Pwrpas y Swydd.
- Sicrhau bod plant a phobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
- Sicrhau cyfleoedd dysgu ac addysgu o safon uchel i’r holl ddisgyblion o dan ei g/ofal a safonau cyrhaeddiad uchel ym mhob agwedd o waith yr ysgol.
- Trwy weithio o dan gyfarwyddid y pennaeth a chydweithio a’r UDRh ac athrawon eraill mae’r athro dosbarth yn cyd-gyfrifol am greu amgylchedd dysgu cyffrous, ysgogol a chynhyrchiol ar gyfer y disgyblion.
- Mae’r ysgol hon wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae’n disgwyl y bydd pob un o’i staff a’i wirfoddolwr yn rhannu’r ymrwymiad hwn.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. e.e. staff, cyllid, offer
- Adnoddau dysgu, arwain cymorthyddion
Prif Ddyletswyddau.
Amodau
Mae gofynion y swydd hon i'w cyflawni yn unol â darpariaethau Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) ac o fewn amrediad dyletswyddau athrawon fel y'u nodir yn y ddogfen honno cyn belled ag y bo hynny'n berthnasol i deitl y swydd a graddfa cyflog y sawl sydd yn y swydd. Mae’r swydd hefyd yn ddarostyngedig i Amodau Gwaith Athrawon Ysgol yng Nghymru a Lloegr (Y Llyfr Bwrgwyn) ac i unrhyw amodau perthnasol a gytunwyd yn lleol.
Bydd pob aelod o staff a gyflogir yn yr ysgol yn gweithredu pob cais neu gyfarwyddyd rhesymol a roddir gan y Pennaeth a/neu gynrychiolydd. Yn ychwanegol, mae’n rhesymol disgwyl gweithredu a chwblhau rhai dyletswyddau penodol yn unol â pholisïau’r ysgol.
Gweithredu’r ‘Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth’. Dylid hybu nodweddion, gwerthoedd a dealltwriaeth broffesiynol, cynllunio gwaith yn hyderus gan osod targedau i’w monitro a’u hasesu wrth gynnal amgylcheddau dysgu effeithiol, lle mae pob dysgwr yn teimlo'n ddiogel a hyderus.
Cyfrifoldebau Proffesiynol
- Y cyfrifoldebau penodol sy'n gysylltiedig â swydd yr athro/athrawes dosbarth fydd:
- Gwahaniaethu i ystod o ddisgyblion ag anghenion dwys amrywiol.
- Defnyddio strategaethau cyfathrebu a rhyngweithio.
- Dilyn rhaglenni arbenigol.
- Dehongli adroddiadau arbenigol a’u rhoi ar waith.
- Dilyn argymhellion rhaglenni ymddygiad a chyd-weithio gyda’r Arbenigwraig Dysgu Cadarnhaol (ABA) i gefnogi disgyblion.
- Gweithredu o fewn y Ddeddf ADY a Cȏd Ymarfer ADY Cymru.
- Sicrhau lles a diogelwch pob disgybl. Tynnu sylw’r person priodol at unrhyw broblem.
- Cynnig addysg o’r radd flaenaf i bob disgybl, gan dalu sylw teilwng i oed, gallu a diddordebau’r unigolion.
- Creu a chynnal man gwaith deniadol a phleserus, gan ddefnyddio arddangosfeydd o waith plant a staff yn rheolaidd, ac annog disgyblion i gadw’r ystafelloedd dysgu yn lân ac yn daclus.
- Yn unol ag arweiniad cyfredol yr ysgol, cynllunio rhaglenni gwaith, fel y disgrifir yng Nghwricwlwm Lefel Uchel yr ysgol
- Cynllunio a pharatoi gwersi yn ofalus a thrylwyr.
- Paratoi deunyddiau dysgu ac addysgu ar gyfer y gwersi a ddysgir.
- Sicrhau fod adnoddau/deunyddiau/offer perthnasol ac addas yn barod ymlaen llaw.
