Swyddi ar lein
Pennaeth Cynorthwyol Ysgol Pendalar, Caernarfon
£55,345 - £61,198 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 26-31666
- Teitl swydd:
- Pennaeth Cynorthwyol Ysgol Pendalar, Caernarfon
- Adran:
- Addysg
- Gwasanaeth:
- Ysgolion
- Dyddiad cau:
- 01/06/2026 12:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol
- Cyflog:
- £55,345 - £61,198 y flwyddyn
- Lleoliad(au):
- Ysgol Pendalar, Caernarfon
Manylion
Hysbyseb Swydd
ADDYSG
YSGOLION CYNRADD
PENNAETH CYNORTHWYOL
YSGOL PENDALAR, CAERNARFON
(Arbennig 4 – 19 oed: 121 o ddisgyblion)
CYFLOG: Ar y Raddfa Arweinyddiaeth L3- L7 £55,345 - £61,198
Dyddiad Dechrau: 1 Medi 2026 neu cyn gynted â phosib wedi hynny
Mae’r Corff Llywodraethol yn dymuno penodi Pennaeth Cynorthwyol brwdfrydig a blaengar, fydd yn cefnogi gweledigaeth ac ethos yr ysgol, gydag ymrwymiad i’r disgyblion, y sefydliad a’r gymuned. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â rôl y Pennaeth yn ystod ei absenoldeb o’r ysgol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar sgiliau addysgu rhagorol ynghyd â sgiliau rheolaethol ac arweinyddiaeth gref.
Mae’r gallu i addysgu’n effeithiol drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol i’r swydd. Mae’r ysgol yn gweithredu’n unol a’i Pholisi Iaith. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Gwahoddir unrhyw rai sydd â diddordeb a/neu sydd angen gwybodaeth ychwanegol i drafod yn anffurfiol gyda’r Pennaeth Mr Deiniol Harries (rhif ffôn 01286 672141) neu e-bost Deiniol.Harries@pendalar.ysgoliongwynedd.cymru
Dylid cyflwyno cais am y swydd ar-lein. Os nad yw hyn yn bosibl, yna gallwch gysylltu gyda Wendy Jones, Swyddog Busnes Ysgolion, rhif ffôn 01758 704043 e-bost WendyJones2@gwynedd.llyw.cymru
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallant gychwyn yn yr ysgol.
Rhagwelir cynnal Cyfweliad Swyddogol dydd Gwener, 5 Mehefin 2026 ar gyfer y swydd.
DYDDIAD CAU: 12 O’R GLOCH, DYDD LLUN, 1 MEHEFIN 2026.
(This an advertisement for the post of Assistant Headteacher at Ysgol Pendalar, Caernarfon for which the ability to teach through the medium of Welsh and English is essential. The Council will require a Disclosure and Barring Service certificate and confirmation of registration with the Education Workforce Council for the successful applicant before they can start at the school).
Mae’r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae’n disgwyl y bydd pob un o’i staff a’i wirfoddolwyr yn rhannu’r ymrwymiad hwn.
This authority is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this commitment.
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Brwdfrydig ac ymroddgar.
Ymrwymedig i welliant parhaus.
Gallu ysbrydoli, ysgogi a gosod her i eraill.
Ymgorffori gweledigaeth yr ysgol.
Ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc.
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
Gradd Anrhydedd.
Statws athro/athrawes wedi cymhwyso.
DYMUNOL
Gradd Uwch neu gymhwyster cyfwerth.
Tystiolaeth o ddatblygiadau proffesiynol parhaus perthnasol.
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad o ddatblygu strategaethau ysgol gyfan mewn meysydd allweddol megis addysgu a dysgu a/neu lles a chynhwysiad.
Profiad o sefydlu ac adeiladu partneriaethau gyda rhieni, y gymuned a gyda phartneriaid eraill.
DYMUNOL
Tystiolaeth o brofiad cyson a pherthnasol o arweinyddiaeth a rheolaeth effeithiol.
Tystiolaeth o weithio’n effeithiol gyda llywodraethwyr.
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Meddu ar wybodaeth dda o ddatblygiadau cyfoes mewn addysg yn lleol ac yn genedlaethol.
Meddu ar ddealltwriaeth eglur o egwyddorion dysgu o ansawdd, addysgu ac asesu yn y sector cynradd/uwchradd.
Meddu ar ddealltwriaeth gadarn o brosesau gwella’r ysgol.
Meddu ar wybodaeth gadarn o strategaethau gweithredu sy’n sicrhau safonau uchel o ymddygiad a phresenoldeb.
Gallu paratoi strategaethau ar gyfer sicrhau cynhwysiad cymdeithasol, amrywiaeth a mynediad.
Meddu ar wybodaeth dda o rôl y corf llywodraethol ac yn gallu gweithredu strategaethau gwelliant parhaus ac atebolrwydd.
Meddu ar wybodaeth dda o’r cwricwlwm ehangach tu hwnt i’r ysgol a’r cyfleoedd ar gyfer disgyblion a chymuned yr ysgol.
Dangos brwdfrydedd personol at y defnydd o’r iaith Gymraeg yn yr ysgol.
Meddu ar wybodaeth dda o ddatblygiadau diweddaraf addysg yn genedlaethol.
ANGHENION IEITHYDDOL
Gwrando a Siarad – Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.
Gallu darparu cyflwyniad wedi’i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Darllen a Deall – Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.
Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni’r swydd.
Ysgrifennu – Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnoleg ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae’n bosibl cael cymorth i wirio’r iaith).
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd.
• Sicrhau bod plant a phobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Cefnogi’r Pennaeth i ddarparu arweinyddiaeth gorfforaethol a rheolaeth broffesiynol ar gyfer yr ysgol.
• Cefnogi’r Pennaeth i sicrhau gwelliant parhaus a llwyddiant i’r ysgol yn sgil cyfleoedd dysgu ac addysgu o safon uchel i’r holl ddisgyblion a safonau cyrhaeddiad uchel ym mhob agwedd o waith yr ysgol.
• Cefnogi’r Pennaeth i greu amgylchedd gynhwysol a theg sydd yn sicrhau llesiant a ffyniant pob disgybl.
• Mae’r ysgol hon wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae’n disgwyl y bydd pob un o’i staff a’i wirfoddolwr yn rhannu’r ymrwymiad hwn.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
• Staff
Prif Ddyletswyddau.
Amodau
Mae gofynion y swydd hon i'w cyflawni yn unol â darpariaethau Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) ac o fewn amrediad dyletswyddau athrawon fel y'u nodir yn y ddogfen honno. Mae’r swydd hefyd yn ddarostyngedig i Amodau Gwaith Athrawon Ysgol yng Nghymru a Lloegr (Y Llyfr Bwrgwyn) ac i unrhyw amodau perthnasol a gytunwydyn lleol.
Rhaid i ddyletswyddau proffesiynol Pennaeth Cynorthwyol yr ysgol hon gael eu cyflawni yn unol â’r darpariaethau’r Deddfau Addysg, Gorchmynion a Rheoliadau sy’n weithredol dan y Deddfau Addysg, offeryn llywodraethu'r ysgol, unrhyw ddogfen ymddiriedolaeth sy’n berthnasol i’r ysgol ac unrhyw gynllun sy’n cael ei baratoi neu ei gynnal gan Yr Awdurdod Lleol dan Adran 48 Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(87).
Rhaid cyflawni’r dyletswyddau yn unol ag unrhyw reolau, rheoliadau neu bolisïau a wnaethpwyd gan gorff llywodraethu’r ysgol ac y mae’r corff hwnnw yn gyfrifol amdanynt; ac yn yr un modd unrhyw reolau, rheoliadau neu bolisïau a wnaethpwyd gan Yr Awdurdod Lleol o ran materion nad yw’r corff llywodraethu yn gyfrifol amdanynt.
Gweithredu’r ‘Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth’. Dylid hybu ac arwain nodweddion, gwerthoedd a dealltwriaeth broffesiynol, cynllunio gwaith yn hyderus gan osod targedau i’w monitro a’u hasesu wrth gynnal amgylcheddau dysgu effeithiol, lle mae pob dysgwr yn teimlo'n ddiogel a hyderus.
Mae'r dyletswyddau hyn i'w cyflawni yn ôl cyfarwyddyd rhesymol y Pennaeth a’r Dirprwy Bennaeth o bryd i'w gilydd fel y bo'n briodol. Mae'r Pennaeth Cynorthwyol yn atebol i’r Corff Llywodraethol a Phennaeth yr Ysgol. Disgwylir i’r Pennaeth Cynorthwyrol fod yn gyfrifol am yr ysgol yn absenoldeb y Pennaeth a’r Dirprwy.
