Swyddi ar lein
Ecolegydd Cynorthwyol
£39,862 - £41,771 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 26-33038
- Teitl swydd:
- Ecolegydd Cynorthwyol
- Adran:
- Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru
- Gwasanaeth:
- Uned Busnes a Statudol
- Dyddiad cau:
- 14/09/2026 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol
- Cyflog:
- £39,862 - £41,771 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- PS1
- Lleoliad(au):
- Amrywiol
Manylion
Hysbyseb Swydd
Ecolegydd Cynorthwyol
CYFLOG: PS1 (SCP 29-31) £39,862 - £41,771
Gweithio hybrid – dau ddiwrnod yn gweithio o un o’r swyddfeydd isod
LLEOLIAD: Newtown, Llandrindod, Aberystwyth
Bydd y Cynorthwyydd Ecoleg yn gyfrifol am gynorthwyo’r tîm Newid Hinsawdd a Amgylcheddol i weithredu gofynion polisi Llywodraeth Cymru (LlC) a deddfwriaeth amgylcheddol megis Deddf Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt 1980 ac Adran 6 Deddf Amgylchedd Cymru. Darparu cyngor a chefnogaeth ecolegol broffesiynol i ACGCHC a'n partneriaid yn ymwneud â'r asesiad effaith a mesurau lliniaru ein gweithredoedd ar ecoleg a bioamrywiaeth, gan sicrhau fod ACGCHC yn cydymffurfio gyda deddfwriaeth ac yn gwneud y mwyaf o gyfleoedd bioamrywiaeth. Darparu cymorth ecolegol uniongyrchol a chyngor technegol i dimau cyflawni cyfalaf a chynnal a chadw ACGChC, gan gynnwys adolygu dogfennau mewnol ac allanol, cynnal ac adolygu arolygon ac adroddiadau, darparu cyngor technegol, mynychu cyfarfodydd a goruchwylio safleoedd.
Gweithio o fewn y Tîm Amgylchedd i reoli rhestr eiddo stadau meddal gan gynnwys adnabod lleoliad a chyflwr yr asedau ecolegol. Cynnig, dylunio a rheoli rhaglen o brosiectau gwella ecolegol wedi'u datblygu o weithgareddau cynnal a chadw arferol ac ymatebol sy'n gysylltiedig â rheolaeth stadau meddal ac amgylcheddol. Cynorthwyo’r Timau Ecoleg ac Amgylchedd a staff arall ACGCHC i gael trwyddedau CNC lle bo’r angen a chyflawni unrhyw amodau a gofynion megis arolygon, monitro ac adrodd i sicrhau cydymffurfiaeth. Gweithio gyda’r Ecolegydd i ddatblygu rhaglen o Drwyddedau Gwaith ar gyfer Rhywogaethau Gwarchodedig hyd at foddhad CNC. Gweithio gyda'r Ecolegydd a CNC i ddatblygu system adrodd ar-lein ar gyfer cydymffurfiaeth gyda thrwyddedau, a gweithio i reoli prosiectau sy'n gysylltiedig â gwelliant ecolegol a gwaith lliniaru.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd uchod, cysylltwch â Hannah Jones ar 07773 616096.
Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon ac Saesneg yn hanfodol.
Dyddiad Cau: 10:00 AM, Dydd Llun, 14eg Medi 2026.
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu â chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Gallu gweithio mewn amgylchedd tîm.
Gallu hunan gymell, ymroi, ac arddangos mentergarwch personol.
Sgiliau rhyngbersonol wedi’u datblygu’n dda a'r gallu i ddylanwadu a chymell eraill.
Gallu gweithio’n ddiogel dan bwysau a delio gyda therfynau amser tynn.
Gallu gweithio gydag ychydig o oruchwyliaeth, blaenoriaethu llwyth gwaith personol.
Sgiliau trefnu da, arloesol a blaengar.
Gallu cyfathrebu mewn ffordd gwrtais, dactegol, diplomyddol wrth ddelio gyda aterion cynhennus, deall polisïau a chyfyngiadau eraill.
