PWRPAS Y SWYDD
- Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
- Darparu gwasanaeth Clerigol i’r Corff Llywodraethol.
- Gweinyddu a chefnogi gwaith y Corff Llywodraethu yn unol â chanllawiau'r awdurdod lleol, gan weithio’n effeithiol gyda chadeirydd y llywodraethwyr a phennaeth yr ysgol.
- Mae’r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae’n disgwyl y bydd pob un o’i staff a’i wirfoddolwr yn rhannu’r ymrwymiad hwn.
CYFRIFOLDEB AM ADNODDAU (e.e. staff, cyllid, offer)
-
PRIF DDYLETSWYDDAU A THASGAU ALLWEDDOL
- Cyd-weithio gyda’r Cadeirydd a’r Pennaeth ar gynnwys rhaglen cyfarfodydd gan ddarparu papurau cefndir ar gyfer y cyfarfodydd hynny - 5 niwrnod gwaith cyn y cyfarfod.
- Darparu ac anfon rhaglen i aelodau’r corff llywodraethu - 5 niwrnod gwaith cyn y cyfarfod.
- Gwirio gyda’r Cadeirydd ar unrhyw faterion y gweithredwyd arnynt rhwng cyfarfodydd ac sydd angen eu hadrodd i’r corff llywodraethu.
- Mynychu cyfarfodydd y corff llywodraethu llawn yn ogystal â’r is-bwyllgorau statudol gan gymryd cofnodion priodol (hyd at 6 cyfarfod yn flynyddol yn unig). Gall y Clerc hawlio tal ychwanegol i glercio cyfarfodydd ychwanegol.
- Mae’n statudol i Gorff Llywodraethu gynnal o leiaf un cyfarfod o’r Corff Llawn yn dymhorol
- Cyfarfod ffurfiol y rhieni gyda’r Llywodraethwyr pe byddai gofyn yn dilyn petitiwn
- Is-bwyllgorau statudol yn ol y gofyn am dal ychwanegol os yw dros 6 cyfarfod mewn blwyddyn
- Sicrhau bod y Corff Llywodraethu yn pennu dyddiadau ar gyfer cyfarfodydd ymlaen llaw a bod y wybodaeth hynny yn hysbys i’r Awdurdod Lleol.
- Cynhyrchu ac anfon copïau drafft o’r cofnodion i’r Cadeirydd a’r Pennaeth cyn creu fersiwn derfynol i’w ddosbarthu i bob aelod o’r Corff Llywodraethu a ALl.
- Cofnodi presenoldeb llywodraethwyr mewn cyfarfodydd a rhagrybuddio unrhyw lywodraethwr sydd mewn perygl o’i ddatgymhwyso oherwydd diffyg presenoldeb.
- Cadw cofnod o dymor gwasanaeth pob llywodraethwr gan gysylltu â’r Awdurdod Lleol ar achlysuron pan fo cyfnod gwasanaeth yn dod i ben, neu pan fo ymddiswyddiadau.
- Gohebu ar ran y Corff Llywodraethu, yn ôl yr angen.
- Cadw trefn ar gofnodion, gohebiaeth a dogfennau eraill yng nghyswllt gwaith y corff llywodraethu.
- Cynorthwyo’r Pennaeth a’r Corff Llywodraethu i baratoi Adroddiad Blynyddol i Rieni.
- Mynychu a chadw cofnodion o Gyfarfod Llywodraethwyr a Rhieni wedi dilyn cais gan y Rhieni.
- Cynorthwyo’r Corff Llywodraethol i ddarparu tystiolaeth ar gyfer Gwobrau Ansawdd i’r Corff Llywodraethol.
- Mynychu’r cyrsiau a drefnir ar gyfer Clercod Llywodraethol, a chwblhau’r cwrs mandadol i glercod newydd. Dosbarthu gwybodaeth am hyfforddiant i’r Corff Llywodraethol, cadw cofnod o’r llywodraethwyr fynychodd.
