Swyddi ar lein
Arweinydd Tîm Polisi Cynllunio
£44,075 - £46,142 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 26-32730
- Teitl swydd:
- Arweinydd Tîm Polisi Cynllunio
- Adran:
- Amgylchedd
- Gwasanaeth:
- Uned Reoli
- Dyddiad cau:
- 19/06/2026 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 37 Awr
- Cyflog:
- £44,075 - £46,142 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- PS3
- Lleoliad(au):
- Caernarfon
Manylion
Hysbyseb Swydd
*DALIER SYLW*
Mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i fod yn gyflogwr cynhwysol ac i wella amrywiaeth ein gweithlu.
Bydd eich ffurflen gais yn cael ei hasesu yn ddienw. Ni fydd eich teitl, enw na chyfeiriad e-bost yn cael ei rannu â’r panel sy’n penodi at bwrpas llunio rhestr fer. Dylech ystyried hyn yn ofalus wrth ysgrifennu amdanoch eich hun yn y rhan gwybodaeth pellach.
Swydd: Arweinydd Tîm Polisi Cynllunio
Cyflog: £44,075 - £46,142 (ynghyd â chyfraniad pensiwn Awdurdod Lleol)
Dyddiad Cau: 10am ar ddydd Gwener, 19 Mehefin 2026
Diolch am ddangos diddordeb mewn gwneud cais am y swydd hon. Mae'n cynnig cyfle i unigolyn proffesiynol, brwdfrydig ac ymrwymedig fel Arweinydd Tîm o fewn Gwasanaeth Polisi Cynllunio, Tirwedd a Natur Cyngor Gwynedd.
Rydym yn awyddus i benodi rhywun a fydd yn gallu arwain ar agweddau o'r broses o baratoi'r Cynllun Datblygu Lleol ar gyfer awdurdod cynllynio lleol Gwynedd. Byddwch yn sicrhau Cynllyn sy'n bodloni'r gofynion statudol ac yn diwallu anghenion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol cymunedau'r ardal ar gyfer y dyfodol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn arwain tîm i sicrhau bod dyletswyddau'r Gwasanaeth yn cael eu cyflawni'n effeithiol.
Gellir gweld holl fanylion y swydd yn y ddogfen hon, a dylech gyflwyno eich cais ar wefan y Cyngor: www.gwynedd.llyw.cymru/jobs
Os hoffech gael sgwrs anffurfiol i drafod y swydd, cysylltwch â Rebeca Jones, Rheolwr y Gwasanaeth (RebecaJones@gwynedd.llyw.cymru, 01286 679890).
Edrychwn ymlaen at dderbyn eich cais.
Cynhelir cyfweliadau ar 25/06/2026.
Manylion Person
Nodweddion personol
Hanfodol
Personoliaeth groesawus.
Llygad am fanylder a chywirdeb.
Gonestrwydd, hunan hyder, pendant a hyblyg.
Gallu i dderbyn cyfrifoldebau ac i gyfathrebu’n effeithiol.
Gallu i weithio o dan bwysau ac fel rhan o dîm.
Y gallu i ysbrydoli a rheoli staff yn effeithiol
Ymroddedig i gyflwyno gwasanaeth da i’r Cwsmer ac wastad yn edrych am ffyrdd i wella gwasanaeth
Yn unigolyn sydd yn cyfleu brwdfrydedd ynglŷn a’r gwaith
Perchen ar drwydded yrru lan a dilys ynghyd a defnydd o gar.
Dymunol
-
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
Gradd neu gymhwyster cyffelyb mewn Cynllunio Gwlad a Thref neu mewn pwnc arbenigol perthnasol i faes gwaith y Gwasanaeth
Dymunol
Cymhwyster ôl-radd mewn pwnc perthnasol
Aelodaeth o’r RTPI neu RIBA neu o gymdeithas neu gorff proffesiynol arall perthnasol
Profiad perthnasol
Hanfodol
Gweithio am o leiaf 5 mlynedd yn y maes polisi cynllunio ac arwain ar waith yn y broses o baratoi a gweithredu Cynllun Datblygu Lleol a Chanllawiau Cynllunio Atodol
Paratoi tystiolaeth a chymryd rhan mewn archwiliad cyhoeddus ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol
Darparu briffiau a chomisiynu gwaith gan ymgynghorwyr
Paratoi a chyflwyno adroddiadau i bwyllgorau a gweithgorau
Profiad o reoli staff
Profiad o weithio i amserlenni tynn ac o dan bwysau.
Profiad o gydweithio gyda swyddogion ac Aelodau Etholedig ar pob lefel.
Dymunol
Cyflwyno tystiolaeth mewn archwiliad cyhoeddus ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol
Arwain a chyfrannu at welliannau / newidiadau yn nhrefniadau a phrosesau gwaith yn y maes polisi cynllunio.
Cydweithio gyda Llywodraeth Cymru, cynghorau, asiantaethau a chyrff eraill
Arwain ar a chyfrannu at ymatebion i ymgynghoriadau cyhoeddus gan gyrff perthnasol ar faterion sydd yn berthnasol i gynllunio
Gweithio mewn meysydd cynllunio eraill megis Rheolaeth Datblygu a Gorfodaeth
Gweithio mewn Llywodraeth Leol
Rheoli cyllid
Cydweithio gyda partneriaid ar lefel rhanbarthol a chenedlaethol
Profiad o gyfrannu at y broses o fonitro a rheoli perfformiad
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
Gwybodaeth a dealltwriaeth drylwyr am Ddeddfau Cynllunio, Deddfau Amgylcheddol, Rheoliadau a pholisïau perthnasol.
Dealltwriaeth drylwyr o brosesau gwaith yn y maes Polisi Cynllunio ac yn benodol y broses o baratoi a gweithredu Cynllunio Datblygu Lleol
Y gallu i ddehongli polisïau a chanllawiau cynllunio (lleol a chenedlaethol) yn eglur a chadarn a rhoi arweiniad polisi ar faterion rheolaeth datblygu a gorfodaeth
Sgiliau cyfathrebu cryf yn llafar ac yn ysgrifenedig
Sgiliau perthnasol ar gyfer paratoi a chyflwyno adroddiadau a’r gallu i gydweithio’n effeithiol a phobl, asiantaethau a chyrff allanol
Dealltwriaeth o faterion cynllunio trefol a gwledig
Dealltwriaeth o drefniadau gwaith Llywodraeth Leol
Gallu i ddefnyddio pecynnau cyfrifiadurol.
Dymunol
Dealltwriaeth o brif amcan dynodiad yr AHNE a ròl y Cynllun Rheoli AHNE
Dealltwriaeth o faterion cynllunio mwynau a gwastraff
Gwybodaeth am yr ardal a’r ymroddiad i warchod a gwella’r amgylchedd trefol a gwledig.
Dealltwriaeth am becynnau cyfrifiadurol amrywiol eraill.
Anghenion ieithyddol
Gwrando a Siarad - Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Arwain y gwaith o ddarparu gwasanaeth polisi cynllunio a dyletswyddau cysylltiedig ar gyfer ardal awdurdod cynllunio Cyngor Gwynedd
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Arwain y Tîm i sicrhau fod dyletswyddau sydd yn ymwneud a polisi cynllunio, cynllunio mwynau a gwastraff a rheolaeth o’r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llyn (AHNE) yn cael eu gweithredu’n effeithiol.
•Cyfrifoldeb am adnoddau ariannol y Tîm
•Cyfrifoldeb am offer cyfrifiadurol personol
Prif ddyletswyddau
•Arwain ar y broses o baratoi Cynllun Datblygu Lleol ar gyfer ardal awdurdod cynllunio Gwynedd, i sicrhau Cynllun sydd yn cyd-fynd a’r gofynion statudol ac yn cyfarch anghenion cymunedau’r ardal yn gymdeithasol, economaidd ac yn amgylcheddol ar gyfer y dyfodol. Bydd hyn cynnwys arwain, cydlynu, paratoi a chyflwyno:
•sail tystiolaeth ar gyfer papurau testun
•dogfennau a chyflwyniadau ar gyfer yr ymgynghoriadau cyhoeddus statudol yn ogystal a sesiynau briffio ar gyfer Aelodau Etholedig
•tystiolaeth ar gyfer yr archwiliad cyhoeddus
•Arwain a gweithredu ar y trefniadau ar gyfer cydweithio gyda Thîm Cyfathrebu’r Cyngor i sicrhau fod Cynllun Cyfathrebu effeithiol mewn lle ar gyfer y broses o baratoi’r Cynllun Datblygu Lleol a gwaith y Gwasanaeth
•Arwain a chydlynu a chysoni lle’n briodol y broses o baratoi Cynllun Datblygu Lleol gyda strategaethau a dogfennau polisi eraill sydd wedi, neu yn cael eu paratoi gan y Cyngor, gan awdurdodau cyfagos, ar lefel rhanbarthol ac yn genedlaethol.
•Arwain ar waith comisiynu’r Tîm a chymryd trosolwg o waith ymgynghorwyr mewn cysylltiad â’r gwaith o baratoi Cynllun Datblygu Lleol ac adnabod cyfleoedd i gomisiynu gwaith ar y cyd gydag awdurdodau eraill lle’n briodol,
•Yn dilyn mabwysiadu’r Cynllun Datblygu Lleol, arwain y broses o fonitro, adolygu a diwygio’r Cynllun.
•Arwain y gwaith o baratoi Canllawiau Cynllunio Atodol ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol (ar ôl ei fabwysiadu).
•Arwain ar y gwaith o weithredu’r holl weithdrefnau sydd yn bwydo i mewn i fonitro’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd (Gwynedd ac Ynys Mon) mewn partneriaeth gydag Ynys Mon, er mwyn sicrhau fod Adroddiad Monitro Blynyddol ar y cyd (1 AMB) yn cael ei baratoi yn flynyddol hyd at mabwysiadu’r Cynllun newydd, yn unol a’r gofynion statudol.