Gallu darparu arweiniad, rheoli, goruchwylio ac arwain ar faterion ecolegol o fewn timau a phrosiectau ACGCC.
Gallu dal ati hefo cyflawni cydymffurfiaeth ddeddfwriaethol a'r ymarfer ecolegol gorau pan nad yw pob amser yn ddewis poblogaidd ymysg eraill.
Gallu gweithio mewn ymgynghoriad a phartneriaeth â sefydliadau ac ymgynghorwyr allanol.
Ymroi i gywirdeb a chyflawni tasgau i gyflawni'r canlyniad gorau i'r amgylchedd.
Tystiolaeth o ymrwymiad i ddatblygiad personol a phroffesiynol parhaus.
Gweithio oriau y tu allan i oriau arferol yn aml, yn ôl y gofyn.
DYMUNOL
Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol yn Gymraeg a Saesneg.
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
Gradd neu MSc mewn Sŵoleg, Botaneg, Ecoleg neu bwnc ecolegol perthnasol. HNC/HND/NVQ (Lefel 4) mewn pwnc yn ymwneud ag ecoleg, ac o leiaf 5 mlynedd o brofiad perthnasol.
DYMUNOL
Aelod o gorff proffesiynol perthnasol e.e. CIEEM.
Deilydd Trwydded Rhywogaeth Warchodedig er enghraifft; ystlumod, pathewod, madfallod dŵr cribog.
Wedi cwblhau hyfforddiant mesurau lliniaru rhywogaethau arbenigol.
Wedi cwblhau hyfforddiant Dosbarthiad Cynefinoedd.
Wedi cwblhau hyfforddiant adnabod rhywogaethau.
Wedi cwblhau hyfforddiant Clerc Gwaith Ecolegol neu Amgylcheddol.
Wedi cwblhau hyfforddiant mewn technegau Arolygu Ecolegol.
Mynychu cyrsiau mewn defnydd TG: e.e. Excel, Word, GIS.
Mynychu hyfforddiant mewn Rheolaeth Traffig e.e. Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd Pennod 8 a Chynllun Sector Priffyrdd Cenedlaethol 12D(M7).
Achrediad LISS/CSCS priodol.
Hyfforddiant Iechyd a Diogelwch.
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad o gynnal arolygon ecolegol ar gyfer rhywogaethau a chynefinoedd.
Deall ecoleg ystod o rywogaethau gwarchodedig cyffredin.
Profiad o adnabod ystod o rywogaethau a chynefinoedd cyffredin y DU.
Wedi bod yn rhan o ddatblygiad mesurau lliniaru a gwaith gwella rhywogaeth neu gynefin.
Profiad o wneud cais a chael trwydded ar gyfer Rhywogaethau a Safleoedd Gwarchodedig.
Dealltwriaeth dda o Ddeddfwriaeth Amgylcheddol berthnasol Cymru/DU yn enwedig ar gyfer Cadwraeth Natur.
DYMUNOL
Profiad o ddatblygu mesurau lliniaru a gwella arbenigol ar gyfer rhywogaethau gwarchodedig.
Profiad o weithio'n llwyddiannus fel ymgynghorydd Ecolegol neu Amgylcheddol ar gyfer prosiectau cynllunio, datblygu, neu isadeiledd.
Profiad fel Clerc Gwaith Ecolegol ar gyfer Prosiectau.
Profiad o weithio gydag eraill i ddatblygu datrysiadau gwrthdaro rhwng ecolegol a pheirianneg neu ofynion eraill.
Profiad o gynnal arolygon Cam 1 ac/neu fapio cynefin UKHabs.
Ystod eang o brofiad mewn rheolaeth ecolegol, amgylcheddol a chynefin.
Profiad gydag Asesiadau Effaith Amgylcheddol ac Asesiadau Rheoliadau Cynefin.
Profiad o ddarparu a rheoli rhaglenni gwaith ar gyfer mesurau lliniaru a gwella bywyd gwyllt a chynefin.
