Swyddi ar lein
Gweithredwr Ystafell Reoli a Danfonwr Swyddog Traffig
Gweler Hysbyseb Swydd | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 26-31669
- Teitl swydd:
- Gweithredwr Ystafell Reoli a Danfonwr Swyddog Traffig
- Adran:
- Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru
- Gwasanaeth:
- Uned Rheoli Rhwydwaith
- Dyddiad cau:
- 28/05/2026 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 42 Awr
- Cyflog:
- Gweler Hysbyseb Swydd
- Gradd tâl:
- S2
- Lleoliad(au):
- Canolfan Rheoli Traffig Gogledd Cymru (CRhTGC/NWTMC), Conwy
Manylion
Hysbyseb Swydd
Gweithredwr Ystafell Rheoli a Danfonwr Swyddog Traffig
CYFLOG: S2 (18-22) £41,478 i £44,321
(42hrs per week annualised (Pro Rata) 12hr shifts (inc. days and nights), 365 days a year).
LLEOLIAD: TMC, Conwy
Dylai ymgeiswyr fyw o fewn 45 munud i'r Ganolfan Rheoli Traffig, Morfa Conwy
Mae rôl swyddogaeth ddeuol Gweithredwr Ystafell Reoli a Danfonwr Swyddog Traffig yn rhan o dîm sy'n gyfrifol am reoli digwyddiadau ar y Rhwydwaith Cefnffyrdd yn ddiogel ac yn effeithlon.
Fel Gweithredwr yr Ystafell Reoli byddwch yn gyfrifol am fonitro ein Rhwydwaith Twneli a'n rhwydwaith ffyrdd ehangach i nodi digwyddiadau a phroblemau a chymryd camau priodol. Byddwch yn monitro ac yn gweithredu nifer o systemau twnnel a rheoli trafnidiaeth deallus a byddwch yn ymateb i ddigwyddiadau brys i sicrhau diogelwch bywyd. Byddwch yn gyfrifol am ddosbarthu gwybodaeth hanfodol i randdeiliaid mewnol ac allanol er mwyn hwyluso datrys digwyddiadau yn ddiogel.
Fel Anfonwr Swyddogion Traffig byddwch yn gyfrifol am leoli a chefnogi Swyddogion Traffig Llywodraeth Cymru wrth ymateb i ddigwyddiadau a digwyddiadau ar y rhwydwaith.
Mae'r ddwy rôl yn gofyn am sgiliau cyfathrebu rhagorol, y gallu i weithio dan bwysau a gwneud penderfyniadau wrth logio gwybodaeth yn gywir o fewn system reoli.
Ffurflen gais ar gael drwy ebostio swyddi@gwynedd.llyw.cymru
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd uchod, cysylltwch â Nichola Williams ar 01286685154.
Dyddiad Cau: 10.00am, DYDD IAU, 28/05/26.
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu â chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
Nodweddion personol
Hanfodol
Yn gallu gweithio’n ddiogel dan bwysau
Yn ymroddgar ac â’r gallu i'w gymell ei hun
Hyblygrwydd wrth weithio shifftiau a gallu i weithio dros amser / newid shifft yn rhesymol pan fo'n ofynnol er mwyn diwallu galw gweithredol
Dymunol
Profiad o weithio shifft mewn amgylchedd gwaith 24/7/365
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
O leiaf 5 TGAU gan gynnwys Saesneg a Mathemateg, gradd C neu uwch, neu gymhwyster cyffelyb mewn pwnc perthnasol.
Neu;
Profiad helaeth mewn amgylchedd ystafell reoli / gweithredol
A;
Rhaid cwblhau Pecyn Hyfforddi Twneli ACGChC sy'n gyfwerth ag NVQ Lefel 3 ymhen dwy flynedd o'r penodiad.
Dymunol
HNC neu gyfwerth mewn pwnc perthnasol.
Swyddog Traffig / Danfonwr Gwasanaethau Brys
Diploma Lefel 3 mewn Gweithrediadau Twneli Ffyrdd / Rheoli Traffig
Hyfforddiant Iechyd a Diogelwch
Profiad perthnasol
Hanfodol
Profiad o weithio mewn amgylchedd gweithredol neu wasanaethol.