Cyfrifoldebau Proffesiynol
Disgwylir i’r Pennaeth Cynorthwyol:
• feddu ar weledigaeth i ddarparu cwricwlwm arloesol ar gyfer ysgol;
• cyfrannu’n effeithiol a phroffesiynol gyda’r Pennaeth a’r Dirprwy i sicrhau gwelliant parhaus a llwyddiant i’r ysgol yn sgil cyfleoedd dysgu ac addysgu o safon uchel i’r holl ddisgyblion a safonau cyrhaeddiad uchel ym mhob agwedd o waith yr ysgol;
• bod yn gyd-gyfrifol am greu amgylchedd dysgu cyffrous, ysgogol a chynhyrchiol ar gyfer y disgyblion a’r staff;
• bod yn gyd gyfrifol am greu a chynnal cynhwysiad a llesiant pob disgybl;
• cyfrannu gyda’r Pennaeth a’r Dirprwy i sicrhau fod yr ysgol yn gwarchod gwerthoedd yr iaith Gymraeg ac yn dilyn Polisi Iaith yr Awdurdod;
• dirprwyo yn ystod absenoldeb y Pennaeth a/neu y Dirprwy yn ôl y gofyn;
• bod yn Aelod o’r Tîm Arweinyddol ac yn gweithredu portffolio o gyfrifoldebau strategol.
• dangos arweiniad cadarn er mwyn creu’r amgylchedd sy’n galluogi athrawon fodloni'r ’Safonau Proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth;’
• cynorthwyo gyda threfniadaeth, a datblygiad ysgol gyfan trwy ddarparu arweinyddiaeth strategol gyffredinol.
• arwain datblygu a chefnogi cyfeiriad strategol, gweledigaeth, gwerthoedd a blaenoriaethau’r ysgol;
• cyfrannu at waith y Pennaeth a’r Dirprwy mewn arwain a rheoli’r addysgu a’r dysgu;
• arwain, rheoli a datblygu’r gweithlu gan sicrhau ymglymiad i strategaethau arfarnu, rheoli perfformiad ac unrhyw ofynion datblygiad proffesiynol staff gydag ystyriaeth lawn o’r disgwyliad ynghylch cydbwysedd iach rhwng gwaith ac ymrwymiadau eraill pob aelod o staff;
• cyd-drefnu a lleoli adnoddau yn yr ysgol, gan gynnwys staff, mewn modd sy’n addysgiadol effeithiol, yn hyrwyddo nodau a gwerthoedd yr ysgol ac yn cael eu targedu at wella safonau addysgol pob disgybl;
• cyfathrebu’n effeithiol gyda’r corff llywodraethu, staff, disgyblion, rhieni a gofalwyr gan sicrhau atebolrwydd llawn;
• cydweithio gyda staff yr ysgol a gweithwyr proffesiynol perthnasol eraill yn yr ysgol a thu hwnt i'r ysgol, gan gynnwys cyrff ac asiantaethau allanol perthnasol;
• mewn cydweithrediad gyda’r Pennaeth, gweithredu fel rheolwr llinell ar arweinywr canol, (union feysydd i’w trafod yn unol â chryfder ac arbenigedd);
• arwain a chefnogi gweithgareddau allgyrsiol yn yr ysgol a’r tu allan iddi, gan gynnwys cysylltu â’r gymuned;
• rheoli a threfnu awyrgylch ysgol yn effeithiol ar yn effeithlon er mwyn ymateb i anghenion y cwricwlwm.
• trefnu a hwyluso cyfarfodydd gyda rhieni er mwyn hybu gwerthoedd yr ysgol;
• cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad;
• sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor;
• gweithredu o fewn polisïau’r cyngor/ysgol yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb;
• cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data;
• ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor;
• ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd;
• cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin.
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
• Gweithio tu allan i oriau gwaith arferol yn ôl y gofyn.
Amlinelliad yn unig o ddyletswyddau’r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o’r lefel cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw’r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau’r swydd newid o bryd i’w gilydd heb newid ei natur sylfaenol na’r lefel cyfrifoldeb.