- Cadw cofnod manwl o’r llywodraethwyr sydd angen mynychu cyrsiau mandadol . Rhagrybuddio unrhyw lywodraethwr sydd mewn perygl o’i ddatgymhwyso oherwydd diffyg mynychu cwrs mandadol.
- Disgwylir i’r Clerc gadw cofnod a gofalu fod Dadleniad Datganiad Troseddol a Datganiad Buddiant pob llywodraethwr yn gyfredol.
- Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
- Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
- Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
- Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.
- Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y Swydd.
GWASANAETH CLERCIO YMGYNGHOROL ESTYNEDIG:
Bydd y Clerc yn darparu gwasanaeth Ymgynghorol ac yn ychwanegol bydd yn:
- Rhoi arweiniad ar gyfrifoldebau cyfreithiol statudol y corff llywodraethol;
- Sicrhau bod cyfansoddiad y corff llywodraethol yn gywir yn unol â gofynion deddfwriaethol;
- Trefnu drafftio, arwyddo a chynnal Offeryn Llywodraethu’r corff llywodraethol;
- Cynghori ar Offerynnau Llywodraethu, rheoliadau llywodraethu ysgol, cylchlythyrau statudol, dyfarniadau cyfreithiol perthnasol a mesurau a gysylltir â llywodraethu ysgolion a all gael effaith ar rôl y corff llywodraethol;
- Cynghori ar gymhwyster, cworymau, gweithdrefnau ethol a rheoliadau anghymhwyso;
- Rhoi arweiniad ar sefydlu, cyfansoddiadau ac adolygiad (statudol) pwyllgorau (yn cynnwys cylch gorchwyl ar gyfer y pwyllgorau hynny);
- Rhoi arweiniad ar faterion cyfansoddiadol a gweithdrefnol;
- Monitro pwyntiau gweithredu i’w dilyn a gohebiaeth sy’n codi o benderfyniadau a wnaed mewn cyfarfodydd;
- Sicrhau bod polisïau statudol yn weithredol, ac anfonir copïau i’r ysgol o bolisïau a dogfennau eraill sydd wedi eu derbyn gan y corff llywodraethol;
- Ymchwilio yn ôl gofyn y corff llywodraethol;
- Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau a chyfrifoldebau eraill sy’n gymesur â’r swydd.
AMGYLCHIADAU ARBENNIG (e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.b.)
- Angen i weithio oriau anghymdeithasol - fin nos fel rheol y cynhelir cyfarfodydd y Cyrff Llywodraethol.
- Angen bod ar gael i gofnodi mewn 6 cyfarfod mewn blwyddyn
- Angen bod ar gael i gofnodi mewn is-baneli statudol yn ôl y gofyn am dal ychwanegol
- Angen bod ar gael i gofnodi mewn cyfarfod ffurfiol ar gais Rhieni gyda Llywodraethwyr.
ORIAU CLERCIO LLYWODRAETHOL (GS4) UWCHRADD
Paratoi ymlaen llaw cyn cyfarfod 4 awr bob cyfarfod
Cofnodion a gohebu wedi cyfarfod 8.5awr bob cyfarfod
Cyfarfod 2 awr
Cyfanswm oriau fesul cyfarfod 14.5awr
14.5awr x 6 cyfarfod = 87.5 awr y flwyddyn
Gweinyddiaeth Blynyddol (12.5 awr) - DBS,buddiannau, Cyrsiau Llywodraethwyr, Etholiadau, Aelodaeth, Rhestr Polisiau
Gweinyddu = 12.5 awr
Yn ychwanegol i hyn telir 2 awr ar gyfer hyfforddiant
NODYN
- 6 cyfarfod Corff Llywodraethol mewn blwyddyn.
- Pe byddai’r cyfarfod yn mynd dros 2 awr gall y Clerc hawlio goramser.
- Pe byddai’r corff angen gwasanaeth y Clerc mewn is-banel neu mwy na 6 cyfarfod gall y Clerc hawlio’r amser hwn yn ychwanegol.