Swyddi ar lein
Rheolwr Prosiect a Rhaglen - Peirianneg Palmentydd
£46,142 - £48,226 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 26-32914
- Teitl swydd:
- Rheolwr Prosiect a Rhaglen - Peirianneg Palmentydd
- Adran:
- Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru
- Gwasanaeth:
- Uned Rheoli Rhwydwaith
- Dyddiad cau:
- 06/08/2026 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 37 Awr
- Cyflog:
- £46,142 - £48,226 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- PS4
- Lleoliad(au):
- Gweler Hysbyseb Swydd
Manylion
Hysbyseb Swydd
Rheolwr Prosiectau a Rhaglenni - Palmentydd
CYFLOG: PS4 (35-37) £46,142 - £48,226
Wedi ei leoli yn un o’r lleoliadau isod;
Helygain, Conwy, Bangor, Llandrindod, Dolgellau, Aberystwyth, Dre Newydd, i gynnwys gweithio
hybrid
Cyfle cyffrous i ymuno â thîm sefydledig o Rheolwyr Brosiect a Rhaglen sy’n darparu prosiectau cyfalaf ar y rhwydwaith Cefnffyrdd ar draws Gogledd a Chanolbarth Cymru. Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am arwain ar reoli prosiectau gwella Priffyrdd, uwchraddio a phrosiectau cyfalaf cynnal a chadw, trwy ein cadwyni cyflenwi estynedig yn y sectorau cyhoeddus a phreifat. Mae’r swydd yn elwa o’n model gweithio hybrid gyda’r cyfle i weithio gartref.
Am sgwrs anffurfiol ynglŷn â’r swydd cysylltwch â Stuart Mackenzie ar 07768477969.
Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn ddymunol a Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd
Ffurflenni cais a manylion pellach ar gael trwy wefan Cyngor Gwynedd www.gwynedd.gov.uk neu drwy ffonio 01286 679076.
Dyddiad Cau: 10.00 yb, 6ed o Awst 2026
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu â chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eichIonawr E-BOST yn rheolaidd
Manylion Person
Nodweddion personol
Hanfodol
Gallu gweithio dan bwysau
Yn ymroddgar ac â’r gallu i gymell ei hun
Gallu derbyn, cymhathu a gwerthuso gwybodaeth o amrywiol ffynonellau.
Rhaid i ymgeiswyr fod yn frwdfrydig a meddu ar y gallu i weithio gyda chyn lleied o oruchwyliaeth â phosib.
Dymunol
-
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
Gradd neu gyfwerth mewn Peirianneg Sifil neu ddisgyblaeth briodol
neu
HNC neu gyfwerth mewn Peirianneg Sifil neu ddisgyblaeth briodol a phrofiad perthnasol sylweddol.
Dymunol
Aelod o gorff proffesiynol priodol
Hyfforddiant Iechyd a Diogelwch
Hyfforddiant rheoli
Profiad perthnasol
Hanfodol
Profiad perthnasol wrth reoli a chyflawni cynlluniau gwella peirianneg palmentydd ac isadeiledd
Profiad o gydlynu a rheoli rhaglenni gwaith
Profiad o weinyddu contractau a chaffael prosiectau
Dymunol
Profiad o reoli contractau fframwaith
Profiad o reoli adnoddau ar lefel uwch er mwyn cyflawni rhaglenni gwaith amlddisgyblaethol
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
Y gallu i drefnu blaenoriaethau gwaith, cynllunio ymlaen llaw a chyflwyno rhaglenni gwaith yn brydlon gyda chyn lleied o oruchwyliaeth â phosib
Y gallu i gydlynu a rheoli’n effeithiol y broses o gyflawni rhaglenni gwaith drwy ddarparwyr gwasanaeth i derfynau amser penodedig
Ymgymryd â dyletswyddau’n hyderus ac yn broffesiynol, gyda’r gallu i ddangos arloesedd a chreadigrwydd
Y gallu i dderbyn, cymhathu a gwerthuso gwybodaeth o amryw o ffynonellau, a darparu argymhellion manwl
Gwybodaeth fanwl am reoli prosiectau a phrosesau allweddol wrth gyflwyno prosiectau unigol mewn amgylchedd peirianyddol neu adeiladu
Profiad wrth asesu diffygion wyneb y ffordd a chyflawni cynlluniau gwella peirianneg palmentydd ac isadeiledd
Trwydded Yrru gyfredol
Dymunol
Sgiliau rhyngbersonol da a sgiliau dadansoddi cryf, a’r gallu i ysgrifennu adroddiadau’n fanwl, ynghyd â sgiliau cyflwyno effeithiol
Sgiliau dadansoddi a rheolaeth ariannol
Gwybodaeth drylwyr o ddeddfwriaeth, safonau a pholisïau eraill sy’n ymwneud â Rheoli Prosiect
Gwybodaeth fanwl o weinyddu prosiectau adeiladu drwy ddulliau caffael modern e.e. Trefniant Contractau NEC
Gwybodaeth am gyflawni prosiectau adeiladu gan ddefnyddio cytundebau fframwaith
Anghenion ieithyddol
Gwrando a Siarad - Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Bod yn gyfrifol am oruchwylio a chydlynu holl brosiectau cynnal a chadw gwerthusiad Palmentydd a Chyfalaf yr Asiant o ran sicrhau y cânt eu cyflawni yn unol â'r gofynion costau, amser ac ansawdd.
