NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Sgiliau rhyng-bersonol da gyda’r gallu i ddylanwadu a dwyn perswad.
Agwedd diplomatig a chydsyniol tuag at ddatrys problemau.
Gweithio’n hyblyg o fewn fframwaith tim
Ymrwymiad i lwyddo ac adnabod cyfleon i wella gwasanaeth
Y gallu i weithio dan bwysau ac yn arddangos blaengaredd/ “gweld gwaith”
Trwydded Yrru.
Gwiriad DBS – bydd y Cyngor yn gyfrifol am wneud y gwiriad yma ar yr ymgeisydd llwyddiannus.
DYMUNOL
-
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
Graddedig neu gyda chymhwyster cyfatebol
Yn fodlon ymgymryd â chymwysterau addas megis y Dystysgrif Cyffredinol Cenedlaethol NEBOSH a Diploma Cenedlaethol NEBOSH
DYMUNOL
-
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Diddordeb mewn gweithio yn y maes iechyd, diogelwch, neu lesiant
Profiadau yn ymwneud â iechyd, diogelwch, neu lesiant yn y gwaith, wrth gwblhau cymwhyster neu mewn bywyd personol
DYMUNOL
-
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf ym maes iechyd a diogelwch.
Dealltwriaeth o systemau a threfniadau rheoli iechyd a diogelwch.
DYMUNOL
Gallu i ddefnyddio cyfrifiadur ynghyd a gwybodaeth am becynnau Microsoft Office e.e. Word, Excel, Powerpoint
Sgiliau rheoli prosiect.
ANGHENION IEITHYDDOL
Gwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn. Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol. Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith).