Swyddi ar lein
Arweinydd Tîm Comisiynu
£46,142 - £48,226 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 26-33022
- Teitl swydd:
- Arweinydd Tîm Comisiynu
- Adran:
- Tai ac Eiddo
- Gwasanaeth:
- Tai
- Dyddiad cau:
- 25/08/2026 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 37 Awr
- Cyflog:
- £46,142 - £48,226 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- PS4
- Lleoliad(au):
- Gweler Hysbyseb Swydd
Manylion
Hysbyseb Swydd
*DALIER SYLW*
Mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i fod yn gyflogwr cynhwysol ac i wella amrywiaeth ein gweithlu.
Bydd eich ffurflen gais yn cael ei hasesu yn ddienw. Ni fydd eich teitl, enw na chyfeiriad e-bost yn cael ei rannu â’r panel sy’n penodi at bwrpas llunio rhestr fer. Dylech ystyried hyn yn ofalus wrth ysgrifennu amdanoch eich hun yn y rhan gwybodaeth pellach.
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol neu manylion pellach gellir cysylltu â Gareth Wyn Parri ar garethwynparri@gwynedd.llyw.cymru neu 01286 682884.
Rhagwelir cynnal cyfweliadau.
Ffurflenni cais ar gael gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-Bost: swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 10:00 O’R GLOCH, 25/08/2026
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
Nodweddion personol
Hanfodol
Yn gallu ymdrin ag amrediad eang o bobl a phroblemau.
Yn ymwneud yn dda â phobl o bob oed, cefndir a gallu.
Yn bendant eich agwedd.
Wedi ymrwymo i Ofal Cwsmer.
Yn cynnig cymorth ac yn peidio barnu.
Yn gweithio’n dda o dan bwysau.
Trwydded yrru ac yn berchen ar gar neu’n medru darparu car ar gyfer busnes sy’n gysylltiedig â’r swydd.
Dymunol
-
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
4 TGAU neu gyfwerth gan gynnwys Cymraeg, Saesneg a Mathemateg
2 Lefel A neu gyfwerth
Cymhwyster rheoli
Gradd neu gymhwyster hafal
HNC Astudiaethau Tai neu unrhyw gymhwyster perthnasol arall y Sefydliad Tai Siartredig
Dymunol
-
Profiad perthnasol
Hanfodol
Profiad helaeth o weithio ym maes tai un ai mewn Llywodraeth Leol, cymdeithas dai neu unrhyw wasanaeth arall sy’n rhoi cyngor ar dai.
Profiad o weithio gyda phobl fregus un ai mewn rôl gefnogol neu ymgynghorol.
Profiad o weithio ar eich liwt eich hun, cynllunio a monitro cynnydd eich llwyth gwaith eich hun a chwrdd â therfynau amser.
Y gallu i sefydlu a meithrin perthynas waith gyda phobl o adrannau ac asiantaethau eraill.
Profiad o reoli tîm.
Profiad o ymdrin â gweithdrefnau cwyno ac apelio.
Dymunol
Profiad o ymdrin â cheisiadau am dai a gwneud asesiad o anghenion tai.
Y gallu i weithio’n bennaf heb oruchwyliaeth.
Profiad penodol o reoli system Cofrestr Tai.
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
Gwybodaeth ynghylch gweithio gyda chofrestri Tai Cyffredin a pholisïau Gosod Tai.
Sgiliau cyfathrebu arbennig ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Y gallu i gyflwyno gwybodaeth gymhleth i ddefnyddwyr gwasanaeth, swyddogion ar bob lefel o asiantaethau partner, ac amrediad eang o bobl broffesiynol, mewn modd y gellir ei ddeall yn rhwydd.
Yn rhifog a chyda’r gallu i gynhyrchu a dehongli gwybodaeth ystadegol ac ariannol a rheoli cyllidebau.