•Yr uchod i gynnwys arwain ar y gwaith o fonitro’r Canllawiau Cynllunio Atodol ac hefyd y broses o baratoi unrhyw Ganllawiau Cynllunio Atodol diwygiedig / newydd i gefnogi polisïau’r Cynllun Lleol ar y Cyd cyfredol.
•Cydweithio’n agos gyda’r Gwasanaeth Cynllunio ac arwain ar y gwaith o roi cyngor polisi arbenigol ar gynigion, ceisiadau cynllunio ac apeliadau cynllunio a gorfodaeth, gan gynnwys rhoi tystiolaeth, yn ogystal ac arwain ar sicrhau mewnbwn y Gwasanaeth Cynllunio, i’r broses o baratoi’r Cynllun Datblygu Lleol ac unrhyw Ganllawiau Cynllunio Atodol.
•Arwain a gweithredu ar drefniadau gwaith cyson i ddarparu cyngor ac arweiniad arbenigol ar faterion polisi cynllunio i Adrannau / Gwasanaethau Gwynedd, Aelodau Etholedig a chwsmeriaid eraill y Gwasanaeth.
•Arwain ar ddarparu ymateb ar ran Gwynedd i ymgynghoriadau gan Lywodraeth Cymru a chyrff eraill perthnasol.
•Arwain a chydlynu mewnbwn Gwynedd i ddyletswyddau’r Cyd-bwyllgor Corfforedig (Gogledd Cymru) mewn cysylltiad a’r broses o baratoi Cynllun Datblygu Strategol, i geisio sicrhau fod y Cynllun yn cwrdd a blaenoriaethau ac anghenion Gwynedd.
•Arwain ar y gwaith o ddatblygu, paratoi, monitro ac adolygu Cynllun Rheolaeth Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE), a hyrwyddo polisïau a gweithrediadau i hybu, gwarchod a gwella’r AHNE.
•Arwain ar y gwaith dydd i ddydd yn y maes cynllunio mwynau a gwastraff, sydd yn cynnwys mewnbwn arbenigol ar faterion polisi cynllunio yn ymwneud a mwynau a gwastraff yn y Cynllun Datblygu Lleol, mewnbwn i strategaethau rhanbarthol a chenedlaethol, delio gyda ceisiadau cynllunio perthnasol, gwaith monitro a gorfodaeth, cynnig cyngor cynllunio ac apeliadau cynllunio / gorfodaeth – gyda hyn fel rhan o’r Gwasanaeth Cynllunio Mwynau a Gwastraff Gogledd Cymru.
•Arwain ar waith o baratoi a chyflwyno adroddiadau i’r Cabinet, Tîm Arweinyddiaeth, Cyngor Llawn, ac unrhyw Bwyllgor, Is-bwyllgor, Panel neu Fforwm, sydd yn gysylltiedig a dyletswyddau’r Tîm.
•Arwain ar brosiectau a gwaith ymchwil sydd yn flaenoriaeth uchel i’r Cyngor (e.e. Ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr) ac arwain / cynrychioli Gwynedd ar dimau prosiect a chyfarfodydd sirol, traws-sirol, rhanbarthol a chenedlaethol, sydd yn cyffwrdd â maes gwaith a dyletswyddau y Tîm.
•Rheoli a chydlynu rhaglenni gwaith a chyllidebau’r Tîm.
•Arwain y gwaith o gyfrannu at ddatblygu a gweithredu amcanion a pholisïau mewn strategaethau a chynlluniau corfforaethol y Cyngor.
•Arwain y gwaith o gyfrannu at dimau prosiect trawsadrannol a thraws sirol er mwyn cyfrannu at y gwaith o gynhyrchu Cynllun Datblygu Lleol, gwaith polisi cynllunio cysylltiedig a dyletswyddau eraill y Gwasanaeth.
•Dirprwyo ar ran y Rheolwr Polisi Cynllunio ar faterion perthnasol i’r Gwasanaeth.
•Cynorthwyo’r Rheolwr Polisi Cynllunio i sicrhau fod dyletswyddau’r Gwasanaeth yn cael eu gweithredu’n effeithiol.
•Cyfrifoldeb proffesiynol dros fonitro datblygiad a pherfformiad staff y Tîm ac i baratoi a gweithredu rhaglen hyfforddiant.
•Monitro perfformiad y Tîm a chyfrannu tuag rheoli perfformiad y Gwasanaeth yn unol a’r trefniadau corfforaethol y Cyngor.
•Cynorthwyo’r Tîm i sefydlu egwyddorion gweithredu gan ystyried deddfau perthnasol (e.e. Iechyd a Diogelwch, Deddf Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, Deddf Diogelu Data) a sicrhau eu bod yn cadw atynt.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Cyfarfodydd sydd tu allan i’r oriau gwaith arferol yn achlysurol.