfennau i'r adran rheoli Busnes ar Sharepoint, mynd ar ôl ymatebion gan y person cyfrifol, a pharatoi gohebiaeth ar gyfer LlC.
- Cyfrifol am fonitro'r TCC ar ran LlC/ACGCC, y delweddau TCC - Adolygu delweddau TCC ar gyfer Pont Menai a'u hanfon ymlaen i LlC/ACGCC a'r Heddlu.
- Cyfrifol am y Rota ar Alwad - Gweinyddu'r Rota ar Alwad, diweddaru gwybodaeth ar sail wythnosol a Chyflwyno pob dydd Iau, a bod diwygiadau yn cael eu gwneud yn ôl yr angen.
Rheoli Fflyd
- Cyfrifol am reoli system archebu cerbydau fflyd yr Asiant.
- Rheoli'r trefniant o wiriadau diogelwch cerbyd, gwasanaethau a phrofion MOTs a chyd-gysylltu â'r staff perthnasol i sicrhau bod yr holl gerbydau yn cael eu cymryd ar y dyddiad a drefnwyd.
- Rheoli cronfa ddata ased y fflyd ar y cyd â'r CLG, gan gynnwys y
- Rheoli cerbydau pŵl, mae hyn yn cynnwys diweddaru'r system archebu cerbydau gyda phwy sy'n defnyddio'r cerbyd a sicrhau bod yr allwedd wedi'i rhoi a'i dychwelyd.
- Rheoli cydymffurfiaeth a chwblhau'r Datganiad Meddygol Blynyddol a diweddaru system Fflyd Gwynedd.
- Rheoli system Trwydded Yrru DAVIS - mewnbynnu manylion gweithwyr, gwirio statws trwydded yrru staff a chodi unrhyw faterion neu bryderon gydag aelodau staff. Cynghori aelodau staff os oes anghysondeb cyfeiriad a hysbysu staff os yw'r cerdyn ar fin dod i ben.
Swyddogaethau AD
- Cynnal rhestr wirio Gweithwyr ACGCC i sicrhau bod yr holl ddogfennau wedi'u cwblhau a'u dychwelyd.
- Rheoli'r swyddogaeth salwch/Gwyliau/TOIL drwy Tensor. Sicrhau bod salwch staff wedi'i gofnodi yn unol â'r Polisi,
- Rheoli cyfnodau absenoldeb - yr adroddiadau salwch dyddiol a sicrhau eu bod yn cyd-fynd â system SSG Cyngor Gwynedd.
- Cefnogi a hyfforddi aelodau staff gyda'r system SSG, mae hyn yn cynnwys sut i gofnodi salwch staff, cyflwyno treuliau cynhaliaeth, sut i roi cyfweledigion ar restr fer.
- Rheoli'r gefnogaeth gyflwyno i weithwyr newydd.
- Creu a chyhoeddi pecynnau gwaith ar gyfer swyddi gwag
- Adolygu Perfformiad Staff - Sicrhau bod gwerthusiadau yn cael eu cwblhau yn flynyddol gan y Rheolwyr Llinell a threfnu dyddiadau/gwahoddiadau calendr ar gyfer staff ar ran y Rheolwyr Llinell a sicrhau bod holl ddogfennau yn cael eu huwchlwytho i Sharepoint yn ddiogel.
- Trefnu pecynnau cyfweld ar gyfer Rheolwyr (Swydd Ddisgrifiad/Manylion y Person/cwestiynau cyfweld).
- Cyhoeddi llythyr ar ôl penodi yn gofyn am ddogfennau i gynorthwyo wrth gwblhau'r TR139.
- Gwirio cywirdeb y contractau cyn eu rhyddhau i'r gweithwyr sydd newydd eu penodi.
- Cefnogi Rhaglen Prentisiaethau'r Asiant.
- Cefnogi a chynorthwyo'r Asiant mewn seminarau recriwtio a threfnu recriwtio ar gyfer ACGCC.
- Darparu canllawiau ar ddefnydd dydd i ddydd y system TENSOR i staff a sut i ddilyn y broses yn gywir, cynnal y broses gofrestru ac unrhyw newidiadau na all gael eu gweithredu ar gyfer rhesymau technegol i'r Rheolwr Llinell, sicrhau bod salwch staff wedi'i gofnodi, darparu adroddiadau misol i'r Uwch Reolwyr Llinell i sicrhau bod y gweithdrefnau ffurfiol ar reoli absenoldebau staff yn cael eu dilyn.
- Cynorthwyo'r Rheolwr Gweinyddol a Datblygiad Staff i greu a chyflawni rhaglenni hyfforddiant, pecynnau anwytho staff, cyfweliadau, uwchlwytho tystysgrifau perthnasol i SharePoint.
