Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Mae deilydd y swydd yn gyfrifol am gyflawni dyletswyddau statudol y Cyngor o ran gorfodi safonau tai yn y sector tai preifat.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
-
Prif ddyletswyddau
•Cynnal ymweliadau o eiddo gwag a darparu adroddiadau a rhestrau waith i berchenogion a’r adain grantiau.
•Cynnal ymweliadau o eiddo gwag pan yn derbyn cwynion a cymryd camau gorfodaeth ble mae’r angen syd dyn cynnwys gwasanaethu rhybuddion cyfreithiol a dilyn prosesau a trefniadau cyfreithiol sydd yn cynnwys erlyn a mynychu y Llysoedd.
•Cynnal ymweliadau, darparu adroddiadau a cynnal gwaith gorfodaeth ar berchenogion eiddo “single occupancy” yn ogystal a Tai Aml Deiliadaeth. Mi fydd hyn yn cynnwys gwasanaethu rhybuddion cyfreithiol a dilyn prosesau a trefniadau cyfreithiol sydd yn cynnwys erlyn a mynychu y Llysoedd.
•Cynnal ymweliadau ar ran Swyddogion Iechyd o eiddo sydd yn dioddef o niwsans statudol. Mi fydd y gwaith yma oddi tan goruchwyliaeth y Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd. Mi fydd hyn yn cynnwys gwasanaethu rhybuddion cyfreithiol a dilyn prosesau a trefniadau cyfreithiol sydd yn cynnwys erlyn a mynychu y Llysoedd.
•Cynnal ymweliadau tai mewn perthynas i geisiadau mewnfudwyr a’r cynllun ail gartrefu ffoaduriaid Ukraine a Afghanistan/Syria a darparu adroddiadau i’r perchenogion/ymgeiswyr a llythyrau i’r Swyddfa Gartref.
•Cymryd ymlaen dyletswyddau sydd yn cael ei dirprwyo gan y Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd ble fydd yr angen ar led Gwynedd.
•Dyletswydd i weithio allan o oriau statudol gwaith ble fydd yr angen e.e. paratoi a gwasanaethu rhybuddion statudol yr un diwrnod neu hwyr yn y prynhawn.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i ddeilydd y swydd fynychu cyfarfodydd, is-bwyllgorau a gweithgorau, rhai ohonynt y tu allan i oriau gwaith arferol.
•Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus weithiau oriau anghymdeithasol yn ôl y gofyn.
•Disgwylir iddo ef/hi weithio heb oruchwyliaeth a gweithio ar ei liwt ei hun yn ôl y gofyn.
•Rhaid i ddeilydd y swydd feddu ar drwydded yrru, a rhaid cael car sydd ar gael i weithio.