Dymunol
Profiad o weithio mewn amgylchedd gweithredol priffyrdd / ystafell reoli
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
Gallu i weithio dan amgylchiadau all fod yn heriol a rheoli gwrthdaro’n effeithiol
Gallu i ddefnyddio a rheoli adnoddau
Bod ag agwedd ‘diogelwch yn gyntaf’ i weithgareddau
Trwydded Yrru ddilys gyfredol yn y DU.
Dymunol
Gwybodaeth o Ddeddf Diogelu Data 1998 a Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.
Gwybodaeth am Ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch perthnasol
Profiad mewn defnyddio systemau cyfathrebu diogel/agored a theleffoni IPFX
Gwybodaeth am y Gwasanaeth Swyddogion Trafnidiaeth
Anghenion ieithyddol
Gwrando a Siarad - Canolradd
Gallu cynnal sgwrs rwydd ar nifer o bynciau amrywiol bob dydd, a thrafod achosion sy’n ymwneud â’r maes gwaith.Gallu dilyn trafodaeth yn y Gymraeg, mewn Cymraeg Clir, ar faterion cyfarwydd yn ymwneud â’r swydd. Gallu cyfrannu at y sgwrs ac ateb cwestiynau.
Darllen a Deall - Canolradd
Deall gohebiaeth bob dydd ar faterion cyfarwydd yn y gwaith.Deall adroddiadau hirach mewn Cymraeg Clir a medru codi’r prif bwyntiau. ( Mae’n bosib y bydd angen cymorth gyda geirfa.)
Ysgrifennu - Canolradd
Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwydd i'r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan).
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd.
- Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
- Danfon Swyddogion Traffig Llywodraeth Cymru a chwblhau swyddogaethau rheoli digwyddiadau'r ystafell reoli.
- Monitro rhwydwaith cefnffyrdd a thwneli ar sail 24/7/365, asesu cyflwr y rhwydwaith yn barhaus a gweithredu yn ôl y gofyn, er mwyn cynnal rhwydwaith cefnffyrdd diogel a dibynadwy.
- Ymateb, cefnogi a chynorthwyo'r Gwasanaethau Brys, Gwasanaeth Swyddogion Traffig Llywodraeth Cymru a Darparwyr Gwasanaeth Eraill Llywodraeth Cymru mewn modd proffesiynol ac ymdrin â digwyddiadau a chynnal a chadw ar y rhwydwaith cefnffyrdd.
- Isafu tagfeydd a gyfyd yn sgil digwyddiadau a'r potensial am ddigwyddiadau eilaidd trwy asesu risg digwyddiadau yn weithredol a datblygu ymateb rheoli i ddigwyddiadau ar hyd y rhwydwaith cefnffyrdd.
- Rheoli a gweithredu Systemau Trafnidiaeth Deallus Llywodraeth Cymru a systemau rheoli twneli.
- Ymgymryd â darpariaeth a dosbarthu gwybodaeth Gwasanaeth Gwybodaeth Traffig Llywodraeth Cymru trwy amryw o gyfryngau er mwyn sicrhau teithiau mwy diogel a dibynadwy ar y rhwydwaith.
- Cydlynu gweithgareddau a gweithredoedd Cynnal a Chadw yn y Gaeaf.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. e.e. staff, cyllid, offer
- Rheoli ac ymdrin â chardiau allwedd a diogelwch ar gyfer Canolfan Rheoli Traffig Gogledd a Chanolbarth Cymru (CRhTGChC).
- Rheoli gwaith cynnal a chadw radios yn CRhTGChC.
Prif Ddyletswyddau.
Cyffredinol
Swydd Danfonydd:
- Blaenoriaethu a monitro'r gwaith o ddanfon adnoddau yn effeithiol a chofnodi gwybodaeth yn gywir ar ein systemau.
- Rhoi adborth ble bo'n briodol at ddiben gwella Gweithdrefnau Swyddogion Traffig yn barhaus.
- Hysbysu'r Rheolwr Tîm Gweithrediadau ar shifft o'r wybodaeth berthnasol er mwyn sicrhau trosglwyddiad di-dor a pharhad y swyddogaethau rheoli digwyddiad/rhwydwaith.
- Ymgymryd â hyfforddiant a chynnal y galluoedd sy'n ofynnol gan yr Asiantaeth a Llywodraeth Cymru ac sy'n berthnasol i'r swydd.
- Ymddwyn yn broffesiynol bob amser a sicrhau bod y ffordd yr ymdrinnir â'r cyhoedd, y Gwasanaethau Brys ac Asiantaethau eraill o safon uchel yn gyson.
