Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Gweithredu o fewn Rheoliadau Maethu (2020)
•Gweithredu yn unol ag ethos ‘Maethu Cymru’
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Cyllid – Darparu cyngor ac arweiniad ymarferol a phriodol i ddefnyddwyr gwasanaeth er hwyluso rheolaeth cyllid effeithiol yn y Gwasanaeth.
•Offer – Cyfrifoldeb am unrhyw offer arbenigol a ddefnyddir i gyflawni y swydd
Prif ddyletswyddau
Dyletswyddau Cyffredinol
•Ymarfer o fewn y fframweithiau deddfwriaethol a’r canllawiau perthnasol sy’n sail i ddarpariaeth gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru
•Gweithredu’r cod ymarfer proffesiynol fel gweithiwr proffesiynol cofrestredig
•Atgyfnerthu a datblygu'r sgiliau a'r wybodaeth a enillwyd trwy gymwysterau ffurfiol trwy fentora ac arweiniad ymarferwyr profiadol. Mynychu gweithdai 3 blynedd gyntaf perthnasol o ymarfer a chwblhau'r Rhaglen Gadarnhau. Gweithio gyda'r mentor i ddatblygu ymarfer.
•Cymryd rhan weithredol mewn goruchwyliaeth fyfyriol reolaidd ac ymgynghori â'ch rheolwr llinell a chydweithwyr profiadol eraill. Parhau i ddatblygu eich ymarfer gwaith cymdeithasol trwy fyfyrio parhaus.
•Rheoli eich gwaith eich hun a bod yn atebol amdano.
•Cydweithio o fewn timau, rhwydweithiau a systemau amlddisgyblaethol ac aml- sefydliadol gydag arweiniad gan eich rheolwr llinell a chydweithwyr eraill mwy profiadol.
•Arfer barn broffesiynol a gwneud penderfyniadau yn gynyddol gymhleth o fewn y 3 blynedd gyntaf o ymarfer trwy fentora a goruchwyliaeth gan eich rheolwr llinell neu arweiniad gan gydweithwyr mwy profiadol.
•Rheoli materion moesegol, cyfyng-gyngor, a gwrthdaro, gydag arweiniad a chymorth yn cynyddu mewn cymhlethdod yn ystod y 3 blynedd.
•Paratoi a chyflwyno adroddiadau a chofnodion proffesiynol trwy arweiniad gan eich rheolwr llinell a gweithwyr cymdeithasol mwy profiadol, gan sicrhau bod gwybodaeth yn gywir, yn gyson, ac yn cael ei rhannu'n ddiogel ac yn briodol.
•Cefnogi a grymuso pobl i gymryd rhan mewn prosesau gwneud penderfyniadau.
•Eiriol gydag ac ar ran unigolion, teuluoedd, cynhalwyr, grwpiau a chymunedau.
•Cydweithio â phobl sydd angen gofal a chymorth a gweithwyr proffesiynol eraill gan gynyddu mewn cymhlethdod drwy gydol y 3 blynedd.
•Cynnal asesiadau ac ymarfer sy'n seiliedig ar gryfder mewn ffordd sy'n hyrwyddo hunan benderfyniad, annibyniaeth a grymuso dan arweiniad eich rheolwr llinell neu gydweithwyr profiadol eraill a chydweithio ar achosion mwy cymhleth.
•Cynnal asesiad sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau gan ddefnyddio sgwrs ‘Beth sy’n Bwysig’ i nodi beth sy’n
bwysig i’r unigolyn, anghenion cymwys a datblygu cynlluniau sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau sy’n hwyluso gofal a chymorth gydag arweiniad gan eich rheolwr llinell a chydweithwyr eraill mwy profiadol a chydweithio ar achosion mwy cymhleth.
•Paratoi, cynhyrchu, gweithredu a gwerthuso cynlluniau gydag unigolion, teuluoedd, gofalwyr, grwpiau, cymunedau a chydweithwyr proffesiynol dan arweiniad eich rheolwr llinell neu weithwyr cymdeithasol mwy profiadol.
•Nodi, asesu ac ymchwilio i Oedolyn neu Blentyn sy’n wynebu risg yn unol â deddfwriaeth berthnasol a Gweithdrefnau Diogelu Cymru dan arweiniad rheolwr llinell neu gydweithwyr mwy profiadol a chydweithio ar achosion mwy cymhleth.
Dyletswyddau Lleol
•Helpu i recriwtio gofalwyr maeth;
•Gweithredu o fewn Rheoliadau Maethu (2020)
•Asesu gofalwyr maeth ar gyfer gofalu am blant a phobl ifanc mewn gofal a chyflwyno’r asesiadau i Banel Maethu Gwynedd;
•Helpu darganfod lleoliadau i blant a phobl ifanc sydd angen dod i fewn i ofal yr Awdurdod Lleol, unai o fewn adnoddau'r tîm neu adnoddau a ddarperir gan asiantaethau annibynnol;
•Adolygu’r gofalwyr maeth yn flynyddol er mwyn canfod os ydynt yn parhau i gyrraedd lefel disgwyliedig o fewn y cymhwyseddau maethu;
•Cyfrannu at hyfforddiant o safon uchel i ofalwyr maeth.
•Bod yn rhan o rota dyletswydd y tîm a cynghor a chefnogi gofalwyr maeth ar sail bod yn weithiwr dyletswydd.
•Ymateb i geisiadau am wybodaeth gan y Cyhoedd, asiantaethau eraill, y wasg ayyb ynglŷn á maethu.
•Gweithredu yn unol ag ethos ‘Maethu Cymru’
•Hyrwyddo dull therapiwtig o faethu.
Dyletswyddau Eraill
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Gweithio oriau anghymdeithasol yn achlysurol yn ôl yr angen.
•Bydd disgwyliad i ddeilydd y swydd fod yn rhan o unrhyw drefniadau gaiff eu sefydlu ar sail rota.