- Sicrhau fod gwersi yn cychwyn ac yn gorffen ar amser a bod y disgyblion yn cael eu derbyn i’r dosbarth a’u hanfon allan dan reolaeth a threfn.
- Dysgu â brwdfrydedd gan ymestyn pob disgybl a roddir i’w g/ofal hyd eithaf ei allu.
- Cynllunio a gosod profiadau dysgu sy’n cefnogi’r disgyblion i gyrraedd eu deilliannau a thargedau
- Cyfrannu at gyfarfodydd, trafodaethau a threfniadau rheolaeth yn ôl y gofyn i ddatblygu a chydlynu gwaith yr ysgol.
- Cyfrannu at drefniadau’r ysgol ar gyfer asesu ac adrodd ar gyflawniad disgyblion.
- Cymryd rhan yn nhrefniadau’r ysgol ar gyfer gwerthuso a rheoli perfformiad.
- Ymroi i ddatblygiad proffesiynol sy’n berthnasol i’r swydd a chyfrifoldebau drwy gydol ei g/yrfa.
- Cynghori, arwain a chydweithio â’r pennaeth ag athrawon eraill yn ôl y gofyn mewn perthynas â darparu a datblygu rhaglenni gwaith, deunyddiau addysgu, dulliau asesu a.y.y.b.
- Mynychu a chyfrannu i gyfarfodydd staff sy’n ymwneud â chwricwlwm yr ysgol, trefniadaeth yr ysgol, gan gynnwys gweithdrefnau bugeiliol.
- Hunanarfarnu safonau ac arferion dysgu - ymyrryd yn bwrpasol i godi safonau.
- Cyflawni dyletswyddau bore, egwyl a phrynhawn yn unol â Pholisi Iechyd a Diogelwch yr ysgol a’r amserlen a gyhoeddir ar ddechrau pob blwyddyn academaidd.
- Mynychu cyfarfodydd amrywiol ar nosweithiau yn unol â threfniadau’r ysgol.
- Mynychu nosweithiau rhieni yn ôl y galw er mwyn trafod datblygiadau disgyblion.
- Mynychu cyfarfodydd eraill yn ôl y galw, gan gynnwys y tu allan i oriau arferol yr ysgol o fewn oriau cyfeiriedig.
- Mynychu hyfforddiant mewn swydd yn ôl y galw.
- Hybu blaenoriaethau Cynllun Datblygu Ysgol presennol.
- Cyfrannu’n bwrpasol i ddatblygu’r ysgol i fod yn ganolfan sy’n cynrychioli’r arferion a’r safonau proffesiynol uchaf.
- Cydweithio’n effeithiol a pharchus fel aelod o dîm proffesiynol.
- Cyfrannu gyda’r Pennaeth i sicrhau fod yr ysgol yn gwarchod gwerthoedd yr iaith Gymraeg ac yn dilyn Polisi Iaith yr Awdurdod.
- Ysgwyddo cyfrifoldeb am ei ddatblygiad proffesiynol ei hun.
- Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
- Gweithredu o fewn polisïau’r cyngor/ysgol yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
- Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.
- Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
- Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
- Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin.
- Adolygu, diweddaru a gweithredu'r CDU gan ddefnyddio'r system CDUarlein gyda'r disgybl, ei deulu a gweithwyr proffesiynol eraill.
Cysylltiadau:
Bydd y sawl sydd yn y swydd yn:
- rhyngweithio ar lefel broffesiynol efo'i gydweithwyr ac yn ceisio sefydlu a chynnal perthynas gynhyrchiol a nhw er hyrwyddo cyd-ddealltwriaeth o bynciau o fewn cwricwlwm yr ysgol gyda golwg ar wella ansawdd y dysgu yn yr ysgol.
- gyfrifol am oruchwylio gwaith cymhorthydd sy'n berthnasol i'w ddyletswyddau.
Amgylchiadau Arbennig. e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
- Gweithio y tu allan i oriau gwaith arferol yn ôl y gofyn.