ADRAN ADDYSG
YSGOLION UWCHRADD
YSGOL TRYFAN, BANGOR
(Cyfun 11 - 18; 541 o ddisgyblion)
Yn eisiau: 1af o Fedi 2026
Swyddog Arholiadau
Swydd Barhaol - Rhan Amser (3 diwrnod)
Mae Llywodraethwyr yr ysgol yn awyddus i benodi person blaengar a brwdfrydig i weithio gyda thîm ymroddgar ac egnïol.
Prif gyfrifoldebau’r swydd fydd gweinyddu a chydlynu holl brosesau arholiadau ysgol gyfan yn unol â rheoliadau’r Cyrff Arholi a gweithredu fel aelod allweddol o’r staff ategol.
Mae'r rôl yn hanfodol er mwyn sicrhau pob chwarae teg i ddisgyblion yr ysgol a bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gywir a threfnus, yn fedrus ac yn awyddus i lwyddo.
Oriau gwaith: 22.5 awr yr wythnos, sef 3 diwrnod. Bydd gofyn am hyblygrwydd i gyfarch cyfnodau trwm arholiadau allanol (i’w drafod).
Bydd yn ofynnol i chi weithio 41 wythnos mewn blwyddyn ysgol (sef 38 wythnos tymor ysgol, 5 diwrnod Hyfforddiant Mewn Swydd yn ogystal â bod ar gael i weithio hyd at 6 diwrnod yn ystod gwyliau ysgol – yn cynnwys 2 ddiwrnod canlyniadau TGAU a 2 ddiwrnod canlyniadau Safon Uwch ym mis Awst).
Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa S1 (pwyntiau 12 – 17) (£15,879 - £17,539 y flwyddyn) yn ôl profiad a chymhwyster.
Mae’r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae’r ysgol yn gweithredu’n unol a’i Bolisi Iaith. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).
Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i drafod yn anffurfiol â'r Pennaeth Dr Geraint Owen Jones (Rhif ffôn 01248 352633) neu trwy e-bost: pennaeth@tryfan.ysgoliongwynedd.cymru
Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i’w cael gan Miss Bethan Thomas, Rheolwr Busnes a Chyllid, Ysgol Tryfan, Lôn Powys, Bangor, Gwynedd, LL57 2TU
(Rhif Ffôn: 01248 352633, e-bost: sg@tryfan.ysgoliongwynedd.cymru)
Os dymunir dychwelyd y cais drwy’r post, dylid ei ddychwelyd i’r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.
DYDDIAD CAU: 10.00 y bore, DYDD LLUN, MEHEFIN 8fed, 2026
Rhagwelir cynnal y cyfweliadau w/c 15/06/26
Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o’r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).
Mae’r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae’n disgwyl y bydd pob un o’i staff a’i wirfoddolwr yn rhannu’r ymrwymiad hwn.
Mae’r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae’n disgwyl y bydd pob un o’i staff a’i wirfoddolwr yn rhannu’r ymrwymiad hwn.