NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
- Hyderus, cydwybodol, gallu i weithio heb oruchwyliaeth a chwblhau gwaith mewn pryd.
- Gallu cyfathrebu yn effeithiol a thrafod gweithgareddau trethi gyda swyddogion, y cyhoedd, aelodau etholedig, mewn Tribiwnlys a hynny mewn ffordd sy’n adlewyrchu statws y swydd.
- Gallu ymdrin ag ystod o faterion cymhleth a chynhennus.
DYMUNOL
- Chwilio am gyfleoedd i ddatblygu yn broffesiynol.
- Parodrwydd a dyfalbarhad wrth wireddu hunan ddatblygiad personol.
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
- Lefel A neu gyfatebol.
- Gradd neu gymhwyster cyffelyb neu yn gweithio tuag at gymhwyster “Institute of Revenues, Rating and Valuation” (IRRV).
- Hyfforddiant perthnasol i ofynion y swydd.
DYMUNOL
- Tystiolaeth o ddatblygiad personol parhaus yn y maes trethi ac mewn sgiliau rheoli ehangach.
- Cymhwyster Proffesiynol.
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
- Profiad o weithio mewn maes trethi.
- Profiad o ddelio gydag unigolion heriol.
DYMUNOL
- Profiad o fynychu Tribiwnlys.
- Profiad o reoli staff.
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
- Dealltwriaeth gadarn am gyfraith, gweithdrefn a materion trethiant lleol.
- Gwybodaeth drylwyr am weithgareddau awdurdodau lleol.
- Gallu cynnal trefniadau rheoli ansawdd o’r radd flaenaf, er mwyn sicrhau ansawdd uchel a chyson i holl weithgareddau’r gwasanaeth.
- Y gallu i gynllunio a chyflawni gwaith o safon uchel gan gynnwys ysgrifennu a chynhyrchu adroddiadau.
DYMUNOL
- Dealltwriaeth o egwyddorion rheoli perfformiad a gwella effeithlonrwydd.
ANGHENION IEITHYDDOL
Gwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn. Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol. Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith).