Mae'r swydd ddisgrifiad hwn i'w gyflawni yn unol â darpariaethau Dogfen Cyflogau ac Amodau Athrawon ysgol ac o fewn amred dyletswyddau athrawon fel y'u nodir yn y ddogfen honno cyn belled ag y bo hynny'n berthnasol i deitl y swydd a graddfa gyflog y sawl sydd yn y swydd. Mae’r swydd hefyd yn ddarostyngedig i Amodau Gwaith Athrawon Ysgol yng Nghymru a Lloegr (Y Llyfr Bwrgwyn) ac i unrhyw amodau perthnasol a gytunwyd yn lleol.
Mae'r dyletswyddau hyn i'w cyflawni yn ôl cyfarwyddyd rhesymol Pennaeth Strategol yr ysgol o bryd i'w gilydd fel y bo'n briodol.
Mae'r prif ddyletswyddau gwaith sydd ynghlwm wrth y swydd hon fel a ganlyn:
Dysgu yn unol ag anghenion addysgol y disgyblion a roddir dan ei
(g)ofal gan gynnwys gosod a marcio gwaith sydd i'w wneud gan y disgybl ar y safle neu ar safle arall.
Cynllunio a pharatoi cyrsiau a gweithgareddau a dyletswyddau perthnasol er mwyn integreiddio gwaith y dosbarth a gwaith drwy'r ysgol.
Cyfrifoldebau Penodol:
Y cyfrifoldebau penodol sy'n gysylltiedig â swydd yr athro/athrawes dosbarth fydd:
- Sicrhau lles a diogelwch pob disgybl o dan ei (g)ofal. Tynnu sylw’r Pennaeth Cam (Ffês) neu’r Pennaeth Safle at unrhyw broblem.
- Cynnig addysg o’r radd flaenaf i’r disgyblion, gan dalu sylw teilwng i oed, gallu a diddordebau’r unigolion.
- Creu a chynnal man gwaith deniadol a phleserus, gan ddefnyddio arddangosfeydd o waith plant a staff yn rheolaidd, ac annog y disgyblion i gadw’r ystafelloedd dysgu yn lân ac yn daclus.
- Yn unol ag arweiniad cyfredol yr ysgol, cynllunio rhaglenni gwaith yn ofalus a thrylwyr. Hefyd, cynllunio a pharatoi gwersi yn ofalus a thrylwyr.
- Paratoi deunyddiau dysgu ac addysgu ar gyfer y gwersi a ddysg
- Sicrhau fod adnoddau/deunyddiau/offer perthnasol ac addas yn barod ymlaen llaw.
- Dysgu â brwdfrydedd gan ymestyn pob disgybl a roddir i’w (g)ofal hyd eithaf ei (g)allu.
- Gosod a marcio gwaith y disgyblion yn unol â`r canllawiau ysgol.
- Cynllunio a deall y cyd-destun polisi addysg genedlaethol yng Nghymru a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg, gan gynnwys deall egwyddorion y Cwricwlwm Cymreig a Chwricwlwm am Oes sut y dylid ei ddefnyddio fel sail i’w hymarfer.
- Cynllunio i addysgu a dysgu sgiliau llythrennedd a rhifedd a chymhwysedd digidol yn draws gwricwlaidd.
- Monitro cynnydd academaidd y disgyblion yn ei (g) ofal gan asesu, cofnodi ac adrodd (ar lafar ac yn ysgrifenedig) ar ymddygiad, ymdrech, cyrhaeddiad a chynnydd pob disg Hysbysu’r Pennaeth Cam (Ffês) o’r cynnydd neu unrhyw broblem.
- Gynnal disgyblaeth yn unol â’r rheolau a gweithdrefnau a fabwysiadwyd gan yr ysgol;
- Monitro presenoldeb disgyblion.
- Paratoi adroddiadau ysgrifenedig i’r rhieni yn unol â pholisïau’r ysgol ac yn ôl cyfarwyddyd y Pennaeth Strategol.