Y gallu i ffurfio ac ysgogi tîm, goruchwylio a gwerthuso a monitro perfformiad yn rheolaidd.
Y gallu i ymdrin ag amrediad eang o faterion personél gan gynnwys gweithdrefnau recriwtio, hyfforddi a disgyblu.
Cynhyrchu gwybodaeth reoli, canfod problemau a chynnig datrysiadau.
Y gallu i gynghori defnyddwyr gwasanaeth mewn modd sympathetig a gwrthrychol o fewn cyfyngiadau’r fframwaith cyfreithiol a’r adnoddau sydd ar gael.
Y gallu i gysylltu, negodi a datblygu protocolau a gweithdrefnau gweithredol effeithiol gyda phartneriaid y prosiect a budd-ddeiliaid.
Y gallu i weithio’n effeithiol mewn amgylchedd brysur tu hwnt a chwrdd â therfynau amser.
Bod yn sensitif i ystyriaethau gwleidyddol.
Y gallu i drefnu, blaenoriaethu ac ymgymryd â dyletswyddau mewn modd strwythuredig.
Y gallu i wneud cyflwyniadau effeithiol i hyrwyddo’r gwasanaeth.
Cymwys o ran defnyddio offer TG, gan gynnwys cynnal cronfeydd data, mewnbynnu a diweddaru gwybodaeth
Gwybodaeth weithredol fanwl o’r prif Ddeddfau Tai; yn enwedig Rhan vi a vii y Ddeddf Tai.
Ymwybyddiaeth o’r darpariaethau perthnasol a gynhwysir mewn deddfwriaethau lles cymdeithasol eraill sy’n ymwneud â chymorth y gellid ei roi i aelwydydd digartref.
Gwybodaeth am faterion tai diweddar a mentrau’r llywodraeth.
Dealltwriaeth o Gyfle Cyfartal ac Amrywiaeth a sut mae hyn yn effeithio ar ddarparu gwasanaeth, yn enwedig o ran cleientiaid bregus a materion tai.
Dymunol
Gwybodaeth weithredol fanwl o’r prif Ddeddfau Tai; yn enwedig Rhan vi a vii y Ddeddf Tai.
Ymwybyddiaeth o’r darpariaethau perthnasol a gynhwysir mewn deddfwriaethau lles cymdeithasol eraill sy’n ymwneud â chymorth y gellid ei roi i aelwydydd digartref.
Gwybodaeth am faterion tai diweddar a mentrau’r llywodraeth.
Dealltwriaeth o Gyfle Cyfartal ac Amrywiaeth a sut mae hyn yn effeithio ar ddarparu gwasanaeth, yn enwedig o ran cleientiaid bregus a materion tai.
Anghenion ieithyddol
Gwrando a Siarad - Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd.
- Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
- Arwain y Tîm Comisiynu Tai, gan sicrhau fod trefniadau a pholisïau effeithiol ac effeithlon mewn lle i uchafu’r cyfleoedd a’r gwasanaethau tai sydd yn cael ei gynnig i drigolion y sir, yn enwedig yn y maes digartrefedd.
- Arwain ar y meysydd Grant Cymorth Tai (GCT) £8.5m refeniw y flwyddyn, a’r Grant Tai Cymdeithasol (GTC) oddeutu £13m cyfalaf y flwyddyn gan sicrhau fod trefniadau a pholisïau effeithiol ac effeithlon mewn lle i uchafu’r cyfleoedd a’r gwasanaethau tai sydd yn cael ei gynnig i drigolion y sir, yn enwedig yn y maes digartrefedd.
- Cyfrifoldeb am ddarparu’r Rhaglen Gyfalaf Llety Trosiannol (TACP), grant cyfalaf werth £5m y flwyddyn.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. e.e. staff, cyllid, offer
- Staff y Tîm Uned Comisiynnu Tai x 5 – (2x Swyddog Busnes a Chomisiynu, 1x Swyddog Prosiect, 1 x Swyddog Ail-gartrefi Cyflym, 1x Swyddog Taliadau)
- Cyllidebau refeniw y timau mae’n gyfrifol amdanynt
- Offer gweithio personol (dros £500).