•Cynorthwyo gyda chydlynu a rhaglennu rhaglen flynyddol a rhaglen bum mlynedd yr Asiant o gynlluniau adnewyddu, uwchraddio a diogelwch.
•Cefnogi Noddwyr Prosiect yr Asiant gyda datblygu a chyflawni rhaglen gyffredinol yr Asiant o brosiectau refeniw a chyfalaf.
•Gweithredu fel arbenigwr Palmentydd yr Asiant a chynghori ar adroddiadau diffygion wyneb y ffordd yn ôl yr angen.
•Sicrhau y caiff prosiectau ar y rhwydwaith eu cyflawni'n unol â'r contract gan gydymffurfio â gofynion LlC.
•Cynorthwyo i ddatblygu a gweithredu polisi a gweithdrefnau caffael prosiectau, gan gynnwys datblygu a gweithredu’r system rheoli prosiectau SharePoint a’r gronfa ddata gysylltiedig.
•Cynorthwyo yng nghyswllt agweddau technegol a chytundebol y sefydliad, monitro ac adnewyddu contractau fframwaith yr Asiant.
•Gweithredu fel Noddwr Prosiect a Chleient CDM ar brosiectau fel y cytunwyd.
•Caffael a bod yn rheolwr prosiect ar wasanaethau dylunio ymgynghorol a chontractwyr yn unol â gweithdrefnau’r Asiant, gan sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion perfformiad.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Rheoli darparwyr gwasanaethau allanol (darparwyr gwasanaethau LlC, Awdurdodau Partner ac ymgynghorwyr a chontractwyr sector preifat).
•Rheoli’r holl gyllidebau ar gyfer prosiectau priffyrdd perthnasol
•Rheoli system a chronfa ddata Sharepoint yr Asiantaeth.
Prif ddyletswyddau
Rheolaeth Prosiect
•Ymgymryd â rôl oruchwylio a chydlynu ar gyfer gweinyddu holl brosiectau'r Asiant sy'n ymwneud â phalmentydd a sicrhau y cânt eu cyflawni yn unol â’r gofynion costau, amser ac ansawdd, gan gynnwys:
•Cynnal a monitro’r brif raglen ar gyfer holl brosiectau’r Asiant, gyda phwyslais benodol ar sicrhau y cânt eu cyflawni.
•Cynghori a gweithio’n agos gyda Noddwyr Prosiect yng nghyswllt paratoi brîff prosiect, gweithdrefnau tendro cystadleuaeth fach, rhaglenni/cynlluniau rheoli prosiect a chyflawni’r prosiect.
•Cymhwyso egwyddorion system rheoli prosiect PRINCE2.
•Cynrychioli’r Asiant mewn mentrau gwella wynebu'r ffordd
•Adolygu argymhellion dylunio palmentydd ac adroddiadau technegol yn ôl yr angen. Darparu cyngor i Reolwyr Llwybrau ar ddiffygion wyneb y ffordd.
•Cynghori ar ymholiadau sy'n ymwneud â Phalmentydd ar gynlluniau gwelliant mawr fel bo'r gofyn.