- Cefnogi ac ymateb i'r Gwasanaethau Brys, Rheolwyr Llwybrau Cynorthwyol, Unedau Gwaith Priffyrdd, Contractwr Cynnal a Chadw Arferol (RMC) trwy ddanfon Swyddog Trafnidiaeth.
Swyddogaeth Gweithredwr:
- Monitro systemau ystafell reoli Llywodraeth Cymru (LlC) (megis TCC, Citilog) yn ystafell reoli CRhTGChC er mwyn canfod gwrthdrawiadau a digwyddiadau.
- Cefnogi ac ymateb i Wasanaeth Swyddog Traffig LlC, y Gwasanaethau Brys, Stiwardiaid Llwybrau, Unedau Gwaith Priffyrdd, Contractwyr Cynnal a Chadw Arferol (RMC) trwy ddefnyddio systemau'r ystafell reoli ar gyfer gwaith wedi'i drefnu.
- Rhoi'r wybodaeth berthnasol i staff y shifft nesaf er mwyn sicrhau trosglwyddiad di-dor a pharhad o weithgareddau rheoli digwyddiad / y rhwydwaith.
- Rhoi adborth ble bo'n briodol at ddiben gwella gweithdrefnau gweithredu'n barhaus.
- Ymgymryd â hyfforddiant a chynnal y galluoedd sy'n ofynnol gan yr Asiantaeth a Llywodraeth Cymru ac sy'n berthnasol i'r swydd.
- Ymddwyn yn broffesiynol bob amser a sicrhau bod y ffordd yr ymdrinnir â'r cyhoedd, y Gwasanaethau Brys ac Asiantaethau eraill o safon uchel yn gyson.
- Ymlynu at Systemau Rheoli Ansawdd yr Asiant Cefnffyrdd.
- Cefnogi a chynorthwyo Rheolwr y Rhwydwaith, Rheolwr Gweithrediadau, Rheolwr Tîm Gweithrediadau, Rheolwr Twneli, Rheolwr Llwybrau, a'r Gwasanaeth Swyddogion Traffig gyda'u dyletswyddau.
- Cynnal diogelwch ystafell reoli, adeiladau gwasanaeth twneli, ac adeiladau darlledu CRhTGC
Rheoli Digwyddiadau
Swyddogaeth Danfonwr:
- Ymateb trwy gymryd camau gweithredol i ymdrin â digwyddiadau ar y rhwydwaith ffyrdd ac yn ardal y twneli a'u rheoli, gan gynnwys danfon Swyddogion Traffig a chyfathrebu gyda rhanddeiliaid allweddol, megis Rheolwyr Llwybrau Cynorthwyol, Unedau Gwaith Priffyrdd Awdurdodau Partner, Unedau Cefnogi Digwyddiad, a'r Gwasanaethau Brys.
- Cofnodi, adrodd a logio'r holl gyfathrebu ar systemau niferus, yn gywir a chlir a chyfredol, ar gyfer amrywiaeth o gynulleidfaoedd a allai gynnwys asiantaethau allanol. Logio digwyddiadau sy'n cael eu hadrodd ar y cefnffyrdd gan ddefnyddio system Gorchymyn a Rheoli LlC i gynorthwyo gyda'r dad-friffio a'r dadansoddi.
- Monitro ac adrodd ar unrhyw weithgareddau maleisus/amheus ar y rhwydwaith.
- Rhoi gwybod i Reolwr y Tîm Gweithrediadau am unrhyw ddigwyddiad sydd angen sylw.
Swyddogaeth Gweithredwr:
- Ymateb trwy gymryd camau gweithredol i ymdrin â digwyddiadau ar y rhwydwaith ffyrdd ac yn ardal y twneli a'u rheoli, gan gynnwys cyfathrebu gyda budd-ddeiliaid allweddol, megis LlC, Gwasanaeth Swyddogion Traffig, Rheolwyr Llwybrau, Unedau Gwaith Priffydd Awdurdodau Partner, Unedau Cefnogi Digwyddiad, a'r Gwasanaethau Brys.
- Ymateb trwy ddilyn gweithdrefnau i gefnogi Gwasanaeth Swyddogion Traffig LlC, y Gwasanaethau Brys, Stiwardiaid Llwybrau, Unedau Gwaith Priffyrdd, Contractwr Cynnal a Chadw Arferol (RMC) trwy ddefnyddio systemau'r ystafell reoli yn ystod digwyddiadau ar y rhwydwaith.
