Pwrpas y Swydd
Darparu cefnogaeth emosiynol, gymdeithasol a bugeiliol i ddisgyblion sy'n profi gorbryder, problemau iechyd meddwl ysgafn, trafferthion presenoldeb, problemau cyfeillgarwch, effaith negyddol cyfryngau cymdeithasol neu anawsterau personol sy'n effeithio ar eu gallu i ymgysylltu'n llawn â bywyd ysgol.
Bydd deiliad y swydd yn gweithredu fel oedolyn dibynadwy a chyson i ddisgyblion bregus, gan helpu i gryfhau eu hymlyniad at yr ysgol, gwella eu lles a chynyddu eu presenoldeb.
Bydd hefyd yn gyfrifol am ddatblygu, addasu a defnyddio adnoddau a strategaethau ymarferol i gefnogi plant a phobl ifanc sy'n wynebu heriau emosiynol, cymdeithasol a llesiant. Bydd disgwyl iddo/iddi ddarparu cymorth sy'n diwallu anghenion unigol disgyblion, gan weithio'n agos gyda staff, rhieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol perthnasol.
Bydd cyfleoedd ar gael i ddatblygu'n broffesiynol drwy fynychu hyfforddiant arbenigol megis ELSA (Emotional Literacy Support Assistant), Tyfu Trwy'r Tymhorau, Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl a rhaglenni perthnasol eraill, er mwyn cryfhau sgiliau a gwybodaeth i gefnogi lles emosiynol disgyblion yn effeithiol.
Prif Gyfrifoldebau
Lles Emosiynol
- Bod yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer disgyblion sydd angen cymorth emosiynol.
- Helpu disgyblion i ddatblygu strategaethau ymarferol ar gyfer rheoli emosiynau.
- Cefnogi disgyblion yn ystod cyfnodau anodd megis profedigaeth, gwahanu teuluol neu newidiadau sylweddol yn eu bywydau.
- Datblygu gweithgareddau sy'n hyrwyddo lles emosiynol a gwydnwch.
Presenoldeb ac Ymgysylltu
- Gweithio'n benodol gyda disgyblion sydd â phresenoldeb isel neu sy'n trwantu'n fewnol oherwydd gorbryder neu bryderon lles.
- Datblygu cynlluniau dychwelyd i ddosbarthiadau neu'r ysgol ar gyfer disgyblion sydd wedi bod yn absennol am gyfnodau estynedig.
- Cynnal cyfweliadau lles a phresenoldeb gyda disgyblion.
- Cysylltu'n rheolaidd â rhieni a gofalwyr.
- Cefnogi trosglwyddiadau rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd.
- Gweithio gyda staff i nodi rhwystrau i bresenoldeb a datblygu strategaethau priodol i'w goresgyn.
Cefnogaeth Ddyddiol
- Bod ar gael i ddisgyblion mewn cyfnodau allweddol megis:
- dechrau'r diwrnod
- gwersi
- diwedd y dydd
- Cynnal "gwirio i mewn" dyddiol gyda disgyblion targed.
- Darparu lle tawel, diogel a chefnogol i ddisgyblion pan fo angen.
- Gweithio fel oedolyn allweddol ar gyfer disgyblion bregus sydd angen cefnogaeth gyson.
Gweithio mewn Partneriaeth
- Cydweithio'n agos gyda'r Tîm Cynhwysiad (Yr Uned Cynhwysiad), Penaethiaid Blwyddyn, Anogwr Dysgu, staff addysgu a staff cymorth ADY.
- Cyfrannu at gyfarfodydd amlasiantaethol pan fo angen.
- Cysylltu a gweithio gyda gwasanaethau allanol perthnasol er budd disgyblion.
- Trafod yn rheolaidd gyda Penaethiaid Blwyddyn ar gynnydd, pryderon ac ymyriadau perthnasol sy'n ymwneud â disgyblion unigol trwy mynychu cyfarfodydd bugeilol.
- Gweithio gyda'r Uned Gynhwysiad i baratoi a chefnogi disgyblion i ailintegreiddio'n llwyddiannus i wersi prif ffrwd
Monitro
- Cadw cofnodion cywir o ymyriadau a chynnydd.
- Monitro effaith ymyriadau ar:
- bresenoldeb
- lles
- ymgysylltiad
- perthnasoedd cymdeithasol
Datblygiad Proffesiynol
- Cymryd rhan mewn hyfforddiant a datblygiad proffesiynol parhaus.
- Datblygu arbenigedd mewn cefnogi iechyd meddwl a lles emosiynol plant a phobl ifanc.
- Rhannu arferion effeithiol ac adnoddau gyda chydweithwyr.
- Cadw'n gyfredol â chanllawiau, ymchwil a datblygiadau ym maes lles, cynhwysiant a phresenoldeb.
Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc drwy eu helpu i oresgyn rhwystrau emosiynol a chymdeithasol, gwella eu lles a sicrhau eu bod yn gallu ffynnu o fewn cymuned yr ysgol.
Atebolrwydd a Rheolaeth Llinell
Bydd yn atebol yn uniongyrchol i'r Pennaeth Cynorthwyol (Bugeiliol) am gyflawni ei ddyletswyddau a datblygu'r ddarpariaeth lles a chynhwysiant.