Profiad o feddiannu a rheoli cyllidebau.
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Gallu defnyddio Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GiS), dal data yn y maes, dadansoddi a thrin data, cynhyrchu mapiau ac adroddiadau.
Llenyddiaeth TG - defnydd o Word, cronfeydd data a thaenlenni Excel.
Sgiliau ysgrifennu adroddiadau cryno, rheoli a dehongli data.
Gallu craffu adroddiadau a dogfennau a gynhyrchir gan eraill i sicrhau fod y cynnwys yn dderbyniol.
Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig datblygedig i gynulleidfa eang. Yn gallu ysgogi ac addysgu eraill.
Sgiliau ymarferol yn adnabod prif grwpiau rhywogaeth a gwybod ble i ddarganfod gwybodaeth bellach.
Sgiliau datrys problemau a darganfod ffyrdd o ddatrys gwrthdaro a chyflawni canlyniadau o safon.
Gwybodaeth o ddeddfwriaeth cadwraeth natur y DU, deddfwriaeth amgylcheddol ehangach, safonau a chanllaw Arfer Dda’r Diwydiant.
Ymwybyddiaeth o Iechyd a Diogelwch.
Trwydded Yrru ddilys gyfredol.
DYMUNOL
Gallu cynnal arolygon arbenigol e.e. arolygon botanegol neu rywogaeth benodol fel ystlumod, pathewod, dyfrgwn, moch daear, llygod y dŵr.
Profiad o ddefnyddio amrediad o declynnau adnabod bywyd gwyllt arbenigol megis canfodyddion ystlum neu gamerâu arbrofol.
Profiad o ddefnyddio canllaw cysylltiedig â phriffyrdd e.e. Canllaw Dylunio ar gyfer Ffyrdd a Phontydd.
Profiad o weithio ar brosiectau isadeiledd trafnidiaeth a rheolaeth o'r Stadau Meddal.
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd.
- Cynorthwyo’r Tîm Newid Hinsawdd ac Amgylcheddol i weithredu gofynion polisi Llywodraeth Cymru (LlC) a deddfwriaeth amgylcheddol megis Deddf Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt 1980 ac Adran 6 Deddf Amgylchedd Cymru.
- Darparu cyngor a chefnogaeth ecolegol broffesiynol i ACGCC a'n partneriaid yn ymwneud â'r asesiad effaith a mesurau lliniaru ein gweithredoedd ar ecoleg a bioamrywiaeth, gan sicrhau fod ACGCC yn cydymffurfio gyda deddfwriaeth ac yn gwneud y mwyaf o gyfleoedd bioamrywiaeth.
- Darparu cymorth ecolegol uniongyrchol a chyngor technegol i dimau cyflawni cyfalaf a chynnal a chadw ACGChC, gan gynnwys adolygu dogfennau mewnol ac allanol, arolygon ac adroddiadau, rhoi cyngor technegol, mynychu cyfarfodydd a goruchwylio safleoedd.
- Gweithio gyda'r Ecolegydd a'r Tîm Newid Hinsawdd a'r Amgylchedd i reoli prosiectau sy'n ymwneud â gwaith gwella ecolegol a mesurau lliniaru.
- Gweithio o fewn y Tîm Newid Hinsawedd ac Amgylchedd i reoli rhestr eiddo stadau meddal gan gynnwys adnabod lleoliad a chyflwr yr asedau ecolegol.
- Cynnig, dylunio a rheoli rhaglen o brosiectau gwella ecolegol wedi'u datblygu o weithgareddau cynnal a chadw arferol ac ymatebol sy'n gysylltiedig â rheolaeth stadau meddal ac amgylcheddol.
- Cynorthwyo’r Timau Ecoleg ac Amgylchedd a staff arall ACGCC i gael trwyddedau CNC lle bo’r angen a chyflawni unrhyw amodau a gofynion megis arolygon, monitro ac adrodd i sicrhau cydymffurfiaeth.
