YSGOLION UWCHRADD
Ysgol Glan y Môr, Pwllheli
(Ysgol Gyfun 11 - 16: 507 o ddisgyblion)
Yn eisiau: Cyn gynted a phosib
GOFALWR / GOFALWRAIG
Oriau gwaith : 37 awr yr wythnos
Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio 7.5 awr y diwrnod Llun-Iau a 7 awr dydd Gwener, ac i weithio i batrwm gwaith yn ystod yr amseroedd canlynol er mwyn agor a chau’r adeilad. Yn ogystal bydd angen gweithio oriau ychwanegol yn ystod y dydd er mwyn gweithio 37 awr yr wythnos, bydd hyblygrwydd o ran yr oriau yn unol a gofynion yr Ysgol.
Dydd Llun – 7.30-11.00 yb / 2.00-6.00 yh
Dydd Mawrth 7.30-11.00 yb / 2.00-6.00 yh
Dydd Mercher - 7.30-11.00 yb / 2.00-6.00 yh
Dydd Iau - 7.30-11.00 yb / 2.00-6.00 yh
Dydd Gwener - 7.30-11.00 yb / 2.15-5.45 yh
Mae Ysgol Glan Y Mor yn awyddus i apwyntio person brwdfrydig ac egniol sydd â phrofiad perthnasol a’r rhinweddau penodol ar gyfer y swydd o Ofalwr / Gofalwraig yr ysgol.
Graddfa Cyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa GS3, pwyntiau 5 -6, (£25,583 - £25,989). Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i’w cael gan Marina Parry Owen , Rheolwr Busnes, Ysgol Glan Y Mor, Ffordd Caerdydd, Pwllheli, Gwynedd, LL53 5NU (Rhif ffôn: 01758 701244) ; e-bost: sg@glanymor.ysgoliongwynedd.cymru.
Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o’r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).
DYDDIAD CAU: HANNER DYDD, DYDD LLUN 13eg o ORFFENNAF, 2026.
Mae’r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae’n disgwyl y bydd pob un o’i staff a’i wirfoddolwr yn rhannu’r ymrwymiad hwn.