ADDYSG
YSGOLION UWCHRADD
YSGOL BRYNREFAIL, LLANRUG
(Gyfun 11 – 18 oed, 742 o ddisgyblion)
Yn eisiau: Medi 1af, 2026
Swyddog Chynhwysiant a Lles
Cytundeb Parhaol
Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos.
Cytundeb 39 wythnos, tymor Ysgol a dyddiau Hyfforddiant Mewn Swydd yn Unig
Mae Llywodraethwyr yr ysgol yn awyddus i benodi person brwdfrydig ac egnïol ar gyfer y swydd uchod sydd yn meddu ar y cymwysterau priodol a’r sgiliau addas. Gweler y swydd ddisgrifiad yn y pecyn hysbysebu am ragor o fanylion.
Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa S1 pwyntiau 12-17 (sef £24,840 - £27,436) y flwyddyn, yn ôl profiad a chymhwyster.
Mae’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd yma. Mae’r ysgol yn gweithredu’n unol a’i Bolisi Iaith. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb neu sydd angen mwy o wybodaeth i gysylltu i drafod yn anffurfiol hefo’r Pennaeth Mr Dylan Jones, Rhif ffôn: 01286 672381
Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu i’w cyflwyno i’r Rheolwr Busnes a Chyllid, Mrs Angharad Parry Davies, Ysgol Brynrefail, Ffordd Crawia, Llanrug, Caernarfon, Gwynedd, LL55 4AD. Rhif ffôn: 01286 672381; e-bost : sg@brynrefail.ysgoliongwynedd.cymru Os dymunir dychwelyd y cais drwy’r post, dylid ei ddychwelyd i’r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.
DYDDIAD CAU: 9 Y BORE, DYDD MERCHER, 8fed O ORFFENNAF 2026.
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.
Mae’r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae’n disgwyl y bydd pob un o’i staff a’i wirfoddolwr yn rhannu’r ymrwymiad hwn.