- Gweithio gyda Ecolegydd ACGChC i ddatblygu rhaglen o Drwyddedau Gwaith ar gyfer Rhywogaethau Gwarchodedig hyd at foddhad CNC.
- Gweithio gyda Ecolegydd ACGChC a CNC i ddatblygu system adrodd ar-lein ar gyfer cydymffurfiaeth gyda thrwyddedau.
- Gweithio gyda Ecolegydd ACGChC i ddatblygu'r System Gwirio Amgylcheddol Cefnffyrdd ar gyfer yr holl raddfa o waith i sicrhau fod ACGCC yn parhau i gydymffurfio'n gyfreithiol.
- Gweithio gydag ACGCC a LlC a phartneriaid i ddatblygu a chyfrannu at unrhyw Gynlluniau Gweithredu Bioamrywiaeth y dyfodol.
- Gweithredu arolygon safle ac ymweliadau monitro fel bo'n ofynnol i sicrhau fod staff ACGCC/ partneriaid/ ymgynghorwyr a Phrosiectau Mawr Trafnidiaeth LlC i gyd yn gweithio mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth, polisi, arfer gorau a dogfennau cysylltiedig e.e. CEMP, HEMP, EIA ac ymrwymiadau trwydded CNC.
- Manylu, rhaglennu ac ymgymryd neu gaffael arolygon ecolegol arbenigol ac ymweliadau monitro ac adroddiad.
- Datblygu systemau cofnodi a chronfeydd data i gasglu gwybodaeth am arolygon ecolegol.
Cyfrifoldeb am swyddogaethau. e.e. staff, cyllidebau, offer
- Camera a monocwlar thermol - trefnu gwiriadau a graddnodiad rheolaidd
- Canfodyddion ystlumod - trefnu gwiriadau a graddnodiad rheolaidd
- Camerâu arbrofol
- Endosgopau ar gyfer arolygon ystlumod
- Ysbienddrych
- Tabled / gliniadur
- Ffôn symudol
- Cronfeydd data a rheoli asedau amgylcheddol Llywodraeth Cymru ac ACGCC.
Prif Ddyletswyddau.
Rheoli
- Darparu cefnogaeth ecolegol uniongyrchol i staff ACGCC yn cynnwys Cynnal a Chadw, Archwilio a Thimau Prosiect yn cynnwys adolygu dogfennau mewnol ac allanol, arolygon ac adrodd, cyngor technolegol a mynychu cyfarfodydd.
- Dirprwyo i’r Ecolegydd neu'r Cydlynydd Amgylcheddol pan fo'r angen.
- Rheoli darparwyr gwasanaeth allanol (ymgynghorwyr / dylunwyr fel Noddwr Prosiect a chontractwyr).
- Gweithredu fel 'Clerc Gwaith Ecolegol' crwydrol ar brosiectau ACGCC i sicrhau fod gwaith yn cael ei wneud i fanyleb ac yn unol â'r gofynion trwydded.
- Rheoli perthnasau a chysylltu â phartneriaid a rhanddeiliaid amgylcheddol.
- Cynorthwyo a chynghori'r tîm Amgylchedd a Llywodraeth Cymru ynglŷn â gwelliannau i reolaeth bioamrywiaeth, tirwedd neu amgylcheddol.
Swyddogaeth Archwilio Manwl
- Ymgymryd ag archwiliadau ecolegol arbenigol o'r stadau meddal ar y rhwydwaith cefnffyrdd yn unol ag Arferion Da'r Diwydiant a'r trwyddedau pwrpasol a ddelir.
- Lle bo archwiliadau arbenigol ychwanegol yn ofynnol, ond dim arbenigaeth ynglŷn â'r rhywogaeth, grŵp neu gynefin ar gael gan staff ACGCC, llunio briffiau a chaffael arbenigwyr i ymgymryd ag archwiliadau ecolegol neu samplo a chyngor.
- Adnabod, asesu risg a blaenoriaethu asedau ecolegol a diffygion cynefin.
