ADDYSG
YSGOLION UWCHRADD
YSGOL DYFFRYN NANTLLE, PENYGROES
(cyfun 11 - 18; 419 o ddisgyblion)
Yn eisiau: Cyn gynted â phosib.
Cymhorthydd Cefnogaeth Dysgu Lefel 4
Swydd Barhaol.
Mae Llywodraethwyr yr ysgol yn awyddus i apwyntio person brwdfrydig ac egnïol ar gyfer y swydd uchod sydd yn meddu ar y cymwysterau priodol a’r sgiliau addas.
Oriau gwaith: 32.50 awr yr wythnos
(40 wythnos waith mewn blwyddyn ysgol sef 38 wythnos tymor ysgol, 5 diwrnod mewn hyfforddiant yn ogystal â bod ar gael i weithio cyfwerth a’ch oriau wythnosol yn ychwanegol tu hwnt i’r oriau arferol).
Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa S1 pwyntiau 12 - 17 (£22,379 - £24,276 y flwyddyn) yn ôl profiad a chymhwyster.
Mae’r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae’r ysgol yn gweithredu’n unol a’i Bolisi Iaith. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).
Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i drafod yn anffurfiol â’r Pennaeth, Mrs Rhian Parry Jones
Dylid cyflwyno cais am y swydd ar-lein. Os nad yw hyn yn bosibl, yna gallwch gysylltu gyda Ms. Elen Williams, Swyddog Gweinyddol, Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes, Caernarfon, Gwynedd, LL54 6AA, (Rhif ffôn 01286 880345, e-bost: sg@dyffrynnantlle.ysgoliongwynedd.cymru.
DYDDIAD CAU: HANNER DYDD, DDYDD MERCHER, 03/06/26.
Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o’r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn yr Ysgol.
Mae’r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae’n disgwyl y bydd pob un o’i staff a’i wirfoddolwr yn rhannu’r ymrwymiad hwn.