NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Hyder i gynnal hyfforddiant
Hyderus mewn cyfarfodydd a chyflwyno gwybodaeth
Trefnu amser yn effeithiol
Sgiliau cyfathrebu clir
Gallu cydweithio fel aelod o dîm
Gallu i weithio’n hyblyg ac annibynnol
Brwdfrydedd dros weithio hefo plant a phobl ifanc
Hyder i roi cyngor I Ysgolion mewn rôl ymgynghorol
Dealltwriaeth drylwyr o brosesau diogelwch o ran plant a phobl ifanc
Trwydded yrru llawn a mynediad at drafnidiaeth .
DYMUNOL
-
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
Statws Athro/awes Cymwysedig (SAC)
Cymhwyster QTVI – Cynhwyster Mandadol neu NEU ymrwymiad i ddilyn cwrs
Cynhwyster Mandadol / Gradd ôl-raddedig neu gymhwyster proffesiynol.
DYMUNOL
Dealltwriaeth gadarn o’r saith côd Braille
Dealltwriaeth cadarn o’r Codau Braille perthnasol yn Gymraeg
Sgiliau TGCh cadarn
Tystysgrif neu ddiploma mewn ‘Rehabilitation’ a Symudedd (Nam Golwg).
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad o:
Addysgu a paratoi ar gyfer disgyblion nam synhwyraidd neu ymrwymiad I addysgu a pharatoi ar gyfer disgyblion nam synhwyraidd
Rheoli Staff.
DYMUNOL
Profiad o:
Hyfforddi a rhoi arweiniad I gymorthyddion a/neu athrawon
Dulliau Canolbwyntio ar yr Unigolyn
Cynlluniau Datblygu Unigol
Gosod argymhellion i athrawon Dosbarth
Cydweithio gydag asiantaethau megis RNIB
Cydweithio gydag asiantaethau iechyd megis ffisio, therapydd galwedigaethol, nyrsys arbenigol
Cydweithio efo Asesydd Risg Symud a thrin.
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Ymwybodol o Strategaeth ADYaCh Gwynedd
Dealltwriaeth o’r ddeddfwriaeth ADYaCh a’r Cod Ymarfer
Dealltwriaeth o Ddulliau Canolbwyntio ar yr Unigolyn
Dealltwriaeth o Gynlluniau Datblygu Unigol
Y gallu i gyflwyno gwybodaeth mewn ffordd effeithiol i drawstoriad o gynulleidfaoedd
Sgiliau cynnal basdata/cyfrifiadurol cryf
DYMUNOL
-
ANGHENION IEITHYDDOL
Gwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn. Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol. Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith).