Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwyned yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
•Darparu gwasanaeth ymgynghorol proffesiynol i’r Cyngor. Sicrhau cydymffurfiad a chysondeb gweithrediad gan fabwysiadu a rhannu arferion gorau yn ogystal a datblygu ac adolygu polisïau a gweithdrefnau perthnasol.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
-
Prif ddyletswyddau
•Cynghori Penaethiaid Adran, Uwch Reolwyr a rheolwyr eraill ar holl faterion Adnoddau Dynol gan hybu diwylliant “Un Cyngor” ar bob cyfle posibl.
•Darparu arweiniad ar drefniadau ac arferion gorau recriwtio gan sicrhau cydymffurfiad hefo’r Polisi Recriwtio a Phenodi corfforaethol.
•Bod yn rhagweithiol yn cynnal cysylltiadau a pherthynas agored ac adeiladol gyda cynrychiolwyr yr Undebau Llafur.
•Cynghori a chefnogi Rheolwyr i ymdrin a disgyblaethaethau, cwynion a thanberfformiad; ymdrin a cheisiadau ailraddio ac apeliadau gan baratoi a chyflwyno achosion fel bo’r galw.
•Monitro lefelau absenoldeb gan hyrwyddo’r trefniadau rheoli absenoldebau corfforaethol ac ymgynghori yn barhaus gyda’r Uned Iechyd Galwedigaethol ar achosion unigol er mwyn cefnogi staff i ddychwelyd i’r gwaith.
•Cymryd rôl ganolog yn datblygu ac adolygu amodau gwaith lleol, yn ogystal a pholisïau a gweithdrefnau yn ymwneud â’r gweithlu, gan yna hyrwyddo eu gweithrediad cyson ar draws y Cyngor.
•Hyrwyddo’r Cyngor fel cyflogwr o ddewis trwy godi ymwybyddiaeth ynglŷn a’r gyrfaoedd, y pecyn cyflogaeth a’r amodau gwaith a gynigir i staff. Golyga hyn gynnal cyflwyniadau i staff presennol ac i ddarpar-ymgeiswyr am swyddi i’r dyfodol.
•Cynorthwyo a chynnig arweiniad i reolwyr yng nghyswllt cynllunio’r gweithlu ar gyfer y dyfodol.
•Mynychu cyfarfodydd timau rheoli adrannol perthnasol er mwyn sicrhau mewnbwn adnoddau dynol i gynorthwyo datblygiadau o fewn gwasanaethau ar draws y Cyngor.
•Cyd weithio i ddatblygu cynlluniau a phrosiectau corfforaethol ac i sicrhau Cynllun Gwella parhaus i’r Gwasanaeth.
•Gweithredu o fewn polisi a gweithdrefnau corfforaethol yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb a bod yn flaenllaw yn hyrwyddo’r egwyddorion hyn o fewn y Cyngor.
•Ymgynghori a chydweithio’n agos gyda’r Ymgynghorwyr / Swyddogion Adnoddau Dynol o fewn y Gwasanaeth yn ogystal â Swyddogion adrannau eraill er mwyn darparu’r gwasanaeth gorau posibl i’r cwsmer.
•Bod yn aelod o’r Tîm Ymgynghorol Adnoddau Dynol
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau a gweithdrefnau’r Cyngor mewn perthynas â chyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Cwblhau unrhyw ddyletswyddau eraill cymharol a rhesymol sy’n gymesur â lefel cyflog a chyfrifoldebau’r swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin.
Amgylchiadau arbennig
• Gellir bod angen mynychu cyfarfodydd gyda’r nos yn achlysurol.