- Darparu adroddiadau achlysurol ar gynnydd disgyblion yn ôl y galw.
- Cyflawni dyletswyddau bore, egwyl a phrynhawn yn unol â Pholisi Iechyd a Diogelwch yr ysgol a’r amserlen a gyhoeddir ar ddechrau pob blwyddyn academaidd.
- Mynychu a chyfrannu i gyfarfodydd staff yn ymwneud â chwricwlwm yr ysgol, trefniadaeth yr ysgol, gan gynnwys gweithdrefnau bugeiliol.
- Mynychu Nosweithiau Rhieni yn ôl y galw er mwyn trafod datblygiadau disgyblion.
- Mynychu cyfarfodydd eraill yn ôl y galw, gan gynnwys y tu allan i oriau arferol yr ysgol.
- Cyfrannu i’w (d)ddatblygiad personol a phroffesiynol gan fyfyrio, cynnal deialog broffesiynol, mynychu HMS yn ôl y galw a chymryd rhan yn nhrefniadau’r ysgol ar gyfer gwerthuso a rheoli perfformiad
- Cyfrannu’n bwrpasol i ddatblygu Ysgol Bro Idris i fod yn ganolfan sy’n cynrychioli’r arferion a’r safonau proffesiynol uchaf.
- Cydweithio`n effeithiol a pharchus a chyd-gefnogol fel aelod o dîm proffesiynol.
- Cydweithio’n effeithiol gyda Penaethiaid Cynorthwyol Cam (Ffês) a/neu Penaethiaid Maes i gynllunio, gweithredu ac arfarnu gweithrediad y cynllun datblygu maes neu Ffês.
- Cydweithio’n effeithiol gyda Penaethiaid Cynorthwyol Cam (Ffês) a/neu Penaethiaid Maes i fonitro safonau gwaith y disgyblion mewn llyfrau a ffeiliau yn rheolaidd.
- Cydweithio’n effeithiol gyda Penaethiaid Cynorthwyol Cam (Ffês) a/neu Penaethiaid Maes i fonitro ansawdd yr addysgu a’r dysgu gan hybu addysgu a dysgu effeithiol e.e. triawdau dysgu.
- Meddu ar ddisgwyliadau uchel o ran datblygu’r iaith Gymraeg yn unol â natur ddwyieithog Cymru, a datblygu’r dimensiwn Cymreig.
- Gyfrifol am oruchwylio gwaith cymhorthydd neu gymorthyddion sy'n berthnasol i'w ddyletswyddau.
- Pe byddai angen, disgwylir i ddeilydd y swydd fod ar gael i weithio ar unrhyw safle yn ôl y gofyn.
Cysylltiadau:
Mae deilydd y swydd yn ymatebol i Bennaeth Strategol neu i Bennaeth Cynorthwyol Cam (Ffês) am ddyletswyddau a chyfrifoldebau dysgu ac am dasgau dysgu.
Bydd deilydd y swydd yn:-
-rhyngweithio ar lefel broffesiynol efo'i gydweithwyr ac yn ceisio sefydlu a chynnal perthynas gynhyrchiol a nhw er hyrwyddo cyd-ddealltwriaeth o bynciau o fewn cwricwlwm yr ysgol gyda golwg ar wella ansawdd y dysgu a’r addysgu yn yr ysgol yn rheolaidd.
-gyfrifol am oruchwylio gwaith cymhorthydd sy'n berthnasol i'w ddyletswyddau.
YN YCHWANEGOL gofynnir i chwi ymgymryd â'r dyletswyddau a ganlyn:
Ymgymryd â'ch dyletswyddau fel athro / athrawes sy'n gyfrifol am y maes / meysydd isod yn yr ysgol yn unol â Chynllun Datblygu’r Ysgol.
Cydweithio gydag athrawon eraill i ddatblygu polisi a chynllun gwaith yn y maes / meysydd isod yn unol â Chynllun Gwella'r Ysgol
Gellir newid y swydd-ddisgrifiad a'r cyfrifoldebau penodol trwy gytundeb o bryd i'w gilydd.