Pwrpas y Swydd
Sicrhau bod plant a phobl ifanc Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
Cefnogi disgyblion ystod oedran 3 - 16 oed fel ymateb i anghenion disgyblion yn arbennig y rhai gydag anghenion emosiynol, ymddygiadol a chymdeithasol i ddileu rhwystrau ar gyfer dysgu yn ysgolion a Chanolfannau Gwynedd fel rhan o dîm integredig ADY a Chynhwysiad.
Gweithredu'r Côd Ymarfer Anghenion Arbennig o ran cefnogi disgyblion
Sefydlu perthynas weithiol, effeithiol gyda'r disgyblion gan weithredu fel unigolyn proffesiynol.
Cyflenwi gwaith proffesiynol athro drwy gym ryd cyfrifoldeb am weithgareddau dysgu y cytunwyd arnynt o dan gyfundrefn oruchwylio gytun. Gall hyn gynnwys cynllunio, paratoi a chyflwyno gweithgareddau dysgu ar gyfer unigolyn/ grwpiau a monitro disgyblion ac asesu, cofnodi ac adrodd ar lwyddiannau, cynnydd a datblygiad y disgyblion.
Cynnig arweiniad a chefnogaeth er mwyn rheoli cymorthyddion addysgu eraill, o fewn y tim yn cynnwys dyrannu a monitro gwaith, gwerthuso a hyfforddiant.
Cyfrifoldeb am Adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
- Cynorthwyo'r Arweinydd Addysg Gynhwysol efo dyletswyddau rheoli cymorthyddion addysgu eraill
- Ymgymryd a recriwtio/ anwytho/ gwerthuso/ hyfforddi/ mentora ar gyfer cymorthyddion addysgu eraill.
- Ffôn symudol.
- Gliniadur
- Creu adnoddau, fel rhan o dîm, i ategu at fanc adnoddau i ysgolion
- Offer TGCh i gefnogi dysgu'r disgyblion
Prif Ddyletswyddau
Cefnogaeth i Ddisgyblion
- Darparu mewnbwn ymestyn allan i unigolion a grwpiau o blant yn eu hysgolion prif lif o dan arweiniad yr Athrawon Arbenigol Cynnal Ymddygiad, Uwch Seicolegydd Addysgol a'r Uwch Weithiwr Iechyd Meddwl, yn unol â gofynion y Fforwm Ardal ADYaCh, sydd yn datblygu iechyd meddwl, datblygiad emosiynol ac ymddygiadol y disgyblion.
- Darparu mewnbwn i grŵp o blant o fewn Canolfannau'r Tim Cynnal Ymddygiad am gyfnod penodol o dan arweiniad yr yr Athrawon Arbenigol Cynnal Ymddygiad, Uwch Seicolegydd Addysgol a'r Uwch Weithiwr Iechyd Meddwl, yn unol â gofynion y Fforwm Ardal ADYaCh, sydd yn datblygu iechyd meddwl, datblygiad emosiynol ac ymddygiadol y disgyblion.
- Derbyn a goruchwylio disgyblion nad ydynt am gyfnodau yn dilyn rhaglen ddysgu arferol
- Cymryd cyfrifoldeb am y grŵp o blant o fewn y Ganolfan Arbenigol pan fo'r Athro/awes Arbenigol yn absennol ac yn darparu gwasanaeth yn y prif lif neu mewn Fforwm Ardal ADYaCh.
- Cynorthwyo staff dysgu o fewn y prif lif a'r Canolfannau gyda datblygu a gweithredu Cynllun Datblygu Unigol / Cynllun Cyfathrebu Unigol y disgyblion er mwyn hybu cynnydd yn eu iechyd emosiynol ac ymddygiadol.
- Cyd-weithio gydag Athrawon Arbenigol yn y maes Cynnal Ymddygiad ac asiantaethau eraill perthnasol gan sicrhau lefelau o ofal bugeiliol i unigolion o dan gyfarwyddyd staff dysgu.
- Asesu anghenion disgyblion a defnyddio Gwybodaeth fanwl a sgiliau arbenigol i gefnogi dysgu'r disgyblion.
- Cydweithio gyda Cymorthyddion o fewn yr ysgolion prif lif i fodelu pecynnau ymyrraeth effeithiol gyda'r disgyblion sydd yn cael sylw gan y tîm Cynnal Ymddygiad.
- Cefnogi'r ddarpariaeth therapiwtig ar gyfer disgyblion gydag anghenion ychwanegol ac yn arbennig anawsterau emosiynol ac ymddygiadol.
- Defnyddio TGCh yn effeithiol i gefnogi gweithgareddau dysgu a datblygu cymhwysedd ac annibyniaeth disgyblion yn ei ddefnydd.
- Dan oruchwyliaeth yr Uwch Weithiwr Iechyd Meddwl, cyflwyno rhagleni hyrwyddo iechyd meddwl mewn grŵp bach neu un i un
- Sicrhau gwybodaeth a chyngor i ddisgyblion i'w galluogi i wneud penderfyniadau a dewisiadau ar gyfer eu haddysg, eu hymddygiad a'u presenold
- Hybu annibyniaeth a defnyddio strategaethau i adnabod a gwobrwyo cyflawniad a hunan-ddibyniaeth.
