Y Pum Safon Proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth
ADDYSGEG
Mireinio Addysgu
- Rheoli’r amgylched dysgu
- Asesu
- Gwahaniaethu
- Cofnodi ac Adrodd
- Cynnwys Partneriaid mewn Dysgu
Hyrwyddo Dysgu
- Pedwar diben i ddysgwyr
- Ymelwa ar ddisgyblaethau pynciol mewn meysydd dysgu
- Profiadau dysgu cyfunol
- Cyd-destunau bywyd go iawn dilys
- Dilyniant mewn dysgu
- Themâu trawsgwricwlaidd
Dylanwadu ar Ddysgwyr
- Herio a disgwyliadau
- Gwrando ar ddysgwyr
- Dysgwyr yn arwain dysgu
- Ymdrech barhaus a gwydnwch dysgwyr
- Myfyrio ar ddysgu
- Deilliannau dysgu a lles
CYDWEITHREDU
- Ceisio cyngor a chymorth
- Gweithio gyda chydweithwyr yn yr ysgol
- Cefnogi a datblygu eraill
- Galluogi gwelliannau
DYSGU PROFFESIYNOL
- Darllen ehangach a chanfyddiadau ymchwil
- Rhwydweithiau a chymunedau proffesiynol
- Dysgu proffesiynol parhaus
- Sgiliau Cymraeg
ARLOESI
- Cynnig arbenigedd
- Datblygu technegau newydd
- Gwerthuso effaith newid mewn ymarfer
ARWEINYDDIAETH
- Cymryd cyfrifoldeb personol
- Arfer cyfrifoldeb corfforaethol
- Arwain cyd-weithwyr, prosiectau a rhaglenni
- Cefnogi rolau arweinyddiol ffurfiol
Mae disgwyl bydd pob athro yn ymrwymo i’r Safonau Proffesiynol a’u datblygu.
Gwerthoedd ac Ymagweddau Cyffredin
Mae’r athro yn pwysleisio’n gyson ei bod yn hollbwysig hyrwyddo iaith a diwylliant Cymru. Caiff dysgwyr eu helpu i feithrin sgiliau ym mhob maes dysgu ac achubir ar bob cyfle i ymestyn sgiliau a chymhwysedd dysgwyr.
Bydd anghenion a hawliau dysgwyr yn ganolog ac yn cael blaenoriaeth yn ymagwedd yr athro at ei swydd. Mae gan yr athro ddisgwyliadau uchel ac ymrwymiad i sicrhau bod pob dysgwr yn cyflawni.
- Llythrennedd, Rhifedd a Chymhwysedd Digidol
Mae’r athro yn pwysleisio’n gyson bod llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol yn hollbwysig. Caiff dysgwyr eu helpu i feithrin sgiliau ym mhob maes dysgu ac achubir ar bob cyfle i ymestyn sgiliau a chymhwysedd dysgwyr.
Mae’r athro yn ddysgwr proffesiynol ac yn ymrwymo i ddatblygu, cydweithredu ac arloesi’n barhaus drwy gydol ei yrfa.
Mae’r athro yn ymrwymedig i ddysgwyr ym mhob man ac mae’n chwarae rhan ddylanwadol wrth ddatblygu diwylliant addysg cydlynol yng Nghymru.
Mae gan yr athro hawl broffesiynol i fod yn rhan o ysgol sy’n ystyried ei hun yn sefydliad dysgu. Mae gan yr athro yr ymreolaeth i gyfrannu at y proffesiwn yn lleol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang ac mae ganddo’r hawl i ddechrau a chefnogi gwelliannau i’r ysgol er budd dysgwyr.