Adran Oedolion Iechyd a Llesiant
LLEOLIAD: - CARTREF PRESWYL CEFN RODYN,
DOLGELLAU
CYMHORTHYDD GOFAL
Oriau: 30 awr yr wythnos
Cyflog: £20,742 - £21,072 y flwyddyn
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Gwahoddir ceisiadau am y swydd uchod i weithio fel aelod o dim i sicrhau awyrgylch mor gartrefol a phosib i drigolion mewn cartref i bobl hŷn. Y prif ddyletswyddau fydd sicrhau bod y Cartref yn lan, cynnes a chyfforddus, ac i ofalu am les gorfforol ac emosiynol y trigolion.
Dylai deilydd y swydd feddu ar natur gyfrifol ac aeddfed. Disgwylir i’r person fod ag agwedd sensitif tuag at anghenion y trigolion ac yn parchu eu preifatrwydd. Bydd profiad a chymhwyster ym maes gofal yn fanteisiol. Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus ymrwymo i raglan hyfforddi yr Adran.
Gofynnir i bawb sy’n cael rhestr fer am gyfweliad ymgeisio am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Rheolwr Cartref Preswyl Cefn Rodyn, Dolgellau. Gwynedd. (Ffon: 01341 422975)
I ymgeisio am y swydd cliciwch ar y linc yma
Bydd angen sicrhau eich fod wedi lawrlwytho ‘Adbobe Reader DC’ er mwyn gallu cwblhau ffurflen gais.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan Gwasanaeth Cefnogol, Adran Cefnogaeth Gorfforaethol, Cyngor Gwynedd, Stryd y Jêl, Caernarfon. LL55 1SH. Rhif Ffon 01286 679076.
DYDDIAD CAU: 19/05/2026
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais NEU lythyr. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.