Llesiant
- Cynorthwyo i hyrwyddo mentrau i wella iechyd a llesiant staff, bod ar gael i staff fyddai'n cael budd o sgwrs gyfrinachol i gynorthwyo â'u llesiant meddyliol.
Cyfathrebu
- Cefnogi a chydlynu prosiectau'r asiant sy'n berthnasol i'r Uwch Dîm Rheoli
Hyfforddiant
- Cynorthwyo wrth ddatblygu cronfa ddata medrusrwydd a gofynion hyfforddi'r Asiant.
- Cynorthwyo gyda rheolwyr yr Asiant i sefydlu rhaglen anghenion gofynion hyfforddi.
- Cynorthwyo gyda'r holl agweddau o hyfforddiant staff, caffael a chyflawni.
- Cynorthwyo gyda hwyluso rhaglenni hyfforddiant i gefnogi datblygiad staff a gofynion hyfforddiant technegol a phroffesiynol.
- Cynorthwyo gydag adnabod, comisiynu a rheoli darparwyr hyfforddiant yn unol â'r rheoliadau ariannol, i gynnwys cymharu costau, cwblhau ffurflenni RFQ a gwneud cais am ddyfynbrisiau.
- Cynorthwyo gyda'r gofynion hyfforddi sy'n codi o'r gwerthusiadau.
- Cynorthwyo perfformiad darparwyr hyfforddiant a gweithredu camau cywir i fynd i'r afael â pherfformiad gwael.
- Cynorthwyo achrediad medrusrwydd i staff perthnasol, gan sicrhau bod hyfforddiant gloywi angenrheidiol yn cael ei weithredu a'i gofnodi ar gofnodion hyfforddiant unigol.
- Cynorthwyo gyda'r rheolwr Iechyd a Diogelwch ar ofynion hyfforddi ar gyfer yr asiant gyfan h.y. asbestos
- Cynorthwyo'r system MODS a hyrwyddo ei ddefnydd gyda staff a'i archwilio i sicrhau bod staff yn cydymffurfio.
- Cynorthwyo gyda matrics hyfforddi'r asiant: sicrhau ei fod yn gyfredol a sicrhau bod gofynion hyfforddi'r asiant yn cwrdd â'u swyddi.
Cefnogaeth dechnegol
- Cynorthwyo i gynnal archwiliadau.
- Cefnogi'r tîm Busnes i brosesu anfonebau.
- Nodiadau Trosglwyddo Gwastraff - sicrhau bod holl ddogfennaeth wedi eu diweddaru ymhob swyddfa ar gyfer pwrpasau awdit.
- Darparu hyfforddiant Tensor SSM a Tensor.net.
- IRIS PEM
- Ap archebu llety
- Power Bi
- Argraffwyr a Sganwyr
- System Polisi a Gweithdrefnau.
Cynorthwyo'r Rheolwr Cefnogi a Datblygu Busnes wrth gyflawni ei ddyletswyddau fel bo'r angen.
Cyfathrebu’n effeithiol ac yn gwrtais gydag aelodau etholedig, y cyhoedd, aelodau a swyddogion y Cynulliad yn ogystal â sefydliadau a chyrff allanol eraill.
Cydlynu a chysylltu â staff o'r Asiant, Adrannau eraill o fewn y Cyngor, ac Awdurdodau sy’n Bartneriaid er mwyn hyrwyddo rheolaeth effeithiol yr Asiant.
Gofynion Eraill
Cydlynu a chysylltu â staff o'r Asiant, Adrannau eraill o fewn y Cyngor, ac Awdurdodau sy’n Bartneriaid er mwyn hyrwyddo rheolaeth effeithiol yr Asiant.
Cynorthwyo aelodau staff eraill yr Asiant i gyflawni eu dyletswyddau technegol, ariannol a gweinyddol.
Cyfathrebu’n effeithiol ac yn gwrtais gydag aelodau etholedig, y cyhoedd, aelodau a swyddogion Llywodraeth Cymru yn ogystal â sefydliadau a chyrff allanol eraill.
Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill, sy’n gymesur â lefel cyflog a chyfrifoldeb y swydd.
- Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
- Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
- Gweithredu oddi mewn i bolisïau a gweithdrefnau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
- Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau yr ymdrinnir â gwybodaeth bersonol mewn modd sy’n cydymffurfio â deddfwriaeth Diogelu Data.
- Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithio'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
- Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall rhesymol sy’n cyfateb â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
- Cyfrifoldeb i adrodd am unrhyw bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.
Amgylchiadau arbennig
- Bodlonrwydd i weithio y tu hwnt i oriau gwaith arferol ar brydiau.
- Parodrwydd i deithio yn achlysurol i gyfleusterau ACGCC eraill o fewn ardal yr asiant.