- Cynorthwyo'r Tîm Amgylcheddol i arolygu a rheoli'r stadau meddal gan gynnwys coed pan yn ofynnol.
- Rhaglennu a chynnal arolygon perthnasol (cylchol, ymatebol) i gydymffurfio ag WGTRMM.
- Hysbysu tîm Amgylchedd, tîm Gweithrediadau a thimau Rheoli Llwybrau ACGCC cyn gynted ag y bo’n ymarferol i alluogi i ddiffygion blaenoriaeth uchel i gael eu cywiro.
- Cysylltu gyda pherchnogion tir neu sefydliadau rhanddeiliaid (e.e. Cyfoeth Naturiol Cymru [CNC] neu awdurdodau lleol) ynglŷn â materion amgylcheddol a leolir gerllaw'r gefnffordd.
- Cynorthwyo’r Heddlu, cyrff gorfodi a'r tîm Hawliadau Trydydd Parti drwy ymchwilio i honiadau llygredd, difrod neu aflonyddwch i ecosystemau neu rywogaethau a warchodir.
Swyddogaeth Arolwg Ecolegol ac Amgylcheddol
- Cynorthwyo i reoli archwiliadau ecolegol ar y rhwydwaith cefnffyrdd yn unol â gofynion Llawlyfr Cynnal a Chadw Cefnffyrdd Llywodraeth Cymru (WGTRMM) a systemau rheoli asedau Llywodraeth Cymru.
- Trefnu arolygon a rheoli cofnodion ar gyfer rhywogaethau a warchodir, peillwyr a chysylltu gyda chyrff allanol, e.e. cofnod.org.uk
- Cynorthwyo a chysylltu gydag Uned Cyflawni ac Archwilio ACGCC neu eraill ynglŷn ag arolygon ecolegol gofynnol fel rhan o brosiectau gwella cyfalaf e.e. archwilio safle am Lysiau'r Dial.
- Trefnu arolygon ecolegol arbenigol gan gadwyn gyflenwi ACGCC e.e. arolygwyr ystlumod trwyddedig.
- Trefnu arolygon amgylcheddol arbenigol gan gadwyn gyflenwi ACGCC e.e. monitro / profi ansawdd dŵr neu ddarganfod llygredd i fodloni gofynion Rheoliadau Amgylchedd y Dŵr (Cyfarwyddeb Fframwaith y Dŵr) (Cymru a Lloegr) 2003.
Swyddogaeth Cynnal a Chadw a Gwella
- Rheoli caffael, comisiynu a gweithrediad swyddogaethau cynnal a chadw sy’n gysylltiedig â stadau meddal sydd wedi’u rhaglennu, sy’n arferol ac sy'n rhagweithiol, er enghraifft:
- Rhaglen flynyddol ar gyfer rheoli asedau ecolegol e.e. goleuadau ystlum, ffensio bywyd gwyllt, mesurau lliniaru bywyd gwyllt arbenigol
- Cynorthwyo a darparu cefnogaeth rheoli mewn argyfwng i'r gwasanaethau brys ac ACGCC pan fo digwyddiad llygru.
- Rheoli atgyweiriadau diffygion a swyddogaethau cynnal a chadw arferol o fewn cyllidebau sydd ar gael ac o fewn cyfyngiadau arwynebedd ffordd.
- Darparu cefnogaeth i dimau a chadwyn gyflenwi ACGCC i reoli risgiau o niwed neu aflonyddwch i ecosystemau yn enwedig wrth weithredu'r Llawlyfr Dogfennau Contract ar gyfer Gwaith Priffyrdd (MCHW) Cyfres 3000 Tirwedd ac Ecoleg.
- Cefnogi Cydlynwyr Amgylcheddol ac Ecolegwyr i gyflawni amcanion bioamrywiaeth a mentrau Gweinidogol Llywodraeth Cymru (e.e. Coridorau Gwyrdd) i fodloni gofynion Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
- Cynorthwyo i reoli Cronfa Ddata Risg Amgylcheddol ACGCC.
