Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Cyfrannu at weithredu polisïau’r Cyngor yn effeithiol o ran gwarchod y cyhoedd a busnesau cyfreithlon drwy hyrwyddo safonau uchel o gydymffurfiaeth gyda rheoliadau Gwarchod y Cyhoedd ac ymarfer da.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Offer - Cyfrifoldeb o ddydd i ddydd am sicrhau cyflwr derbynniol a diogelwch amrywiaeth o offer gan gynnwys offer amddiffynnol personol.
•Arian - Cyfrifoldeb achlysurol am arian, er enghraifft wrth ymgymryd â phrofion prynu/samplo.
Prif ddyletswyddau
•Gorfodaeth deddfwriaeth Safonau Masnach o fewn y Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd, yn benodol yn y maes Iechyd a Lles Anifeiliad ac Amaeth, lle fo gan deiliad y swydd yr awdurdodiad a chymwysterau priodol, trwy gyfrwng archwiliadau, ymchwiliadau a thrwy roi cyngor ac arweiniad i fusnesau ac aelodau o'r cyhoedd.
•Lle fo angen, arwain ar un neu fwy o feysydd gwaith a rhannu gwybodaeth berthnasol yn ymwneud ar bwnc i aelodau eraill o’r Uned.
•Cwblhau rhaglenni gwaith ac arolygon sbesiffig gall olygu defnydd offer arbenigol.
•Cymryd camau gorfodaeth lle fo’n briodol ac angenrheidiol gwneud hynny i sicrhau cydymffurfiaeth gyda chyfraith gyfredol, yn unol â pholisi gorfodaeth y Cyngor a threfniadau goruchwyliaeth gwaith y gwasanaeth.
•I gynorthwyo gydag addysgu defnyddwyr a darparu cyngor ac arweiniad i ddefnyddwyr gwasanaeth.
•I gynorthwyo gydag ymchwiliadau cymhleth.
•Delio a cheisiadau am wasanaeth a chwblhau ymweliadau wedi’i raglennu o fewn yr amseroedd ymateb a dargedwyd gan y gwasanaeth.
•I gynrychioli’r awdurdod fel tyst yn y Llys Farn, fel yr angen.
•Ymateb yn gyflym ac mewn modd priodol i argyfwng.
•Cydymffurfio gyda gweithdrefnau a chanllawiau cyllidol y Cyngor gan gyfeirio’n arbennig at unrhyw ffioedd a dderbynnir.
•Goruchwylio gwaith aelodau eraill o staff, sef myfyrwyr neu unigolion dan hyfforddiant, fel fo’n briodol.
•Cofnodi gwaith drwy’r dull(iau) sy’n ofynnol.
•Dirprwyo ar gyfer swyddogion eraill lle fo amgylchiadau yn mynnu hynny.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Ar brydiau bydd gofyn i ddeiliad y swydd gynnal archwiliad mewn amgylchedd budur / annymunol.
•Parodrwydd i weithio yn ystod oriau anghymdeithasol.
•Gall fo angen i’r deilydd gynllunio, gweithredu ac arolygu prosiectau ar gyfer cynnal neu wella iechyd a lles trigolion Gwynedd.
•Parodrwydd i fod yn hyblyg, a gweithio mewn meusydd eraill oddi fewn Safonau masnach/Trwyddedu a Iechyd yr Amgylchedd.