ADDYSG
YSGOLION DILYNOL
YSGOL GODRE’R BERWYN, Y BALA
(Cyfun 3 - 18: 586 o ddisgyblion)
Yn eisiau: Cyn gynted a phosib
ARWEINYDD BYSNES A CHYLLID
Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion brwdfrydig i weithio gyda thîm ymroddgar ac egnïol
Disgwylir i’r ymgeisydd fod â sgiliau cyfrifiadurol a gweinyddol o safon uchel, sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar ac ar bapur ynghyd ag agwedd hyblyg a sgiliau gofal cwsmer o’r radd flaenaf.
Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos
(41 wythnos waith mewn blwyddyn ysgol sef 38 wythnos tymor ysgol, 5 diwrnod mewn hyfforddiant yn ogystal â bod ar gael i weithio cyfwerth a’ch oriau wythnosol yn ychwanegol tu hwnt i’r oriau arferol)
Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa S4 pwyntiau 26 – 28 (sef £34,346 - £36,070 y flwyddyn) yn ôl profiad a chymhwyster.
Mae’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd. Mae’r ysgol yn gweithredu’n unol a’i Bolisi Iaith. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Gwahoddir unrhyw rai sydd â diddordeb a/neu sydd angen gwybodaeth ychwanegol i drafod yn anffurfiol gyda’r Pennaeth, Mrs Bethan Emyr Jones e-bost: bethan.emyr@godrerberwyn.ysgoliongwynedd.cymru
Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i’w cael gan Iwan Jones, Arweinydd Busnes a Chyllid, Ysgol Godre’r Berwyn, Heol Ffrydan, Y Bala, Gwynedd, LL23 7RU (Rhif Ffôn: 01678 520259). Os dymunir dychwelyd y cais drwy’r post, dylid ei ddychwelyd i’r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.
DYDDIAD CAU: HANNER DYDD, DYDD GWENER, 15 O FAI, 2026.
Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o’r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).
Mae’r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae’n disgwyl y bydd pob un o’i staff a’i wirfoddolwr yn rhannu’r ymrwymiad hwn.