Prif Ddyletswyddau.
- Arwain tîm o fewn yr Uned Comisiynu Tai yn cynnwys swyddogion ynghlwm a’r meysydd Grant Cymorth Tai (GCT) a Grant Tai Cymdeithasol (GTC).
- Ymgymryd â gwaith ar bolisïau tai yn rhanbarthol a lleol, paratoi canllawiau a’u gweithredu ar ran Cyngor Gwynedd ac mewn cydweithrediad â phartneriaid eraill.
- Cyfrannu at ddatblygu a gweithredu gweithdrefnau a phrotocolau i gyflawni nodau cynlluniau cyflawni a strategaethau'r Adran Dai a sicrhau cydymffurfiaeth statudol.
- Cydgysylltu â meysydd gwasanaethau eraill y Cyngor, sefydliadau statudol ac asiantaethau gwirfoddol yn ôl yr angen i ddatblygu polisïau priodol, arferion gwaith neu gytundebau partneriaeth yn ymwneud â rôl strategol tai yn y Cyngor.
- Gwneud argymhellion ar gyfer newid neu ddatblygu trwy werthuso ac ymchwil, i sicrhau bod y gwaith o gyflawni’r rôl strategol tai yn cael ei lywio gan y datblygiadau diweddaraf mewn arferion a pholisi tai.
- Cyfrannu at waith ymchwil, datblygu, asesu a gweithredu asesiadau o anghenion tai a rhaglenni darparu tai.
- Datblygu a chydlynu ceisiadau a chyfleoedd datblygu eraill a chysylltu ag amrywiaeth o asiantaethau a sefydliadau i wneud y mwyaf o adnoddau ar gyfer tai fforddiadwy neu dai â chymorth.
- Cyfrannu at yr ymateb ar ran yr Awdurdod i ymgynghoriad ar gynigion gan y Llywodraeth neu asiantaethau eraill a datblygu dulliau cyfathrebu da gydag ystod o randdeiliaid mewnol ac allanol, gan gynnwys Aelodau Etholedig ac Asiantaethau'r Llywodraeth.
- Bod yn gyfrifol am baratoi cynlluniau strategol megis Ail-Gartrefi Cyflym, Grant Cymorth Tai a dogfennau eraill cyfatebol o fewn y maes.
- Cyfrifoldeb am cydlynu a rheoli ceisiadau ar gyfer y Rhaglen Gyfalaf Llety Trosiannol (TACP), cynllun cyfalaf werth dros £5m y flwyddyn i brynu ac adnewyddu eiddo.
- Cydgordio'r broses o greu, adnewyddu a monitro'r Prosbectws Tai yn cynnwys paratoi unrhyw adroddiadau sydd angen mynd ger bron fforymau’r Cyngor.
- Cyfrifoldeb am gadeirio cyfarfodydd gyda rhan-ddeiliad allanol i gytuno a’r cynlluniau a flaenoriaethau y Prosbectws Tai.
- Gweithio fel rhan o dimau amlddisgyblaethol gan weithio gyda chydweithwyr mewnol, partneriaid a rhanddeiliaid i sicrhau bod anghenion tai trigolion Gwynedd yn cael eu diwallu.
- Datblygu fframweithiau effeithiol ar gyfer trefniadau gwaith partneriaeth effeithiol gydag ystod o sefydliadau i fynd i'r afael â blaenoriaethau strategol ar gyfer tai.
- Gweithredu fel Swyddog Arweiniol ynglŷn â’r Grant Cymorth Tai ar ran y Cyngor ar grwpiau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol yn ôl y galw.
