ADDYSG
YSGOL FRIARS, BANGOR
(Cyfun 11 - 18: 1263 o ddisgyblion)
Yn eisiau: ar gyfer : Cyn gynted a phosib.
TECHNEGYDD GWYDDONIAETH
Swydd Barhaol (Rhan Amser).
Oriau gwaith: 22.2 awr yr wythnos.
(40 wythnos y flwyddyn, sef tymor ysgol ynghyd a dyddiau Hyfforddiant Mewn Swydd yn ogystal a 1 wythnos tu allan i dymor ysgol)
Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion brwdfrydig i weithio gyda thîm ymroddgar ac egnïol.
Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa GS4 pwyntiau 7-11 (£13,988 - £15,111 y flwyddyn) yn ôl profiad a chymhwyster.
Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb neu sydd angen mwy o wybodaeth i gysylltu i drafod yn anffurfiol gyda Phennaeth Y Gyfadran Wyddoniaeth, Mr David Varty, Rhif ffôn: 01248 364905
Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i’w cael gan Miss Bethan Roberts, Ysgol Friars, Lon y Bryn, Bangor, Gwynedd, LL57 2LN. Rhif ffôn: 01248 364905; e-bost: bethan.roberts@friars.ysgoliongwynedd.cymru. Os dymunir ddychwelyd y cais drwy’r post, dylid ei ddychwelyd i’r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.
Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o’r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.
DYDDIAD CAU: 10 O’R GLOCH, DYDD MAWRTH, 2 MEHEFIN 2026
Mae’r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae’n disgwyl y bydd pob un o’i staff a’i wirfoddolwr yn rhannu’r ymrwymiad hwn.