Pwrpas y Swydd.
- Sicrhau bod plant a phobl ifanc Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
- Gweithio dan gyfarwyddyd ac arweiniad athrawon ac/neu aelodau o dîm rheoli'r ysgol.
- Cefnogi unigolion a grwpiau o ddisgyblion gyda anghenion dysgu ychwanegol i alluogi mynediad i ddysgu.
- Mae'r ysgol wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant ac mae'n disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. e.e. staff, cyllid, offer
-
Prif Ddyletswyddau.
- Goruchwylio a darparu cefnogaeth ar gyfer disgyblion unigol a grwpiau o ddisgyblion, gydag anghenion dysgu ychwanegol, gan sicrhau eu diogelwch a’u mynediad i weithgareddau dysgu.
- Gweithredu Cynlluniau Addysg/Ymddygiad Unigol a rhaglenni Gofal Personol.
- Yn dilyn hyfforddiant, gweinyddu meddyginiaeth yn unol â’r gweithdrefnau a pholisïau ar gyfer yr AALL ac ysgolion.
- Cynorthwyo gyda goruchwylio disgyblion y tu allan i amser gwersi, yn cynnwys cyn ac ar ôl ysgol ac amserau cinio.
- Mynd gyda staff addysgu a disgyblion ar ymweliadau, teithiau a gweithgareddau y tu allan i’r ysgol ar gais a chymryd cyfrifoldeb am grŵp o dan oruchwyliaeth yr athro/athrawes.
- Sefydlu perthynas dda gyda’r disgyblion, gan weithredu fel model rôl a bod yn ymwybodol o anghenion unigol ac ymateb yn briodol iddynt.
- Annog disgyblion i ryngweithio gydag eraill ac i ymuno mewn gweithgareddau o dan arweiniad yr athro/athrawes.
- Gosod disgwyliadau uchel a hybu hunan-barch ac annibyniaeth.
- Hwyluso cynnwys a derbyn pob disgybl o fewn y dosbarth, gan hybu annibyniaeth.
- Dan arweiniad yr athro/athrawes, darparu adborth i ddisgyblion.
- Cydweithio gyda’r athro/athrawes i greu amgylchedd dysgu pwrpasol.
- Sicrhau adborth rheolaidd ac effeithlon i’r athro/athrawes, gan adrodd ar ymatebion y disgyblion i weithgareddau dysgu, cynnydd, a lles disgyblion.
- Hybu ymddygiad disgyblion ac agweddau cadarnhaol tuag at ddysgu.
- Cefnogi strategaethau dysgu amrywiol dan arweiniad athro/athrawes.
- Cefnogi’r defnydd o TGaCh mewn gweithgareddau dysgu.
- Paratoi, cynnal a defnyddio offer/adnoddau sy’n ofynnol i gwrdd â’r cynlluniau gwersi/gweithgaredd dysgu perthnasol a chynorthwyo’r disgyblion i’w defnyddio.
- Cysylltu’n broffesiynol â rhieni, gofalwyr dan arweiniad yr athro/athrawes.
- Cyfranogi mewn cyfarfodydd gyda’r rhieni a chyfrannu at arolygon blynyddol yn unol ag arfer ysgol.
- Bod yn ymwybodol o bolisïau a gweithdrefnau sy’n berthynol i gynhwysiad, amddiffyn plant, iechyd a diogelwch, cyfrinachedd a diogelu data, a chydymffurfio â hwynt, gan adrodd am bob pryder.
- Cyfrannu at ethos/gwaith/amcanion cyffredinol yr ysgol.
- Mynychu cyfarfodydd perthnasol.
- Cymryd rhan mewn hyfforddiant a gweithgareddau dysgu eraill ac arolygon proffesiynol ar gais.
Cyffredinol
- Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad yn unol ar Safonau Proffesiynol ar gyfer Cynorthwyo Addysgu.
- Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd ychwanegol sy’n berthnasol i’r swydd yn unol â chais y Rheolwr.
- Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
- Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor/Ysgol yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
- Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau GDPR. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
- Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon yr ysgol/ Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon yr ysgol/ Cyngor.
- Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
- Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.
Amgylchiadau Arbennig. e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
-
Y pum Safon Broffesiynol ar gyfer cynorthwyo addysgu
ADDYSGEG
MIREINIO ADDYSGU:
- Rheoli’r amgylchedd dysgu
- Help gydag asesu
- Helpu i ddarparu adnoddau priodol
- Cynnwys teuluoedd yn y broses ddysgu.
HYRWYDDO DYSGU:
- Pedwar diben i ddysgwyr
- Cyd-destunau bywyd go iawn
- Cysylltu pynciau â themâu
- Helpu dysgwyr i wneud cynnydd.
DYLANWADU AR DDYSGWYR:
- Arsylwi ar ddysgwyr
- Gwrando ar ddysgwyr
- Dysgwyr yn arwain dysgu
- Helpu dysgwyr i wneud ymdrech
- Deilliannau dysgu a lles.
CYDWEITHREDU
- Ceisio cyngor a chymorth
- Gweithio gyda chydweithwyr yn yr ysgol
- Cefnogi a datblygu eraill.
DYSGU PROFFESIYNOL
- Darllen ac ystyried casgliadau ymchwil
- Rhwydweithiau a chymunedau proffesiynol
- Iaith a diwylliant Cymru.
ARLOESI
- Datblygu arbenigedd y tîm
- Gwerthuso effaith newidiadau i addysgeg.
ARWEINYDDIAETH
- Cymryd cyfrifoldeb personol
- Arfer cyfrifoldeb corfforaethol
- Arwain cyd-weithwyr, prosiectau a rhaglenni
- Arwain digwyddiadau sy’n gysylltiedig â dysgu.
Mae disgwyl bydd pob cymhorthydd yn ymrwymo i’r Safonau Proffesiynol a’u datblygu.
Gwerthoedd ac Ymagweddau Cyffredin
Mae’r cynorthwyydd addysgu yn pwysleisio pwysigrwydd canolog hyrwyddo iaith a diwylliant Cymru yn gyson. Bydd dysgwyr yn cael eu cefnogi i feithrin sgiliau ar draws pob maes dysgu a chymerir pob cyfle i ehangu sgiliau a chymhwysedd dysgwyr.
Bydd anghenion a hawliau dysgwyr yn ganolog ac yn cael blaenoriaeth yn null y cynorthwyydd addysgu
o wneud ei swydd. Mae’r cynorthwyydd addysgu yn arddangos disgwyliadau uchel ac ymrwymiad i gyflawniad pob dysgwr.
- Llythrennedd, Rhifedd a Chymhwysedd Digidol
Mae’r cynorthwyydd addysgu yn pwysleisio pwysigrwydd canolog llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol yn gyson. Bydd dysgwyr yn cael eu cefnogi i feithrin sgiliau ar draws pob maes dysgu a chymerir pob cyfle i ehangu sgiliau a chymhwysedd dysgwyr.
Mae’r cynorthwyydd addysgu yn ddysgwr proffesiynol ac mae’n ymrwymo i ymgysylltu parhaus mewn datblygu, cydweithio ac arloesi gydol gyrfa.
Mae’r cynorthwyydd addysgu wedi ymrwymo i ddysgwyr ym mhob
man ac mae’n rhan ddylanwadol o ddatblygu diwylliant addysg cydlynol yng Nghymru.
Mae gan y cynorthwyydd addysgu hawl broffesiynol i fod yn rhan o ysgol sy’n ystyried ei hun fel sefydliad sy’n dysgu. Mae gan y cynorthwyydd addysgu ymreolaeth i fod yn rhan weithredol o broffesiwn lleol, cenedlaethol a byd-eang ac mae ganddo’r hawl i annog a chefnogi gwelliant i’r ysgol er budd y dysgwyr.