- Ymgysylltu â Chadlywyddion Aur/Arian/Efydd yr Asiantaeth/Llywodraeth Cymru a'u hysbysu am faterion yn ymwneud â digwyddiadau; derbyn cyngor gan benaethiaid a gweithredu fel y bo'n briodol.
- Ymateb i alwadau'r System Teliffon Brys (ETS) ac ymdrin â nhw, gan gynnwys gwneud trefniadau i adfer cerbydau yn ôl y gofyn.
- Ymateb trwy gymryd camau gweithredol i ymdrin â thagfeydd ar y rhwydwaith ffyrdd ac yn ardal y twneli drwy osod Arwyddion Negeseuon Amrywiol, Arwyddion Rheoli Lôn ac amryw dechnegau rhannu gwybodaeth eraill.
- Cofnodi, adrodd a logio'r holl ddigwyddiadau sy'n cael eu monitro neu'u hadrodd ar y cefnffyrdd yn gywir ac ar y pryd gan ddefnyddio system Gorchymyn a Rheoli LlC, i gynorthwyo gyda gwaith dad-friffio a dadansoddi.
- Monitro ac adrodd ar unrhyw weithgareddau malieisus/amheus ar y rhwydwaith.
- Rhoi gwybod i Reolwr y Tîm Gweithredu am unrhyw ddigwyddiad sydd angen sylw.
Gwasanaeth Swyddogion Traffig Llywodraeth Cymru
Swyddogaeth Danfonwr:
- Rheoli adnoddau Swyddog Trafnidiaeth yn effeithiol, gan gynnwys danfon Swyddogion Traffig, monitro digwyddiadau, ailddosbarthu adnoddau a rhoi cyngor ar adnoddau safle materion ehangach sy'n ymwneud â digwyddiadau.
- Cyfarwyddo'r Uned Swyddogion Traffig at y digwyddiad agosaf unwaith bydd lleoliad wedi'i adnabod, gan ystyried a phennu'r adnoddau mwyaf addas ar gyfer y digwyddiad.
- Rhoi gwybodaeth a chyngor ynglŷn â hawliadau trydydd parti ac ymholiadau gan yr Heddlu.
- Mynychu gweithgareddau cyfreithiol i gyflwyno tystiolaeth fel tyst ble bo'r angen.
Swyddogaeth Gweithredwr:
- Rhoi gwybodaeth a chyngor ynglŷn â hawliadau trydydd parti ac ymholiadau gan yr Heddlu.
- Mynychu gweithgareddau cyfreithiol i gyflwyno tystiolaeth fel tyst ble bo'r angen.
Cyfrifoldebau Cyfathrebu
Swyddogaeth Danfonwr:
- Cyfathrebu'r anghenion a'r cyfarwyddiadau'n glir i Unedau Swyddogion Traffig niferus.
- Cynnal a diweddaru cofnodion o'r holl ddigwyddiadau sy'n cael eu trosglwyddo trwy'r systemau cyfathrebu.
- Hyrwyddo a meithrin perthnasoedd gwaith da gyda’r holl fudd-ddeiliaid allweddol, er mwyn cefnogi cydweithio rhwng sefydliadau
Swyddogaeth Gweithredwr:
- Gweithredu fel unig bwynt cyswllt yr Asiant ar gyfer Gogledd a Chanolbarth Cymru ar gyfer sefydliadau allanol gan gynnwys LlC, y cyhoedd, y gwasanaethau brys, cludwyr nwyddau, a chydlynu ymatebion gan bersonél ar-alwad yr Asiant, gan gynnwys Cadlywyddion Aur/Arian/Efydd.
- Ymdrin â chwynion ac ymholiadau gan y cyhoedd a sefydliadau eraill yn gwrtais a phroffesiynol.
Gwasanaeth Gwybodaeth Traffig
Swyddogaeth Danfonwr:
- Cyfuno'r wybodaeth a gyflwynir gan Swyddogion Traffig am oedi posib o ganlyniad i ddigwyddiadau neu waith ffordd a fydd yn effeithio'r cyhoedd.
Swyddogaeth Gweithredwr:
- Gweithredu fel unig bwynt cyswllt yr Asiant ar sail 24/7/365 a hysbysu'r Asiant a Swyddogion LlC am wybodaeth am y rhwydwaith.
