Pwrpas y Swydd.
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Sicrhau bod pob plentyn o oedran ysgol gorfodol yn yr awdurdod lleol yn cael mynediad at addysg addas, gan weithredu systemau effeithiol i adnabod, olrhain a chefnogi plant sy’n colli addysg neu sydd mewn perygl o wneud hynny.
• Mae’r rôl yn cyfrannu’n uniongyrchol at ddyletswyddau statudol o dan
• Ddeddf Addysg 1996,
• Deddf Plant 2004
• Canllawiau Llywodraeth Cymru ar Blant sy’n Colli Addysg
• Ddeddf Lles Plant ac Ysgolion 2026.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
•
Prif Ddyletswyddau.
Adnabod a Lleoli Plant sy’n Colli Addysg
• Dadansoddi data o amrywiaeth o ffynonellau (ysgolion, iechyd, mewnfudo, gwasanaethau cymdeithasol, tai, yr heddlu) i nodi plant nad ydynt ar gofrestr ysgol.
• Croesgyfeirio gwybodaeth â chofnodion presenoldeb, cofrestriadau ysgolion, a symudiadau mewn/allu o’r ardal.
• Ymchwilio i bob achos lle mae plentyn wedi diflannu o gofrestr ysgol heb drefniadau addysg clir.
• Cynnal ymweliadau cartref pan fo angen i wirio lleoliad a threfniadau addysg plentyn.
Rheoli a Datblygu’r Gronfa Ddata CME
• Sicrhau bod pob plentyn sy’n dod i sylw’r awdurdod yn cael ei gofnodi’n gywir yn y gronfa ddata statudol.
• Diweddaru statws pob achos yn rheolaidd (e.e., “wedi’i leoli”, “mewn perygl”, “angen ymyrraeth”).
• Cynnal archwiliadau ansawdd data i sicrhau cywirdeb, cysondeb a chydymffurfiaeth â GDPR.
• Cynhyrchu adroddiadau data ar dueddiadau, risgiau a bylchau yn y system
Cysylltu â Theuluoedd Addysg Dewisiol Gartref
• Cysylltu â rhieni/gofalwyr i gadarnhau trefniadau addysg plentyn a chynnig cyngor ar opsiynau addas o fewn 10 diwrnod o dderbyn rhybudd o ddad gofrestriad
• Esbonio dyletswyddau cyfreithiol rhieni o dan Adran 7 Deddf Addysg 1996.
• Cynnal ymweliadau sensitif gyda theuluoedd sy’n wynebu rhwystrau cymdeithasol, ieithyddol neu economaidd.
• Cyfeirio teuluoedd at gymorth ychwanegol pan fo angen (e.e.gwasanaethau iechyd meddwl, Plant,Gyrfa Cymru ).
Cydweithio Amlasiantaethol
• Gweithio’n agos gyda gwasanaethau cymdeithasol, iechyd, yr heddlu, mewnfudo, tai, gwasanaethau ieuenctid ac ysgolion.
• Arwain neu gyfrannu at gyfarfodydd amlasiantaethol ar achosion risg uchel.
• Rhannu gwybodaeth yn ddiogel ac yn gyfreithiol i ddiogelu plant a sicrhau mynediad at addysg.
• Cefnogi gweithdrefnau diogelu lleol a chenedlaethol.
Cynllunio ac Arwain Ymyriadau
• Datblygu cynlluniau gweithredu unigol ar gyfer pob plentyn sy’n colli addysg.
• Monitro cynnydd yn erbyn targedau ac addasu ymyriadau pan fo angen.
• Cyfeirio at wasanaethau arbenigol pan fo rhwystrau cymhleth (e.e iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau, camfanteisio).
• Cefnogi teuluoedd i sicrhau lle mewn ysgol neu ddarpariaeth addas arall.
Monitro, Adrodd a Chydymffurfiaeth
• Paratoi adroddiadau rheolaidd ar lefelau CME, risgiau a thueddiadau ar draws yr awdurdod.
• Cyflwyno gwybodaeth i uwch reolwyr, pwyllgorau addysg a swyddogion .
• Sicrhau bod yr awdurdod yn cydymffurfio â’r holl ofynion statudol a chanllawiau Llywodraeth Cymru.
• Cyfrannu at adolygiadau polisi a datblygu strategaethau lleol.
• Gweithredu ar Gorchymyn mynychu Ysgol yn ol yr angen
Diogelu a Rheoli Risg
• Adnabod arwyddion o gamfanteisio, esgeulustod neu risgiau eraill sy’n gysylltiedig â diffyg mynediad at addysg.
• Cyfeirio pryderon yn brydlon i wasanaethau plant.
• Cymryd rhan mewn cynadleddau diogelu a chynlluniau amddiffyn plant.
• Sicrhau bod pob cam gweithredu yn rhoi lles y plentyn yn gyntaf.
Codi Ymwybyddiaeth a Hyfforddiant
• Darparu hyfforddiant i ysgolion a gwasanaethau partner ar brosesau CME.
• Datblygu canllawiau, templedi a deunyddiau cefnogi ar gyfer staff rheng flaen.
• Hyrwyddo arferion gorau ar draws yr awdurdod.
Cynrychioli’r Awdurdod Lleol
• Cynrychioli’r gwasanaeth mewn cyfarfodydd rhanbarthol a chenedlaethol.
• Cyfrannu at rwydweithiau proffesiynol a rhannu arferion da.
• Cefnogi datblygu polisïau cenedlaethol drwy adborth a data lleol
Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
•