Pecyn Recriwtio Swyddog Morol_2026
Swyddog Prosiect Morol
Diolch am eich diddordeb mewn ymuno â’n tîm morol ac arfordirol.
Mae Gwynedd ac Ynys Môn yn enwog am eu harfordir eithriadol, eu bioamrywiaeth gyfoethog a’u cymunedau cryf. Mae Cyngor Gwynedd yn gweithio’n agos gyda phartneriaid ledled gogledd-orllewin Cymru i warchod, dathlu a rheoli’r amgylchedd morol arbennig hwn mewn modd cynaliadwy.
Edrychwn ymlaen at benodi Swyddog Prosiect Morol brwdfrydig ac ymroddedig i ymuno â'r tîm.
Mae rhagor o fanylion a y swydd ar gael yng ngweddill y ddogfen yma, ac mae mwy o wybodaeth am y buddion o weithio i’r Cyngor i’w weld ar ein gwefan www.gwynedd.llyw.cymru/swyddi
Yn y cyfamser, pe byddech yn dymuno cael sgwrs anffurfiol ar unrhyw agwedd o’r swydd mae croeso i chi gysylltu gydag Alison Hargrave, Swyddog Ardal Cadwraeth Arbennig ar e-bost: alisonpalmerhargrave@gwynedd.llyw.cymru
Edrychwn ymlaen at dderbyn eich cais
£30,559 - £32,654 yn ogystal â chyfraniad pensiwn Llywodraeth Leol.
Rydym yn chwilio am Swyddog Prosiectau Morol brwdfrydig, rhagweithiol a hynod gydweithredol i ymuno â’n tîm sy’n ehangu. Wedi’i leoli yng Nghaernarfon, gyda hyblygrwydd i weithio mewn lleoliadau partner gan gynnwys Bangor, Bodorgan a safleoedd eraill yn ôl yr angen. Mae hwn yn gyfle unigryw i rywun sy’n angerddol dros yr amgylchedd morol ac arfordirol ac sy’n ffynnu ar gysylltu pobl, sefydliadau a chymunedau er mwyn cyflawni newid cadarnhaol ymarferol.
Dyddiad cau: 08/06/2026
Cynhelir cyfweliadau ar 23/06/2026