•Adolygu adroddiadau arolygu a data arbed Carbon i adnabod cyfleoedd gwella a chymryd camau priodol fel bo'r angen.
•Trafod gyda darparwyr Awdurdodau Partner a'r sector preifat ynghylch prosiectau, gan gynnwys darparu Dangosyddion Perfformiad Allweddol.
•Cysylltu gyda’r Uned Fusnes yng nghyswllt rheoli perfformiad prosiectau.
•Cynorthwyo Noddwyr Prosiect i ddod â phrosiectau i ben, gan gynnwys comisiynu, cofnodion ‘fel y'u hadeiladwyd’ a diweddaru’r rhestr eiddo.
•Gweithredu fel arbenigwr yr Asiant ar weinyddu contractau a chaffael prosiectau.
•Sicrhau y caiff prosiectau ar y rhwydwaith eu cyflawni'n unol â'r contract gan gydymffurfio â gofynion LlC.
•Gweithredu fel Noddwr Prosiect ar brosiectau fel y cytunir. Yn rhinwedd y swydd hon, ymgymryd â’r swyddogaethau a ganlyn: -
•adnabod anghenion prosiect, sicrhau cyllid prosiect a pharatoi brîff y prosiect.
•sicrhau y caiff pob comisiwn ei ddyrannu yn unol â Phrotocol Gwasanaeth Ymgynghorol yr Awdurdod Partner a Gweithdrefnau Fframwaith Wynebu ACGCC.
•cytuno ar raglen a brîff y prosiect
•cymeradwyo ffioedd ymgynghori, prisiadau Contractwyr a chynigion y tîm cyflawni
•trafod â staff perthnasol LlC.
•bod â chyfrifoldeb cyffredinol am gyflawni prosiectau a rheoli’r gyllideb.
•cytuno ar iawndal a'i gymeradwyo
•adolygu a chytuno ar gyflwyniadau misol ar gyfer talu
•derbyn, adolygu, addasu a chymeradwyo Dangosyddion Perfformiad Allweddol y prosiect.
•cychwyn prosesau diffyg perfformiad.
•adrodd ar y gwariant hyd yma, a phroffil gwariant y dyfodol i Uned Fusnes yr Asiant.
•trefnu a chadeirio cyfarfodydd cynnydd prosiect.
•adolygu a chadarnhau unrhyw gyflwyniad sy’n gysylltiedig â phrosiect cyn eu cyflwyno i LlC.
•sicrhau y caiff prosiectau eu cau'n briodol ac yn unol â gweithdrefnau diffiniedig.
•Gweithredu fel Cleient CDM ar brosiectau fel y cytunir. Cynghori a chynorthwyo Noddwyr Prosiect ar rôl y Cleient CDM.
•Rheoli’r holl gyllidebau ar gyfer prosiectau priffyrdd perthnasol sy’n gysylltiedig â’r uchod.
Rheoli Rhaglen
•Cynorthwyo i gydlynu’r broses o adnabod, hyrwyddo a blaenoriaethu rhaglenni blynyddol a rhaglenni pum mlynedd yr Asiant o gynlluniau adnewyddu, uwchraddio a chynlluniau diogelwch.
•Cefnogi Noddwyr Prosiect yr Asiant i ddatblygu a chyflawni rhaglen gyffredinol yr Asiant o brosiectau refeniw a chyfalaf ar draws y rhwydwaith Cefnffyrdd yng ngogledd Cymru yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru (LlC).
•Galluogi cyflawni’r rhaglenni o brosiectau drwy gaffael gwasanaethau ymgynghorol cefnffyrdd a gwaith adeiladu yn unol â gweithdrefnau’r Asiant.
Dyletswyddau Technegol Eraill
•Cynorthwyo yng nghyswllt agweddau technegol a chytundebol y sefydliad, monitro ac adnewyddu contractau fframwaith yr Asiant.
•Cynorthwyo i ddatblygu a gweithredu polisi a gweithdrefnau caffael prosiectau, gan gynnwys datblygu a gweithredu’r system rheoli prosiectau SharePoint a’r gronfa ddata gysylltiedig. Bydd hyn yn cynnwys materion hyfforddi a datblygu staff o fewn yr Asiant a gyda darparwyr gwasanaeth.
•Sicrhau bod egwyddorion 'Rethinking Construction' yn cael eu hyrwyddo gan yr Asiant yn ei weithdrefnau caffael.