- Sicrhau fod systemau Cytundebol a Thaliadau’r Tîm yn gweithio yn effeithiol ac yn unol â Rheoliadau Sefydlog y Cyngor a bod yna reolaeth effeithiol o wariant Grant Cymorth Tai yn gyffredinol.
- Bod yn gyfrifol fod trefniadau cadarn mewn lle er mwyn adolygu cytundebau a chomisinwyd fel rhan o’r Grant Cymorth Tai.
- Bod yn gyfrifol am achredu darparwyr newydd ynghlwm a’r Grant Cymorth Tai.
- Bod yn gyfrifol am werthuso staff a throsglwyddo anghenion hyfforddiant a datblygiad staff yn unol â threfniadau’r Cyngor.
- Cynrychioli’r Tîm ar grwpiau corfforaethol yn ôl y galw.
- Sicrhau bod gweithgarwch cyllid grant yn cyd-fynd â meini prawf ariannu'r Grant Cymorth Tai ac anghenion strategol Cyngor Gwynedd.
- Arwain ar y broses o fonitro allbynnau a chanlyniadau’r gweithgaredd a darparu adroddiadau rheolaidd i’r Uwch Reolwyr gan werthuso risgiau a ddarparu gwybodaeth glir, amserol a chywir.
- Arwain ar gaffael a chomisiynu contractau o fewn portffolio prosiectau’r Grant Cymorth Tai, gan reoli a chydlynu tendrau a darpar gyflenwyr yn ôl yr angen.
- Darparu arweiniad technegol a phroffesiynol am faterion Digartrefedd Lletya a Phrosiectau Strategol yn ôl y galw i swyddogion o fewn y tîm, i’r Uwch Reolwr, Pennaeth Adran ac Aelodau yn ôl y galw.
- Sicrhau arweiniad i’r Tîm Opsiynau Tai er mwyn fod Cyngor Gwynedd yn gweithredu yn unol â deddfwriaeth, rheoliadau, canllawiau a pholisïau perthnasol.
- Rhannu ymarfer da gan Awdurdodau eraill ac ystyried os oes gwersi i’w dysgu yng Ngwynedd.
- Mynychu cyfarfodydd, Pwyllgorau, Is-bwyllgorau neu Weithgorau yn ôl yr angen, gan gynnwys cyd-gysylltu ac asiantaethau a chynghorau eraill.
- Cyfrannu at ddatblygu ac adolygu’r Polisi Gosod yn rheolaidd gan sicrhau ei fod yn ateb gofynion statudol ac yn mabwysiadu ymarfer da.
- Cyfrifoldeb am baratoi gwybodaeth am gynnydd a chyfeiriad strategol y Grant Tai Cymdeithasol (GTC) ar gyfer uwch rheolwyr ac aelodau etholedig. Mae’r Grant yma yn ariannu rhan helaeth o geisiadau Tai Cymdeithasol ar draws y sir.
- Sicrhau fod prosiectau sydd yn derbyn cyllideb o brif grantiau'r maes tai megis GTC a TACP (dros £15 miliwm) yn cydymffurfio gyda’r telerau penodol yn cynnwys gwariant gan bartneriaid sydd yn rhan o Gytundebau Lefel Gwasanaeth neu’r Bartneriaeth Tai.
- Sicrhau fod ceisiadau'r Cyngor yn gallu eu paratoi ar fyr rybudd i fanteisio ar gyfleoedd i ddenu tan wariant ychwanegol Llywodraeth Cymru (mae hyn yn aml yn golygu ceisiadau o dros £3 miliwn).
- Sefydlu a chynnal cyfundrefn ar gyfer dal data yn ymwneud ag anghenion tai yng Ngwynedd ac adrodd a'r canlyniadau, gan gyfrannu at strategaethau a chynlluniau gweithredu’r Adran a’r Cyngor.
- Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
- Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
- Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
- Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
- Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
- Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
- Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin.
Amgylchiadau Arbennig. e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
-