Swyddogaeth Rhestr Eiddo
- Gweithio hefo swyddogion Amgylcheddol i gynnal archwiliadau ac arolygon o'r stadau meddal hefo pwyslais penodol ar yr asedau bioamrywiaeth megis bylchau ystlumod, twneli moch daear, hibernacula. Mae data’r arolwg i gael ei gofnodi mewn systemau rheoli asedau LlC.
- Cynnal archwiliadau ac arolygon i greu gwybodaeth rhestr eiddo ecolegol gan fanylu ar asedau stadau meddal newydd a phresennol yn unol ag WGTRMM. Mae data’r arolwg i gael ei gofnodi mewn systemau rheoli asedau LlC yn defnyddio Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol.
Cyffredinol
- Goruchwylio a rhoi arweiniad ar waith a ymgymerir gan ddarparwyr gwasanaeth.
- Cyfathrebu’n effeithiol ac yn gwrtais gydag aelodau etholedig, y cyhoedd, aelodau a swyddogion Llywodraeth Cymru yn ogystal â sefydliadau a chyrff allanol eraill.
- Ymdrin â chwynion ac ymholiadau yn gwrtais a phroffesiynol ar y safle neu yn y swyddfa.
- Cydweithredu a chysylltu â staff o Adrannau eraill o fewn y Cyngor, ac Awdurdodau Partner er mwyn hyrwyddo rheolaeth effeithiol o'r ACGCC.
- Bod yn gyfrifol am hunanddatblygiad.
- Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau perthnasol a rhesymol eraill sy’n gymesur â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd ar gais y rheolwr llinell.
- Gweithredu oddi mewn i bolisïau a gweithdrefnau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
Iechyd a Diogelwch ac Amgylcheddol
- Cydymffurfio ag agweddau iechyd a diogelwch y tîm archwilio, yn cynnwys rheoli risg drwy gydymffurfio â systemau gwaith diogel wedi’u sefydlu ac asesiadau risg gweithredol er enghraifft.
- Sicrhau yr ystyrir prosesau asesu risg iechyd, diogelwch ac amgylcheddol yn llawn ym mhob agwedd o waith y gwasanaeth amgylcheddol megis rheoli traffig.
- Mae holl staff yr Asiantaeth yn gyfrifol am gydymffurfio â’r polisïau Iechyd a Diogelwch, amgylcheddol ac ansawdd fel y cânt eu diffinio yn System Rheoli Busnes Integredig yr Asiantaeth.
- Sicrhau y cedwir yn gaeth at bolisïau a deddfwriaethau amgylcheddol ac Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith.
- Cymryd cyfrifoldeb am Iechyd a Diogelwch personol bob amser.
- Disgwylir i ddeilydd y swydd fod yn ymwybodol o’r gofynion e.e. deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch a chydweithredu gyda Rheolwr Iechyd a Diogelwch y Cyngor er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â’r gofynion perthnasol.
- Cyfrifoldeb am hunanddatblygiad.
- Sicrhau cydymffurfiaeth â rheoliadau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
- Gweithredu oddi mewn i bolisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
- Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau yr ymdrinnir â gwybodaeth bersonol mewn modd sy’n cydymffurfio â deddfwriaeth Diogelu Data.
- Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithio'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
- Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd resymol arall sy’n cyfateb â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
Amgylchiadau Arbennig e.e., yr angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig ac ati
- Y gofyn i weithio oriau y tu allan i oriau gwaith arferol (rhwng 07:00 a 18:00 yn unol â'r cynllun oriau hyblyg) yn ôl y gofyn, er enghraifft archwiliadau gyda’r nos i gynnal arolygon ystlumod ac / neu ar benwythnosau o fewn rheoli traffig.
- Gofyniad i ddeilydd y swydd ymgymryd â hyfforddiant yn ôl y gofyn. Gweithio tuag at gael trwydded rhywogaeth warchodedig os bydd angen.
- Mynychu cyfarfodydd mewn mannau eraill yn y DU yn achlysurol (e.e. Llandrindod, Caerdydd).
