NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Cyfeillgar, amyneddgar, empathetig a gyda’r gallu i weithredu mewn modd sy’n parchu a hyrwyddo hawliau unigolion.
Gonest, cydwybodol a dibynadwy.
Yn gallu adnabod a meddwl yn greadigol am ffyrdd i gefnogi unigolion i ddatblygu sgiliau gwahanol.
Bod yn bositif ac yn angerddol.
Gallu i weithio dan bwysau.
Gallu i weithio yn annibynnol ac fel rhan o dim.
Hyblygrwydd.
Yn awyddus i dderbyn hyfforddiant, arweiniad a goruchwyliaeth.
DYMUNOL
-
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
Addysg gyffredinol o safon rhesymol.
DYMUNOL
NVQ Lefel 3 Gofal Iechyd a Chymdeithasol – Llwybr Gofal Plant - neu yn barod i weithio tuag ato.
Tystiolaeth o ddatblygiad personol perthnasol drwy hyfforddiant mewn swydd.
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad o ofalu am neu gefnogi unigolyn arall.
Profiad o weithio’n effeithiol gydag eraill ( cyd-weithwyr, teuluoedd ac asiantaethau).
Profiad o weithio’n unigol ac fel aelod o dîm.
DYMUNOL
Profiad o weithio’n uniongyrchol gyda plant a phobl ifanc a’u teuluoedd.
Profiad perthnasol o weithio efo plant anabl neu plant sy’n wael.
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Meddu a’r sgiliau rhyngbersonol da.
Sgiliau cyfathrebu a gwrando da.
Sgiliau TG sylfaenol.
Gwybodaeth am anghenion plant a’u datblygiad.
Dealltwriaeth ac ymrwymiad i arferion gwrth hiliol a gwrth ormesol.
Gallu i ddehongli a chofnodi digwyddiadau yn gywir a chlir.
Trwydded yrru gyfredol, lân.
Gallu i baratoi adroddiadau o ansawdd yn y Gymraeg a Saesneg.
Gallu i gyfathrebu yn effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig.
DYMUNOL
Gwybodaeth gyffredinol o faterion datblygiad a diogelwch plant.
Dealltwriaeth a profiad o weithio o fewn modelau megis Cefnogaeth weithgar a Cefnogaeth Ymddygiad Cadarnhaol.
ANGHENION IEITHYDDOL
Gwrando a Siarad
Darllen a Deall
Ysgrifennu