- Cyfyngu ar ddelweddau TCC o wefan Traffig-Cymru os ceir digwyddiad.
- Dilyn gweithdrefnau i ddiweddaru gwefan Traffig-Cymru a dosbarthu rhybuddion geiriol i grwpiau defnyddwyr (trwy Clickatell).
- Darpariaeth llinell wybodaeth Traffig-Cymru y tu hwnt i oriau gwaith
Rheoli Twneli a Rhwydwaith
Swyddogaeth Danfonwr:
- Ymlynu at safonau, gweithdrefnau gweithredu, a pholisïau Llywodraeth Cymru.
- Lleihau tagfeydd sy'n digwydd yn sgil digwyddiadau, gan sicrhau nad oes unrhyw gyfaddawdu gydag Iechyd a Diogelwch. Monitro'r twneli a chyfarwyddo Swyddogion Traffig i'r ardal gywir pe bai angen cau'r Twneli.
Swyddogaeth Gweithredwr:
- Monitro systemau rheoli twneli (e.e. rheolaeth amgylcheddol, adeiladau gwasanaeth).
- Adnabod, cofnodi ac adrodd ar ddiffygion mewn offer gwallus a phrofi offer sydd wedi'i drwsio mewn modd ymarferol.
- Fel rhan o'r Rheoliadau Diogelwch Twneli Ffyrdd 2007, dylai Gweithredwyr roi gweithdrefnau a phrotocolau Rheoli Digwyddiad Twneli ar waith a'u rheoli er mwyn cynorthwyo rheng flaen y Gwasanaethau Brys wrth reoli digwyddiadau yn ardal twneli'r A55.
- Ymlynu at safonau, gweithdrefnau gweithredu, a pholisïau Llywodraeth Cymru.
- Cyfuno a rhannu gweithredoedd cynnal a chadw'r gaeaf ac adroddiadau ar gyflwr y ffyrdd.
Iechyd a Diogelwch a’r Amgylchedd
Danfonydd/Gweithredwr:
- Mae’n gyfrifoldeb ar bob gweithiwr yr Asiantaeth i gydymffurfio â’r polisïau Iechyd a Diogelwch, amgylcheddol ac ansawdd fel y cânt eu diffinio yn System Rheoli Busnes Integredig yr Asiantaeth.
- Sicrhau y cedwir yn gaeth at bolisïau a deddfwriaethau amgylcheddol ac Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith.
- Cymryd cyfrifoldeb am Iechyd a Diogelwch personol bob amser.
- Disgwylir i ddeiliad y swydd fod yn ymwybodol o ofynion deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch a chydweithredu gyda Rheolwr Iechyd a Diogelwch y Gyfadran er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth gyda'r gofynion perthnasol.
- Amlinelliad yn unig yw’r rhestr uchod o ddyletswyddau. Disgwylir i ddeiliad y swydd ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill sy’n berthnasol i natur a graddfa’r swydd, yn unol â cheisiadau rhesymol gan y Rheolwr Llinell.
- Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
- Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
- Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
- Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
- Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
- Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
- Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin.
Amgylchiadau Arbennig. e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
- Fel arfer, mae'n ofynnol gweithio shifft 12 awr dros batrwm shifft 42 awr yr wythnos (4 yn y gwaith 4 i ffwrdd) blynyddol, gan gynnwys gweithio oriau anghymdeithasol (nosweithiau, penwythnosau a Gwyliau Banc), a darparu gwaith shifft cyflenwi 24/7/356 ar gyfer Ystafell Reoli Canolfan Rheoli Traffig Gogledd Cymru.
- Bydd y shifft diwrnod 12 awr yn cael ei rhannu'n ddwy; 6 awr danfonwr a 6 awr gweithredwr.
- Bydd y shifft nos 12 awr yn cynnwys dyletswyddau Gweithredwr, yn ogystal â'r gofyn i ymgymryd â gwaith Danfon i ddiwallu anghenion gweithredol.
- Bydd goramser rhesymol yn rhan ofynnol o'r swydd
- Bod yn rhan o’r rota ar alwad i gynorthwyo mewn argyfyngau, absenoldeb salwch a digwyddiadau mawr ar y rhwydwaith yn ôl yr angen.
- Mae gofyn cwblhau Diploma Twneli ymhen dwy flynedd o gael eich cyflogi.