- Cefnogi a herio ymagwedd disgyblion gan hyrwyddo a chyfoethogi eu hunan-barch.
- Darparu adborth i ddisgyblion yng nghyd-destun eu cynnydd, eu llwyddiannau, ymddygiad a phresenold.
Cefnogaeth i Athrawon
- Sefydlu perthynas weithio gynhyrchiol gyda'r disgyblion a chydweithwyr.
- Darparu gwybodaeth ar gyfer asesiad cyfansawdd o anghenion a chynnydd y disgyblion.
- Creu a darparu pecynnau gwaith arbenigol i ddisgyblion yn unol â'u Cynllun Datblygu Unigol/ Cynllun Cyfathrebu Unigol/Cynllun Meddygol os yn berthnasol.
- Rhannu arferion da gyda staff o fewn yr ysgol a modelu technegau yn ôl yr angen.
- Monitro a gwerthuso ymateb disgyblion i weithgareddau dysgu drwy ystod o strategaethau asesu a monitro yn erbyn nodau dysgu a ragbenodwyd.
- Ymateb i anghenion personol disgyblion a chynnig cyngor ynglŷn â datblygiad emosiynol, ymddygiadol, eu hiechyd, glendid a gofal.
- Cefnogi rhan rhieni yn nysgu'r disgyblion a chyfrannu tuag at gyfarfodydd/ arwain cyfarfodydd gyda rheini i ddarparu adborth adeildadol ar gynnydd/ cyflawniad disgyblion.
- Cefnogi'r staff dysgu i ddatblygu trefniadau mentora disgyblion a sicrhau cymorth i unigolion bregus.
- Sicrhau trosglwyddiad buan ac effeithiol i ddisgyblion drwy gamau integreiddio penodol gan roi sylw i unigolion sy'n dychwelyd i ysgol wedi cyfnod absenoldeb.
- Cyfathrebu gydag ysgolion dalgylch ac asiantaethau eraill i gasglu gwybodaeth am unigolion am eu cynnydd.
- Bod yn ymwybodol ac yn effro i wahaniaethau gan sicrhau bod disgyblion yn cael cyfleoedd cyfartal ar gyfer mynediad i addysg.
- Sefydlu perthynas adeiladol gyda rhieni/gofalwyr, gan gyfnewid gwybodaeth, hwyluso eu cefnogaeth i bresenoldeb, mynediad a dysgu eu plentyn a chefnogi cysylltiadau cartref ysgol a chymunedol.
- Cyfrannu at Hyfforddiant Mewn Swydd i athrawon/cymorthyddion o dan arweiniad yr Uwch Seicolegydd Addysg, Athrawon Arbenigol ac Uwch Weithiwr Iechyd Meddwl o fewn y Tîm Cynnal Ymddygiad.
- Cynorthwyo staff dysgu i gynllunio, dadansoddi ac addasu gweithgareddau dysgu fel bo'n briod
- Dethol a pharatoi adnoddau sy'n angenrheidiol ar gyfer arwain gweithgareddau dysgu, gan gymryd cyfrif o ddiddordebau, iaith a chefndir diwylliannol y disgyblion.
- O fewn cyfundrefn oruchwylio gytunedig, cyflwyno gweithgareddau dysgu i'r disgyblion, addasu gweithgareddau yn unol ag ymatebion/ anghenion y disgyblion.
- Cefnogi mynediad disgyblion i adnoddau a strategaethau perthnasol i gyfoethogi eu haddysg.
- Sicrhau a defnyddio adnoddau arbenigol, cynlluniau ac offer i gefnogi disgyblion.
- Bod yn ymwybodol, a gwerthfawrogi ystod o weithgareddau, cyrsiau, sefydliadau ac unigolion sydd ar gael i gynnig cymorth i unigolion i ychwanegu at eu profiadau dysgu.
- Cynhyrchu cynlluniau gwersi, taflenni gwaith, cynlluniau ayyb
- Gweinyddu ac asesu/ marcio profion a goruchwylio arholiadau/ profion
- Sicrhau cefnogaeth briodol ar gyfer gweinyddu e.e. galwadau ffôn, delio gyda gohebiaeth, diweddaru data, gwybodaeth presenoldeb, gwaharddiadau
Cyffredinol:
- Ymwybyddiaeth o bolisïau a gweithdrefnau ADY a diogelu plant, iechyd a diogelwch cyfrinachedd a diogelu data, gan gyfeirio unrhyw bryder i'r person perthnasol.
- Cyfrannu at ethos/gwaith/amcanion cyffredinol ein tîm integredig ADY a Chynhwysiad.
- Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
- Cymryd rhan mewn hyfforddiant a gweithgareddau dysgu eraill, fel y bo'n ofynnol.
- Adnabod hunan gryfderau ac ardaloedd arbenigedd a defnyddio'r rhain i gynghori a chefnogi eraill.
- Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol 5'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor
- Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb
- Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
- Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd
- Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol 5'r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
- Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.
Dim ond amlinelliad o ddyletswyddau'r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o'r lefel cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw'r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau'r swydd newid o bryd i'w gilydd heb newid ei natur sylfaenol a'r lefel cyfrifoldeb.