•Datblygu ac adolygu prosesau fel rhan o raglen wella barhaus i sicrhau bod dyraniadau cyllidebol yn cael eu defnyddio’n effeithiol ac yn effeithlon, ac y cwblheir gwaith ar amser ac yn unol â gofynion costau ac ansawdd, heb ymateb diangen gan y cyhoedd neu’r cyfryngau.
•Cynorthwyo â rheoli, casglu, paratoi a chyflwyno bidiau cynlluniau drwy broses fidio’r Asiant.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â’r holl ofynion deddfwriaethol sy’n berthnasol i’r swydd.
•Sicrhau bod darparwyr gwasanaeth Awdurdodau Partner yr Asiant a’r Fframwaith yn cydymffurfio â pholisïau a safonau'r DU / LlC, gan gynnwys:
•Canllaw Dylunio ar gyfer Ffyrdd a Phontydd
•Manyleb ar gyfer Gwaith ar Briffyrdd
•Dull Mesur Gwaith ar Briffyrdd
•Pennod 8, Canllaw Arwyddion Traffig
•Canllaw Cynnal a Chadw Cefnffyrdd LlC
•Contractau NEC4
•Rheolau Sefydlog Cyngor Gwynedd
•Dogfennau perthnasol eraill y cyfeirir atynt yn y cytundeb WGMAA
Rheoli Perfformiad
•Cynorthwyo’r Rheolwr Busnes ac Ansawdd a staff perthnasol i ddatblygu systemau a gweithdrefnau ar gyfer System Rheoli Busnes yr Asiant.
•Sicrhau y gweithredir systemau a gweithdrefnau er mwyn archwilio, monitro a rheoli perfformiad y gadwyn gyflenwi wrth gyflawni’r prosiectau.
•Gweithredu dulliau o adolygu perfformiad a gweithio mewn partneriaeth er mwyn darparu gwelliant parhaus.
•Mynd i’r afael â meysydd lle ceir diffyg perfformiad ar ran y darparwr gwasanaeth.
Iechyd a Diogelwch a’r Amgylchedd
•Mae'n gyfrifoldeb ar bob gweithiwr yn yr Asiant i gydymffurfio â'r polisïau Iechyd a Diogelwch, amgylcheddol ac ansawdd fel y cânt eu diffinio yn System Rheoli Busnes Integredig yr Asiant.
•Sicrhau y glynir yn gaeth at bolisïau a deddfwriaethau amgylcheddol ac Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith.
•Cymryd cyfrifoldeb am Iechyd a Diogelwch personol bob amser.
Cyffredinol
•Cyd-gysylltu, fel bo’n briodol, â swyddogion yr Asiant, Swyddogion LlC, Awdurdodau Partner a chyrff perthnasol eraill.
•Meithrin diwylliant o arloesedd a gwelliant parhaus. Yn y cyd-destun hwn, monitro datblygiadau technolegol, cytundebol a datblygiadau eraill yn y diwydiant, gan gynnwys dulliau newydd, gyda’r nod o fabwysiadu’r arfer gorau pan fo hynny’n briodol.
•Cynorthwyo a chefnogi'r Uned Rheoli Rhwydwaith. Darparu cefnogaeth i swyddogion eraill yr Asiant wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau.
•Cynrychioli buddiannau’r Asiant yn gyffredinol mewn cyfarfodydd gyda rhanddeiliaid.
•Dyletswyddau rheolaethol, gweinyddol, technegol a phroffesiynol sy’n gymesur â statws y swydd.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau y caiff gwybodaeth bersonol ei thrin mewn modd sy’n cydymffurfio â deddfwriaeth Diogelu Data.
•Amlinelliad yn unig yw’r rhestr uchod o ddyletswyddau. Disgwylir i ddeilydd y swydd ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill sy’n berthnasol i natur a graddfa’r swydd, yn unol â cheisiadau rhesymol gan y Rheolwr Llinell.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Yr angen i weithio y tu allan i oriau gwaith arferol er mwyn diwallu gofynion y Gwasanaeth.
•Ymweld â safleoedd adeiladu.
•Mynychu cyfarfodydd mewn rhannau eraill o'r DU (e.e., Llandrindod, Caerdydd).
